Skip to main content

Addysg Ddigidol

Llyfrgell Ficroddysgu Dysgu Canolog

11 Mawrth 2025

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Jordan Lloyd yn nhîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Cafodd Llyfrgell Ficroddysgu Dysgu Canolog ei chreu gan Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd i fod yn ffordd gyflym a hawdd o ddatblygu eich dealltwriaeth o’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir newydd. Mae pob fideo yn para 60-90 eiliad ac yn mynd â chi o nodweddion sylfaenol Blackboard Ultra, gan eich helpu i greu eich cwrs ac adeiladu cynnwys yn ogystal â nodweddion mwy datblygedig y platfform megis dyrannu addasiadau rhesymol ac adnabod a thrwsio materion sy’n ymwneud â hygyrchedd.

Mae’r llyfrgell yn cynnwys mwy nas 50 o fideos dwyieithog ac mae bron i 700 o wylwyr unigryw wedi elwa o’r canllawiau.

Rhannu nodwedd

Mae pob un o’r fideos yn y llyfrgell ar gael ichi eu defnyddio yn eich adnoddau. Pan fyddwch chi wedi agor fideo rydych chi eisiau ei ddefnyddio, sgroliwch i lawr a dewis “Rhannu”:

Yna bydd gennych chi’r opsiwn i gopïo’r ddolen neu ddefnyddio’r côd mewnosod i ychwanegu at adnoddau hyfforddi eich modiwl yn Dysgu Canolog:

Fel arall, gallwch chi lawrlwytho’r fideo i’ch dyfais leol:

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi neu os hoffech chi gael fideos newydd, cysylltwch â LTAcademy@caerdydd.ac.uk