Gwella Asesiadau Gwaith Tîm gyda BuddyCheck: Crynodeb o Adolygiad 2024–25
13 Hydref 2025
Wrth i waith grŵp barhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu sgiliau cydweithredu, cyfathrebu a datrys problemau, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn trin a thrafod ffyrdd o wneud asesiadau gwaith tîm yn fwy teg ac effeithiol. Mae BuddyCheck yn adnodd sy’n prysur ddod i’r amlwg. Mae’n blatfform gwerthuso gan gyfoedion sydd wedi’i gynllunio i gefnogi asesiadau grŵp teg a thryloyw. Ar ôl ei ddefnydd ehangach ym mlwyddyn academaidd 2024–25, mae adolygiad cynhwysfawr wedi casglu adborth gan dros 1,000 o fyfyrwyr a 63 o staff academaidd ar draws 17 ysgol, ac mae’r canlyniadau’n galonogol.
Beth mae staff a myfyrwyr yn ei ddweud
Cafodd BuddyCheck gymeradwyaeth gref drwyddi draw:
- Disgrifiodd 74% o staff eu profiad yn un “da” neu “rhagorol.”
- Dywedodd 86% o fyfyrwyr fod y platfform yn hawdd ei ddefnyddio.
- Cytunodd 73% o fyfyrwyr fod sgorau unigol yn gwneud asesiadau grŵp yn fwy teg.
- 4.06 allan o 5 seren oedd sgôr gyffredinol boddhad myfyrwyr.
- Nododd 55% o fyfyrwyr symudiad tuag at ganfyddiad mwy cadarnhaol o asesiadau gwaith tîm.
Manteision Allweddol
1. Hyrwyddo Tegwch ac Atebolrwydd
Mae BuddyCheck yn helpu i sicrhau bod cyfraniadau unigol yn cael eu cydnabod, gan leihau’r risg o bobl yn cymryd mantais ar waith eu cyd-fyfyrwyr, ac annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o’u rolau. Nododd staff fod y platfform yn ei gwneud yn haws gweld tanberfformiad a chydnabod ymdrech wirioneddol, ac roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r tegwch o ran derbyn sgôr unigol am brosiect grŵp.
2. Hybu ymgysylltiad a chymhelliant
Gan wybod y byddai adborth gan gyfoedion yn dylanwadu ar eu gradd, nododd nifer o fyfyrwyr bod mwy o gymhelliant ac ymgysylltiad ganddynt. Gwelodd staff well cydweithio a deinameg tîm mwy adeiladol, gyda BuddyCheck yn meithrin diwylliant o fyfyrio a chyfrifoldeb.
3. Cefnogi Arferion Addysgu
Dywedodd dros draean o’r staff fod BuddyCheck wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar eu hagwedd at waith grŵp. Roedd yn lleihau’r baich gweinyddol, yn symleiddio prosesau adolygu gan gyfoedion, ac yn rhoi mwy o hyder i addysgwyr wrth reoli asesiadau gwaith tîm.
4. Gwella Canlyniadau Myfyrwyr
Sylwodd bron i hanner y staff ar welliannau ym mherfformiad neu foddhad myfyrwyr. Dywedodd myfyrwyr eu bod yn teimlo mwy o ymgysylltiad a chyfrifoldeb, gyda llawer yn dweud bod BuddyCheck wedi eu gwneud yn fwy agored i asesiadau gwaith tîm yn y dyfodol yn gyffredinol.
Edrych Tua’r Dyfodol
Mae BuddyCheck wedi profi i fod yn adnodd gwerthfawr wrth wella ansawdd a thegwch asesiadau grŵp. Gyda mireinio pellach a chefnogaeth sefydliadol, gall barhau i rymuso myfyrwyr, cefnogi staff, a gwella deilliannau dysgu ledled Prifysgol Caerdydd.
Os ydych chi’n ystyried defnyddio BuddyCheck yn eich modiwl, dyma amser gwych i ystyried ei botensial. P’un a ydych chi’n edrych i wella ymgysylltiad, symleiddio asesiadau, neu sicrhau graddau teg, mae BuddyCheck yn cynnig ateb hyblyg ac effeithiol.
Gallwch chi ddysgu rhagor a dechrau arni ar Dudalen fewnrwyd BuddyCheck, neu ewch yn syth i Ganllaw i Staff BuddyCheck i ddechrau defnyddio BuddyCheck.