Lansio Canllaw Sain Amgen Adeilad Morgannwg
7 Ebrill 2025
Lansiodd Poppy Gray, Intern ar y Campws, ganllaw sain amgen newydd ar 26 Mawrth.
Yn ddiweddar, mynydchodd staff yr Academi Dysgu ac Addysgu, Kat Evans ac Ela Pari Huws, lansiad canllaw sain newydd Adeilad Morgannwg. Cyfle oedd y lansiad inni fod ymhlith y cyntaf i brofi canllaw ymdrochi a gafodd ei ysgrifennu a’i recordio gan fyfyriwr israddedig yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Poppy Gray. Ymgymerodd Poppy â’r prosiect fel rhan o’i Interniaeth ar y Campws ar y cyd ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi ei ariannu gan yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Ar ôl inni gyrraedd Adeilad Morgannwg, cawson ni gôd QR i’w sganio a oedd wedi agor taith gerdded fideo sain o amgylch yr adeilad i gyfeiliant llais Poppy. Dechreuodd y daith y tu allan i’r adeilad cyn mynd i mewn iddo, gan hoelio ein sylw ar gerfluniau, portreadau a gwaith celf. Yn y daith gerdded mae cyfweliadau gyda staff a myfyrwyr sy’n trafod agweddau ar berthyn, cynhwysiant a hunaniaeth. Er bod yr adeilad yn gyfarwydd inni, yn y canllaw rydych chi’n cael gweld bod llawer o hanes yn llechu yn y rhannau hynny o’r adeilad sy’n ddigyfnewid i raddau helaeth ers dros ganrif. Mae canllaw Poppy yn ein hannog ni, ac ymwelwyr eraill ac aelodau’r staff, i fyfyrio’n feirniadol ar y penderfyniadau y tu ôl i’r dyluniad. Mae’n trin a thrafod pynciau sy’n ymwneud â’r broses o adeiladu ac yn ein hannog i ystyried treftadaeth yr adeilad ar sail hanes y berthynas rhwng dynion a menywod, dosbarth a hil.
Ar ôl mynd ar y daith sain o amgylch yr adeilad, buon ni’n gwrando ar ystod o siaradwyr a chawson ni’r cyfle i roi adborth am y daith a rhannu syniadau ar y camau nesaf.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ragor am brofiad Poppy o’r interniaeth yn ei geiriau ei hun ym Mlog y Gwyddorau Cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Esther Muddiman (muddimanek@caerdydd.ac.uk) yn SOCSI neu Agatha Herman (hermana@caerdydd.ac.uk) yn GEOPL.
Darllenwch ragor o’n blogiau ar Gynllun Ar y Campws y Brifysgol ac mae rhagor o fanylion ar fewnrwyd y staff.