Skip to main content

Interniaethau ar y Campws

Intern Ar-y-Campws yn rhannu ei brofiad cadarnhaol gyda ni

9 Rhagfyr 2024
Poster on Student Study Habits

Mae Jayden Wordley, myfyriwr Seicoleg yn rhannu ei brofiad ‘mwynhaol’ a ‘gwobrwyol’ ar Interniaeth Ar-y-Campws gyda’r Academi Dysgu ac Addysgu eleni.

1. Pam cyflwynoch chi gais am y Cynllun Interniaeth ar y Campws yn y lle cyntaf?

Ar ôl fy lleoliad, do’n i dal ddim yn siŵr beth ro’n i eisiau ei wneud yn y dyfodol. O wybod bod gen i ddiddordeb mewn ymchwil ac addysgu, gwnes i benderfynu ymgeisio am brosiect yn ymchwilio i arferion astudio myfyrwyr, gan y byddai hynny’n rhoi cipolwg da imi ar nid yn unig sgiliau ymchwil, ond hefyd gwybodaeth ar sut i gefnogi myfyrwyr y dyfodol yn y ffordd orau. Hefyd, ro’n i eisiau rhoi hwb pellach i’m CV, a ro’n i’n gwybod y byddai’r cynllun hwn yn gallu cynnig nifer o sgiliau amhrisiadwy imi. 

2. Beth oedd yn apelio am yr interniaeth benodol rydych chi wedi’i gwneud? 

Mae gwahaniaethau unigol a phrofiad y myfyrwyr wastad wedi bod yn ddiddordebau ym maes Seicoleg imi. Gwnaeth yr interniaeth hon gynnig prosiect imi allu ymchwilio i’r hyn ro’n i’n ymddiddori ynddo fwyaf, a rhoi cipolwg imi ar sut gallai fy niddordebau gyd-fynd ag ymchwil 

3. Oedd yr Interniaeth Ar-y-Campws beth oeddech chi’n ei ddisgwyl? A allwch chi ddisgrifio’r profiad? 

Roedd yn brofiad hynod bleserus, ac rwy’n drist ei fod wedi dod i ben mor fuan! Roedd fy ngoruchwyliwr Katy Burgess yn anhygoel, ac roedd y gweithio hyblyg o bell yn wych hefyd. Mwynheais i lawer mwy na’r disgwyl. 

4. Beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ei ddysgu yn ystod eich interniaeth? Sut bydd hyn yn effeithio ar eich astudiaethau / dewisiadau o ran gyrfa yn y dyfodol? 

Oni bai am sgiliau ymchwil – dadansoddi data, sgiliau ysgrifennu adroddiadau ac ati – y peth mwyaf gwerthfawr rydw i wedi’i ddysgu o’r prosiect yw beth dw i eisiau ei wneud gyrfa yn y dyfodol o ran gyrfa. Dysgais i gryn dipyn am fy niddordebau, a sut gallai fy ngyrfa fod, ac mae hynny’n gyffrous iawn! Rwy’n bendant yn mynd i ddilyn PhD mewn Seicoleg, a fy ngobaith yw canolbwyntio ar wahaniaethau unigol o fewn profiad y myfyrwyr, gan ymchwilio i sut i gefnogi myfyrwyr i ddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol.  

5. Beth oedd yr agwedd fwyaf heriol ar eich interniaeth? Beth oedd eich profiad? 

Ysgrifennu’r papur yn seiliedig ar y prosiect yw’r agwedd sydd wedi bod yr un fwyaf heriol. Ein gobaith fydd cyhoeddi’r papur hwn (sy’n gyfle anhygoel!), ond roedd llawer o bwysau arnon ni i gael hyn yn iawn. 

6. Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud ar ôl ichi orffen eich astudiaethau israddedig? 

PhD mewn Seicoleg; gan ganolbwyntio ar wahaniaethau unigol o fewn profiad y myfyrwyr, ynghyd â sut i gefnogi myfyrwyr i ddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol.  

7. Pa gyngor / awgrymiadau fyddech chi’n eu rhoi i fyfyriwr sy’n ystyried ymgymryd ag interniaeth? 

Ewch amdani! Yn wir, mae’n brofiad mor werth chweil! Amlygwch eich sgiliau yn eich cais, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu eich awydd a’ch diddordeb. Gweithiwch yn galed, a thrwy hynny, cewch chi ddysgu cymaint o sgiliau amhrisiadwy a gwybodaeth newydd!  

8. A oes unrhyw gymorth ychwanegol y gallai’r Academi Dysgu ac Addysgu fod wedi ei gynnig cyn eich interniaeth, yn ei hystod, neu ar ei hôl? 

Amherthnasol – ces i fy nghefnogi gydol y cyfnod! 

Am y cynllun

Mae’r cynllun Interniaeth Ar-y-Campws yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad cyflogedig gyda staff dros doriad yr haf, ac mae’n meithrin cydweithrediad rhwng staff, myfyrwyr, sefydliadau allanol, a phrifysgolion.

Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr, yn ogystal â’r cyfle i flasu ymchwil ôl-raddedig, gan eu galluogi i archwilio a ddylent symud ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig. I staff, mae’r cynllun yn rhoi cyfle i dderbyn adnoddau ychwanegol gwerthfawr i weithio ar eu hymchwil yn ystod yr haf, a chyfle i gael persbectif y myfyriwr i fwydo i’w prosiectau.

Darganfyddwch fwy am y cynllun a’n blog Interniaeth-Ar y-Campws newydd.

Gall staff Prifysgol Caerdydd wneud cais am gyllid lleoliad y flwyddyn nesaf erbyn 15 Ionawr 2025.