Interniaethau ar y Campws yn y Ffair Swyddi ac Interniaethau
17 Mawrth 2025
Mae ein cyfleoedd Interniaeth ar y campws ar hyn o bryd yn agored i fyfyrwyr israddedig sy’n dychwelyd.
Roeddem yn falch iawn o gynnal stondin yn Ffair Swyddi ac Interniaethau Dyfodol Myfyrwyr yn ddiweddar ochr yn ochr â thimau eraill sy’n cynnig cyfleoedd myfyrwyr gwahanol. Roedd yn gyfle gwych i sgwrsio â myfyrwyr am ein cyfleoedd, ac roedd yn wych gweld myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn awyddus i wneud cais.
Am y cynllun
Mae’r cynllun Interniaeth Ar y Campws yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad cyflogedig gyda staff dros doriad yr haf, ac yn meithrin cydweithrediadau rhwng staff, myfyrwyr, sefydliadau allanol a phrifysgolion.
Mae rhaglen 2025 bellach ar agor i fyfyrwyr sy’n dychwelyd, a gall myfyrwyr nawr wneud cais ar eu cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. Mae’r cyfleoedd yn cau yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill.
Mae pedair elfen i’r cynllun Interniaethau ar y campws:
- Interniaeth ymchwil – gweithio gydag academyddion a chael blas ar yrfa mewn ymchwil
- Interniaetu dysgu ac addysgu – gweithio gydag academyddion i helpu llunio profiad myfyrwyr a chyfrannu at ddatblygiadau dysgu ac addysgu arloesol
- Interniaeth Arloesi ac Effaith – gweithio ochr yn ochr â staff academaidd ar brosiectau a fydd yn cael effaith yn y byd go iawn, mewn partneriaeth â sefydliad allanol
- Interniaeth gwasanaethau proffesiynol – gweithio gyda staff mewn adrannau gwasanaethau proffesiynol
Gofynnwn i staff rannu gwybodaeth am ein cyfleoedd interniaeth gyda’u myfyrwyr a’u cydweithwyr. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen fewnrwyd Staff Interniaethau ar y Campws, a gallwch ddarllen profiadau myfyrwyr o gymryd rhan yn y rhaglen ar ein blog Interniaeth ar y Campws.
Gall myfyrwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwahanol gynlluniau, meini prawf cymhwysedd a’r manteision o gymryd rhan mewn Interniaeth ar y campws ar fewnrwyd y Myfyrwyr.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am y cynllun, cysylltwch â ni: LTAcademy@caerdydd.ac.uk