Magu Hyder Drwy Gydweithio: Creu Canllaw i Fyfyrwyr ar gyfer Dysgu Canolog
8 Ionawr 2026
Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn y Tîm Addysg Ddigidol.
Mae dechrau’r brifysgol yn beth cyffrous, ond weithiau bydd yn gorlethu rhywun. I lawer o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, mae dod i nabod amgylchedd dysgu rhithwir newydd ond yn her ychwanegol mewn rhestr hir. Eleni, gofynnodd tîm Addysg Ddigidol gwestiwn syml: Sut gallwn ni wneud y profiad hwnnw’n haws?
Daeth yr ateb o le annisgwyl: Eesysoft, yr adnodd y mae ein cydweithwyr TG yn ei ddefnyddio i greu negeseuon naid penodol yn Dysgu Canolog (platfform Blackboard Ultra Prifysgol Caerdydd). Ar y dechrau, roedden ni eisiau deall sut roedd yn gweithio. Ond wrth inni ddysgu mwy am ei botensial, sylweddolon ni rywbeth mwy, sef cyfle i greu ganllaw ymarferol dan arweiniad a fyddai’n helpu myfyrwyr i deimlo’n hyderus o’r cychwyn cyntaf un.
Cyd-greu wrth ei graidd
Yn hytrach na dylunio hyn ar ei ben ei hun, ychwanegon ni’r lleisiau pwysicaf: y Myfyrwyr Hyrwyddo Roedd eu mewnbwn yn amhrisiadwy. Sonion nhw am y nodweddion y mae myfyrwyr yn eu defnyddio go iawn, beth sy’n cael ei anwybyddu a’r hyn sy’n peri penbleth. Trafodon ni’r manylion – er enghraifft, faint o gamau oedd yn ormod. Ddylen ni gynnwys nodweddion uwch neu gadw at y pethau hanfodol? Sut gallwn ni wneud hyn yn berthnasol i bawb, yn enwedig os yw ein cymuned mor amrywiol? Cafodd pob penderfyniad ei lunio gan eu safbwyntiau a chafodd pob cam ei ddylunio gan gadw cynhwysiant mewn cof. Roeddwn ni eisiau sicrhau bod y cymorth a roddwyd ar y sgrin yn mynd i’r afael ag anghenion go iawn myfyrwyr tra’n parhau i fod yn ddefnyddiol. Un darganfyddiad annisgwyl yn yr arolwg diweddaraf o gipolygon digidol oedd y nodwedd chwilio, sef nodwedd syml a all arbed amser a rhwystredigaeth, ond yn aml byddai defnyddwyr newydd yn ei cholli. Daeth cynnwys awgrymiadau defnyddiol fel hyn yn flaenoriaeth.
Dylunio er Eglurder
Roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i’r canllaw fod yn fyr, yn weledol ac yn hawdd i’w ddilyn. Wedi’r cyfan, nid oes ar neb eisiau darllen llawlyfr yn ystod yr wythnos gyntaf yn y brifysgol. Y canlyniad? Canllaw symlach sy’n cyfuno testun clir â GIFs sy’n dangos pob cam ar waith, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n ymarferol, yn hygyrch ac wedi’i ddylunio i leihau’r llwyth gwybyddol i fyfyrwyr sydd eisoes yn cydbwyso cynifer o bethau.
Pam mae hyn yn bwysig
Nid yw’r prosiect hwn yn ymwneud â thechnoleg yn unig, mae’n ymwneud â phontio. Mae symud i’r brifysgol yn gam mawr ac mae hyder digidol yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran y gefnogaeth a gaiff myfyrwyr yn eu barn nhw. Drwy greu’r canllaw hwn, rydyn ni’n helpu myfyrwyr i dreulio llai o amser yn dod i arfer â systemau a mwy o amser yn canolbwyntio ar y peth pwysicaf, sef dysgu.
Edrych tua’r Dyfodol
I ni, roedd hyn yn fwy nag ymarfer technegol. Gwaith ar y cyd oedd a oedd yn cyfuno arbenigedd staff â safbwyntiau myfyrwyr, gan ddangos bod yr atebion gorau yn dod pan fyddwn ni’n dylunio ar y cyd â myfyrwyr, nid ar eu cyfer nhw yn unig.
Os oes gennych chi syniadau fyddai’n gwneud profiad y myfyriwr yn well fyth, bydden ni wrth ein boddau yn eu clywed. Cysylltwch â ni! ltacademy@caerdydd.ac.uk