Defnyddio’r Log Gweithgarwch Myfyriwr
18 Mawrth 2025
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Sonia Maurer, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Mae Sonia yn creu adnoddau a hyfforddiant i gefnogi’r broses o roi Blackboard Ultra ar waith yn Dysgu Canolog. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gweithio ar Ganllaw Ymarfer Da Dysgu Canolog, gan helpu’r staff i gael y gorau o’r amgylchedd dysgu ar-lein.
Mae’r Log Gweithgarwch Myfyriwr yn eich galluogi i weld pryd mae myfyriwr penodol wedi mewngofnodi’n ddiweddar, gan gynnwys ei weithgarwch mewn perthynas â’r modiwl. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn i nodi myfyrwyr mewn perygl, datrys problemau neu roi tystiolaeth yn rhan o anghydfodau academaidd.
Gallwch chi weld y Log Gweithgarwch ar dudalen proffil y myfyriwr. Er mwyn gweld tudalen proffil y myfyriwr, cliciwch ar ei enw yng Nghofrestr y Dosbarth, y Llyfr Graddau neu unrhyw le arall y mae dolen iddi.
Cliciwch ar y Log Gweithgarwch i weld ei holl weithgarwch mewn cysylltiad â’r modiwl yn ystod y 140 diwrnod diwethaf:

Mae unrhyw ryngweithio â Panopto, Turnitin a Leganto hefyd yn cael ei gofnodi ac yn ymddangos yn ‘dolenni LTI’. Mae cynigion ar brawf sy’n cael eu cyflwyno hefyd yn cynnwys dolen ychwanegol i’r Log Cynigion ar Brawf, sy’n fwy manwl.
Gallwch chi hidlo’r rhestr yn ôl math o weithgarwch ac yn ôl dyddiad:

Rhagor o wybodaeth
Ewch i Hanfodion Dysgu Canolog: Dadansoddeg i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gwybodaeth ddadansoddol yn Dysgu Canolog.
Cymryd rhan
Oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol wrth ddefnyddio Dysgu Canolog? Cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu drwy e-bostio ltacademy@caerdydd.ac.uk.