Dylunio i bawb…. Camau Cyflym ar gyfer Hygyrchedd Digidol
18 Medi 2025
Paratowch eich adnoddau addysgu digidol ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda’r camau cyflym hyn i wella hygyrchedd.
Gyda’r addysgu ar y gorwel, bydd staff yn diweddaru deunyddiau, yn adnewyddu modiwlau, ac yn paratoi cynnwys Dysgu Canolog. Dyma’r cyfle perffaith i gynnwys hygyrchedd digidol fel y gall pob myfyriwr ymgysylltu’n llawn.
Mae hygyrchedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o’n hymrwymiad i Addysg Gynhwysol. Mae’n cefnogi myfyrwyr ag anghenion amrywiol, p’un a ydyn nhw’n defnyddio technolegau cynorthwyol, yn cydbwyso astudiaethau â chyfrifoldebau ychwanegol, neu’n edrych ar gynnwys mewn ail iaith. Mae dylunio hygyrch yn creu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol a chefnogol i bawb.
Awgrymiadau cyflym i gychwyn arni
Gall newidiadau bach gael effaith fawr. Wrth i chi baratoi ar gyfer addysgu, ceisiwch roi rhai o’r camau cyflym hyn i wella hygyrchedd ar waith yn eich adnoddau digidol a modiwlau Dysgu Canolog:
- Defnyddio ffontiau hygyrch (sans serif, maint 12 o leiaf)
- Ychwanegu testun amgen (Alt Text) at ddelweddau, graffiau a diagramau
- Strwythuro cynnwys yn glir gan ddefnyddio penawdau a phwyntiau bwled
- Ysgrifennu dolenni disgrifiadol e.e., “Canllaw asesu 2025-26” yn hytrach na “cliciwch yma”
- Defnyddio Gwiriwr Hygyrchedd Microsoft, neu Ally ar Dysgu Canolog, i wirio cynnwys cyn ei rannu gyda myfyrwyr.
- Defnyddio capsiynau a chynnig trawsgrifiadau ar gyfer cynnwys fideo a sain
Canllawiau newydd gan y Tîm Addysg Ddigidol
Er mwyn eich cefnogi yn y gwaith hwn, mae’r Tîm Addysg Ddigidol wedi lansio’r Canllaw Hygyrchedd Digidol newydd i’ch helpu chi i wneud y canlynol:
- Myfyrio ar eich darpariaeth bresennol a nodi rhwystrau posibl rhag dysgu
- Dod o hyd i awgrymiadau cyflym i wella hygyrchedd digidol
- Darllen canllawiau i wneud eich modiwlau Dysgu Canolog yn fwy hygyrch
Darllenwch y Canllaw Hygyrchedd Digidol heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd eich addysgu a’ch dysgu eleni.
Dewch i ddarganfod sut i adnabod a chael gwared ar rwystrau hygyrchedd yn y gweithdy Hygyrchedd ac Addysg Ddigidol gan Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, neu os hoffech chi gael blogiau newydd, e-bostiwch LTAcademy@caerdydd.ac.uk.