Defnyddio meddalwedd darllen yn uchel / testun i lais i gefnogi cynnwys hygyrch a chynhwysol
16 Mawrth 2026
Gan Heather Pennington ac Alex Stewart, yr Academi Dysgu ac Addysgu
Mewn amgylchedd dysgu mwyfwy digidol, mae’n hanfodol creu cynnwys sy’n hygyrch i bob dysgwr. Mae meddalwedd darllen yn uchel a thestun i lais yn cefnogi dysgwyr sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol ac yn helpu aelodau o’r staff i ystyried eglurder, strwythur a hygyrchedd cyffredinol y deunyddiau sy’n cael eu creu ganddyn nhw. Mae meddalwedd o’r fath (sy’n rhan o Windows a llawer o raglenni Microsoft 365) yn troi testun yn eiriau llafar, gan gynnig ffordd ychwanegol o ryngweithio â chynnwys.
Pam defnyddio meddalwedd darllen yn uchel / testun i lais?
Mae meddalwedd darllen yn uchel yn helpu i sicrhau bod eich deunyddiau’n gweithio’n effeithiol i ystod eang o ddysgwyr, a hynny drwy wneud y canlynol:
- Cynnig ffordd amgen o ryngweithio â chynnwys ysgrifenedig i’r rhai sydd â dyslecsia, nam ar y golwg neu anawsterau dysgu eraill
• Cefnogi dealltwriaeth drwy alluogi dysgwyr i wrando wrth ddarllen
• Apelio at y rhai y mae’n well ganddyn nhw wrando neu sy’n cael budd o ddysgu amlfoddol
• Lleihau llwyth gwybyddol yn ystod tasgau sy’n gofyn llawer o ddarllen
• Galluogi prawfddarllen drwy dynnu sylw at strwythur aneglur, penawdau anghyson neu frawddegau hir
Mae defnyddio meddalwedd darllen yn uchel wrth ddrafftio neu adolygu cynnwys yn ffordd syml o weld a yw’r ddogfen wedi’i strwythuro a’i threfnu’n dda. Os yw’r cynnwys yn gweithio wrth ei ddarllen yn uchel, mae’n fwy tebygol o weithio’n dda ar gyfer defnyddwyr rhaglenni darllen sgrîn, hefyd.
Darllen yn Uchel yn Microsoft 365 ar gyfer Windows
Microsoft Word
• Dewiswch Adolygu > Darllen yn Uchel.
• Mae’r Darllenydd Ymdrwythol (o dan ‘Gweld’) yn cynnig cymorth ychwanegol drwy ganolbwyntio ar linellau, addasu’r bylchau yn y testun ac addasu’r lliw, er enghraifft.
Microsoft Edge
• Gallwch chi ddefnyddio’r Darllenydd Ymdrwythol ar dudalennau gwe sy’n cael eu cefnogi a dewis Darllen yn Uchel i wrando ar erthyglau, tudalennau gwe a dogfennau PDF.
PowerPoint
• Gallwch chi ychwanegu nodiadau i’r siaradwr a defnyddio Darllen yn Uchel wrth ymarfer rhoi’r cyflwyniad i fireinio eglurder, cyflymder a llif.
Cyngor ar addasu’r llais
Gall addasu gosodiadau Darllen yn Uchel wneud gwrando’n fwy cyfforddus ac effeithiol:
• Gallwch chi addasu’r cyflymder darllen a’r llais yn y panel opsiynau llais.
• Yn Word, ewch i Adolygu > Darllen yn Uchel i newid y llais a’r cyflymder.
• Arbrofwch i ddod o hyd i lais sy’n cyd-fynd â’ch dewisiadau gwrando.
Defnyddio offer ynganu yn Word
Nid yw Word yn cynnig golygydd ynganu llawn, ond mae’n eich galluogi i gadarnhau sut bydd termau’n cael eu dweud:
• Ewch ati i uwcholeuo gair neu ddarn o destun a dewis Adolygu > Darllen yn Uchel.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer enwau, termau technegol neu eirfa sy’n benodol i ddisgyblaeth.
Meddalwedd darllen yn uchel ar blatfformau eraill
Adobe Acrobat Reader
• Mae Read aloud yn galluogi defnyddwyr i wrando ar ddogfennau PDF.
Blackboard Ally
• Mae Blackboard Ally yn cynnig fformatau amgen, gan gynnwys fersiynau sain o gynnwys testun.
Dyfeisiau symudol
• Meddalwedd testun i lais yw NaturalReader, VoiceOver (Mac) a TalkBack (Android) ar gyfer darllen apiau, e-byst a thudalennau gwe.
Gwneud y gorau o feddalwedd darllen yn uchel
I gael y budd mwyaf:
• Anogwch fyfyrwyr i wneud defnydd o feddalwedd o’r fath wrth adolygu, darllen yn fanwl neu weithio gyda thestunau cymhleth
• Defnyddiwch feddalwedd darllen yn uchel i brawfddarllen er mwyn nodi unrhyw broblemau a allai gael eu colli’n weledol
• Gwrandewch ar eich dogfen i sicrhau ei bod yn darllen yn dda i’r rhai sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol
Mae gwneud y pethau hyn yn rhan o’ch ymarfer academaidd bob dydd yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol.
Cysylltwch â ni
I gael cymorth, e-bostiwch LTAcademy@caerdydd.ac.uk.