Skip to main content

Addysg Ddigidol

Nid lliwiau tlws yn unig: Defnyddio lliw a chyferbyniad yn gynhwysol.

24 Tachwedd 2025
Glasses over a colorful tulip field; flowers appear grayscale through the lenses illustrative of colour related vision impairments

Gan Alex Stewart a Heather Pennington, yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Yn dilyn ein blog diweddar ar ffontiau hygyrch a meintiau testun ‘ Peidiwch ag anghofio’r print mân: Awgrymiadau ar ddefnyddio ffontiau a meintiau testun sy’n hygyrch ’, mae’r neges hon yn canolbwyntio ar elfen arall hollbwysig o hygyrchedd digidol: lliw a chyferbynnu.

Ydych chi erioed wedi cael trafferth yn darllen testun gwan ar sgrîn llachar? I nifer o ddefnyddwyr, yn enwedig pobl sydd ag amhariad ar y golwg neu anghenion hygyrchedd penodol, mae lliw a chyferbyniad yn fwy na dewis dylunio’n unig – mae’n hanfodol i hygyrchedd.

Mae llawer o staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn dibynnu ar ddarllenwyr sgrîn, chwyddwyr, neu osodiadau gweledol wedi’u haddasu i weld cynnwys digidol. I bobl eraill, gan gynnwys y rhai sydd ag amhariad ar y golwg neu ddiffyg golwg lliw, mae cyferbynnu da a defnyddio lliwiau mewn modd ystyrlon yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng elwa’n llawn o’ch deunyddiau neu golli gwybodaeth bwysig.

Defnyddio lliwiau cyferbyniol

I hwyluso’r darllen, gwnewch yn siŵr bod cyferbyniad cryf rhwng y testun a’r cefndir. Testun tywyll ar gefndir golau – er enghraifft lliw du ar hufen, neu las tywyll ar lwyd golau – sydd fel arfer fwyaf effeithiol. Dylid osgoi defnyddio testun lliw golau ar gefndiroedd gwyn neu roi testun dros ddelweddau manwl neu raddiannau.

Yn ogystal â chyferbynnu da, byddwch yn ymwybodol o’r modd y mae gwahanol gyfuniadau lliw yn cael effaith ar ddefnyddwyr sydd â dyslecsia neu sy’n prosesu gwybodaeth weledol yn wahanol. Mae  canllawiau arddull Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn argymell osgoi defnyddio cefndir gwyn pur, sy’n achosi disgleirdeb. Yn lle hynny, defnyddiwch liwiau pastel meddal, llwydwyn, hufen neu lwyd golau. Defnyddiwch destun tywyll ar y cefndiroedd goleuach hyn – er enghraifft, glas tywyll ar felyn golau, neu frown tywyll ar hufen. Ceisiwch osgoi paru lliwiau megis gwyrdd a choch a phinc, sydd weithiau’n achosi problemau i ddefnyddwyr sydd â dyslecsia neu ddiffyg golwg lliw. Lle y bo’n bosibl, rhowch ddewis i’r defnyddwyr addasu’r lliwiau eu hunain gan ddefnyddio fformatau neu adnoddau hygyrch. Mae modd i’r newidiadau syml hyn leihau straen gweledol yn sylweddol a gwella darllenadwyedd i lawer o ddysgwyr.

Peidiwch â dibynnu ar liw yn unig

Os ydych chi’n defnyddio lliw i gyfleu ystyr (e.e. coch i ‘stopio’, gwyrdd i ‘fynd’), dylech bob amser gynnwys ail ddangosydd, er enghraifft eiconau, testun, neu labeli. Mae hyn yn helpu defnyddwyr sydd â diffyg golwg lliw a’r rhai sy’n addasu gosodiadau’r dangosydd sgrîn.

Mae’r Sefydliad Ymwybyddiaeth Lliw Ddall yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a deunyddiau i addysgwyr a phobl sy’n cefnogi profiadau myfyrwyr. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Profwch eich dyluniadau

Cewch ddefnyddio adnoddau megis Colour Contrast Checker WebAIM i  brofi a yw eich testun yn bodloni safonau’r WCAG.

Rhestr wirio lliw a chyferbyniad:

  • Ydy’r testun i’w weld yn glir ar y cefndir?
  • Ydych chi’n defnyddio mwy na lliw yn unig i gyfleu ystyr?
  • Ydych chi wedi profi gan ddefnyddio offer hygyrchedd?

Rhagor o wybodaeth

 Mae Canllawiau Hygyrchedd Digidol   Prifysgol Caerdydd yn cynnig arweiniad ymarferol, templedi y gellir eu lawrlwytho, ac adnoddau i’ch helpu chi i fodloni rheoliadau hygyrchedd i gefnogi pob dysgwr.

Mae’n bosibl cael effaith gadarnhaol a chreu amgylchedd dysgu cynhwysol drwy dreulio ennyd yn ystyried eich defnydd o liwiau.

Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch chi, neu os hoffech chi gael blogiau newydd, e-bostiwch LTAcademy@caerdydd.ac.uk.