Skip to main content

Interniaethau ar y Campws

Effaith hirdymor Interniaethau Ar y Campws

6 Mehefin 2025

“Yn dilyn y lleoliad, dechreuais i PhD yn yr un maes, ac ers hynny rwy wedi cychwyn ar fy ngyrfa academaidd mewn swydd ôl-dddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen”

Yn 2023, cynhaliodd yr Academi Dysgu ac Addysgu eu priod brosiect ‘Interniaeth Ar y Campws’. Tynnodd y myfyriwr Adil Sawal ynghyd ddata meintiol ac ansoddol gan interniaid a goruchwylwyr blaenorol, gan lunio adroddiad a ddangosodd effaith hirdymor gyffredinol cynllun yr interniaethau ar y staff a’r myfyrwyr.

Drwy gynnal cyfweliadau gyda chyn-fyfyrwyr yr interniaethau, roedden ni’n gallu gweld sut roedd y rhannau pwysicaf o brofiad yr interniaethau yn effeithio ar ddyfodol ein staff a’n myfyrwyr. Defnyddiwyd y cyfweliadau hyn i greu astudiaethau achos cynhwysfawr a byddwn ni’n cyhoeddi’r rhain yn ein blog nesaf.

Daethon ni o hyd i nifer o dueddiadau gwerth sylw arnyn nhw sy’n dangos bod effaith yr interniaethau wedi newid llwybr gyrfaol ein myfyrwyr. Roedd llawer o’r interniaid wedi cydnabod eu bod wedi ennill ystod eang o sgiliau a gryfhaodd eu CV, gan roi mantais gystadleuol yn eu ceisiadau am swydd, ac roedd canran fawr wedi cymryd rhan ar ôl hynny mewn graddau meistr neu ddoethuriaeth.

Roedd yr ymatebion a gawson ni gan y staff yn pwysleisio bod y profiad wedi datblygu ystod o sgiliau, gan gynnwys cyfathrebu effeithiol, rheoli amser a chydlynu prosiectau, gan wella eu gallu i fentora ac addysgu yn y pen draw.

Yn ein blog nesaf, rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu â chi brif uchafbwyntiau ein hadroddiad effaith ar yr interniaethau. Gobeithiwn y bydd hyn yn eich ysbrydoli, os ydych chi’n aelod o staff neu’n fyfyriwr, i ymuno â’r cynllun interniaethau a datblygu eich priod lwybr gyrfaol.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ragor o’n blogiau ar Gynllun ar y Campws y Brifysgol neu ceir rhagor o fanylion ar fewnrwyd y staff.