Skip to main content

Addysg Ddigidol

Gwella Cynhwysiant: Trafod Offeryn Hygyrchedd Mentimeter

31 Mawrth 2025

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Kamila Brown, Cynorthwyydd Technoleg Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Bydd y Gwiriad Hygyrchedd yn eich helpu’n gyflym i asesu cynhwysiant eich cyflwyniad Mentimeter. Pan fydd angen, bydd yn cynnig awgrymiadau ichi ei wella. Rwy wedi dechrau ei ddefnyddio yn fy nghyflwyniadau Menti, ac yma bydda i’n rhoi mwy o fanylion.

Sut mae’n gweithio

Mae’n rhoi sgôr hygyrchedd cyffredinol ichi yn ogystal â dadansoddiad manwl o’r ffactorau allweddol megis cyferbyniad y testun, testun amgen delweddau ac ystyriaethau hygyrchedd eraill. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ymarferol i wella pob un o’r agweddau hynny, gan sicrhau bod eich cyflwyniad yn hygyrch i’ch cynulleidfa.
Gadewch inni edrych ar y gwiriad hygyrchedd yn fy nghyflwyniad:

Mae sgôr cyffredinol hygyrchedd fy nghyflwyniad yn edrych yn iawn, ond dyw’r bar gwyrdd ddim wedi ehangu’n llawn. Mae hyn yn golygu y galla i ymchwilio i weld y ffactorau y mae angen sylw arnyn nhw:

Os cliciwch ar fotwm y chevron wrth ymyl pob nodwedd, byddwch chi’n cyrchu’r wybodaeth fanwl am bob gwelliant posibl. Yn fy nghyflwyniad, ceir pedair sleid heb ddelweddau testun amgen. Os clicia i ar un, bydd yn mynd â mi yn syth i bob sleid lle mae gofyn imi ychwanegu testun amgen.

Mae’r cyferbyniad hefyd yn dangos bod rhai o’r delweddau yn fy nghyflwyniad yn ‘isel’. Yn anffodus, y cyfyngiad yma yw nad yw Menti yn nodi pa sleidiau sydd dan sylw. Os felly, rwy’n tueddu i fynd yn ôl at y delweddau yn fy nghyflwyniad a’u gwirio’n unigol gan ddefnyddio offeryn ar-lein o’r enw WebAIM. Fel arall, cewch ddefnyddio’r gwiriwr hygyrchedd ar ôl creu pob sleid yn eich cyflwyniad.

Dod o hyd i’r Gwiriad Hygyrchedd

Gallwch chi ei gyrchu drwy agor Gosodiadau yn eich cyflwyniad (sef eicon y gledren ddanheddog) a dewis Hygyrchedd ar waelod y ddewislen:

Cymryd Rhan

Os oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol wrth ddefnyddio Dysgu Canolog neu blatfformau eraill, neu gwestiwn neu ymholiad, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu: LTAcademy@caerdydd.ac.uk