Llwyddiant myfyriwr drwy Interniaeth ar y Campws
28 Gorffennaf 2025
Bu Taf Kunorubwe, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd yn yr Ysgol Seicoleg, yn goruchwylio’n myfyriwr Caitly O’Leary fel rhan o Gynllun Interniaeth ar y Campws 2024. Yn y blog hwn, mae Taf yn myfyrio ar y prosiect a’i lwyddiant.
Llwyddodd Caitlyn yn arbennig ar brosiect sy’n ymchwilio i’r heriau sy’n wynebu clinigwyr pan fydd cyfieithwyr ar y pryd yn cael eu defnyddio ym maes therapi seicolegol. Dangosodd fenter wrth gynhyrchu gwaith a oedd yn feddylgar ac yn effeithiol.
Rydyn ni wrth ein boddau i roi gwybod ein bod wedi cael ein gwahodd i gyflwyno poster ar yr ymchwil hon yng Nghyngres y Gymdeithas Ewropeaidd er Therapïau Ymddygiadol a Gwybyddol. Dyma gyfle anhygoel i dangos hyd a lled y prosiect a’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma adeg arwyddocaol i Caitlyn gyflwyno mewn cynhadledd ryngwladol ac yn enghraifft wych o’r profiadau gwerthfawr y bydd myfyrwyr yn eu cael yn aml yn sgil yr interniaethau hyn.
O’m safbwynt i, mae cael intern fel Caitlyn wedi bod yn hynod fuddiol — mae ei chyfraniadau wedi gwella safon a momentwm yr ymchwil yn ogystal â chyflwyno syniadau newydd ac egni i’r prosiect.
Rydyn ni wrth ein boddau i roi gwybod i’r prosiect hwn gael ei dderbyn a’i gyhoeddi hefyd mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid. Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw at y rhwystrau sylweddol ym maes therapi drwy gyfieithydd ar y pryd yng nghynllun Talking Therapies y GIG. Credwn y bydd y canfyddiadau hyn yn cyfrannu at wella mynediad a safon gofal i gleifion sy’n dibynnu ar wasanaethau cyfieithu ar y pryd.
Edrychwch ar y papur yma: Exploring staff experiences and perspectives on barriers in interpreter-mediated therapy within NHS England’s Talking Therapies.

Dyma ganlyniad gwych sy’n adlewyrchu safon gwaith Caitlyn a gwerth profiad yr Interniaeth Ymchwil Israddedig.
Hoffwn i ddiolch i Caitlyn yn arbennig am ei holl waith caled, ei hymroddiad a’i phroffesiynoldeb yn ystod y prosiect — roedd y rhain wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.
Diolch yn fawr unwaith eto am gynnal cynllun mor werthfawr ac am eich cefnogaeth barhaus.
Dymuniadau gorau,
Taf