Modiwl Taclus, Meddwl Taclus: Effaith Modiwl wedi’i Strwythuro’n Dda
15 Medi 2025
Mae pob un ohonon ni’n deall y teimlad o fod yn rhywle trefnus – hynny yw, mae i bopeth ei le ac mae’n hawdd dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch chi, a gallwch chi ddechrau’n syth ar y dasg dan sylw. Mae’r un peth yn wir am ddeunyddiau dysgu ar-lein. Gall modiwlau trefnus sydd wedi’u strwythuro’n glir ar Dysgu Canolog wneud gwahaniaeth mawr i brofiad dysgu ein myfyrwyr a hefyd ein llwyth gwaith ein hunain. Yn ôl yr arolwg diwethaf a geisiodd adborth gan ein myfyrwyr, roedd modiwlau cyson a threfnus ar Dysgu Canolog ar frig y rhestr o ddymuniadau.
Gwyliwch y fideo sy’n cynnwys Yaseen yn trafod trefnu deunyddiau dysgu.
Canllaw cam wrth gam i osod modiwl newydd
Mae’r Canllaw Gosod Modiwl Newydd ar Dysgu Canolog yn eich helpu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhyrchiol. Drwy ddilyn y cyngor cam wrth gam, mae modd i ni sicrhau bod gan fyfyrwyr bopeth sydd ei angen arnyn nhw i ganolbwyntio ar astudio. Mae cynllun cyson a rhagweladwy yn helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo’n gyflym, gan leihau gorbryder a’u galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf, sef eu dysgu.
Pan fydd myfyrwyr yn gallu dod o hyd i nodiadau o ddarlith, aseiniadau, rhestrau darllen ac ati’n hawdd, mae gorbryder yn lleihau, ac maen nhw’n teimlo bod ganddyn nhw reolaeth ar eu haddysg. Drwy gymryd camau syml, megis cynnwys amserlenni clir neu ddefnyddio confensiynau enwi cyson a chwiliadwy, mae modd i ni leihau nifer yr ymholiadau sy’n ein cyrraedd gan fyfyrwyr a rhyddhau amser i roi cymorth academaidd mwy ystyrlon.
Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi’n arbennig y gallu i weld deunyddiau dysgu cyn darlithoedd, sy’n eu galluogi i baratoi, a’r arfer o gyhoeddi recordiadau o ddarlithoedd yn brydlon wedi’r digwyddiad, a hynny mewn lleoliad disgwyliadwy megis ffolder y modiwl ar Panopto.
Os bydd sawl aelod o’r staff yn cyflwyno modiwl, mae sicrhau eu bod yn cydweithio o gymorth mawr er mwyn sicrhau bod y deunyddiau wedi’u trefnu’n gyson.
Gwyliwch y fideo sy’n cynnwys Agbo yn trafod sut mae modiwlau wedi’u strwythuro a’u trefnu.
Gall gwario ychydig bach o amser ar drefnu’r modiwl yn ystyriol cyn dechrau ei gyflwyno dalu ar ei ganfed o ran boddhad a llwyddiant myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Barod i ddechrau arni?
Mae’r Canllaw Gosod Modiwl Newydd ar Dysgu Canolog yn ganllaw cam wrth gam i osod modiwl newydd ar Dysgu Canolog, er mwyn sicrhau bod eich modiwlau’n glir, yn gyson ac yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.