Skip to main content

Addysg Ddigidol

Gwneud i PDFs Weithio i Bawb: Awgrymiadau syml ar gyfer cynnwys cynhwysol

19 Ionawr 2026

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o’r Academi Dysgu ac Addysgu.

Defnyddir ffeiliau PDF yn helaeth ar draws y brifysgol i rannu gwybodaeth gyda myfyrwyr a chydweithwyr, ond nid nhw yw’r dewis mwyaf hygyrch bob amser. Yn wahanol i dudalennau gwe neu ddogfennau Word sydd wedi’u fformatio’n gywir, mae ffeiliau PDF yn aml yn brin o’r elfennau strwythurol sydd eu hangen ar dechnolegau cynorthwyol, fel darllenwyr sgrîn i ddehongli cynnwys yn gywir. Gall problemau fel sganiau sy’n cynnwys delweddau yn unig, cynlluniau cymhleth, a thagiau a thestun amgen sydd ar goll droi dogfen syml yn brofiad rhwystredig neu hyd yn oed yn anhygyrch i rai defnyddwyr. Pryd bynnag y bo modd, ystyriwch ddewisiadau eraill fel Word neu HTML/Ultra Docs, neu gwnewch yn siŵr bod eich ffeiliau PDF yn gwbl hygyrch ac wedi’u tagio’n gywir gan ddefnyddio adnoddau fel Adobe Acrobat. Dyma sut allwch chi wneud yn siŵr bod ffeiliau PDF yn gweithio i bawb.

Fformatau dewisol

Y ffordd hawsaf o gefnogi hygyrchedd yw ceisio osgoi defnyddio ffeiliau PDF yn gyfan gwbl neu ychwanegu atyn nhw â fformat hygyrch. Defnyddiwch ddogfennau Word neu dudalennau HTML (fel Ultra Documents ar Dysgu Canolog), sy’n fwy hyblyg ac yn hanfodol hygyrch.

Os oes rhaid defnyddio ffeiliau PDF

Weithiau mae ffeiliau PDF yn anodd eu hosgoi oherwydd natur y cynnwys. Yn yr achosion hynny:

  • Tagiwch eich ffeiliau PDF yn iawn fel y gall darllenwyr sgrîn ddilyn penawdau, rhestrau, delweddau a pharagraffau.
  • Ychwanegwch nodau tudalen mewn dogfennau hirach.
  • Mewn ffeiliau wedi’u sganio, defnyddiwch adnodd Adnabod Nodau Optegol i greu testun y gellir ei ddarllen gan beiriant. Gallwch chi ofyn am gopïau digidol hygyrch o ddeunydd darllen eich cwrs drwy Wasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol.

Creu PDFs Hygyrch yn Word

Os nad yw Adobe Acrobat gennych chi, gallwch chi barhau i greu ffeiliau PDF hygyrch yn uniongyrchol yn Word. Gwnewch yn siŵr bod eich dogfennau Word yn hygyrch cyn eu trosi’n ffeiliau PDF.

Adnoddau o ran hygyrchedd

Os ydych chi’n defnyddio Adobe Acrobat Pro, dilynwch y Canllaw Hygyrchedd Adobe hwn i wneud eich ffeiliau PDF mor hygyrch â phosibl.

Angen help?

Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y Canllaw Hygyrchedd Digidol heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.

Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych chi syniadau ar gyfer blogiau yn y dyfodol, cysylltwch â ni trwy e-bostio LTAcademy@caerdydd.ac.uk. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud cynnwys digidol yn fwy cynhwysol i bawb.