Skip to main content

Addysg Ddigidol

Defnyddio Dysgu Canolog i fanteisio ar Microsoft Bookings

28 Mawrth 2025

Mae Marianna Majzonova yn Swyddog Technoleg Dysgu yn ein Academi Dysgu ac Addysgu. Yn y blog hwn mae’n cyflwyno Microsoft Bookings a’n egluro sut gall gael ei integreiddio â Dysgu Canolog i wella profiad myfyrwyr.

Tua diwedd 2023 cyhoeddodd Microsoft Bookings ddiweddariad a gyflwynodd dudalen “Personal Bookings.” Mae Microsoft wedi’i hyrwyddo fel ffordd symlach o drefnu amserlenni a rheoli apwyntiadau. Gall fod yn offeryn gwych helpu myfyrwyr â’u dysgu. Yma, rwy’n archwilio sut mae’n medru gwella profiad dysgu digidol myfyrwyr a gwella’u canolbwyntio, gan olygu nad yw myfyrwyr byth yn methu apwyntiad gydag arweinwyr eu modiwl.

Beth yw Microsoft Bookings?

Offeryn amserlennu yw Microsoft Bookings sy’n eich galluogi i greu a rheoli apwyntiadau gyda’ch myfyrwyr a’ch cydweithwyr. Gallwch chi nodi eich argaeledd a’r gwasanaeth rydych chi’n ei gynnig, a gadael i’ch myfyrwyr drefnu apwyntiad ar-lein gan ddefnyddio dolen ar y we. Gallwch chi hefyd gysoni eich calendr apwyntiadau â’ch calendr Outlook ac anfon negeseuon cadarnhau a nodiadau atgoffa wedi’u personoli yn awtomatig drwy e-bost.

Gallwch chi gyrchu Microsoft Bookings yn uniongyrchol drwy’r ddolen hon neu drwy Microsoft 365 y Brifysgol, a hynny drwy chwilio yn eich apiau 365. Dyma sut mae’r dudalen weinyddu yn edrych:

 

Mae’ch tudalen apwyntiadau personol ac unrhyw dudalennau apwyntiadau a rennir rydych chi wedi’u creu neu’u rhannu eisoes, neu sydd wedi’u rhannu â chi gan eich cydweithwyr ar gael ar y dangosfwrdd. Mae creu tudalen apwyntiadau newydd yn syml ac mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gallu gwneud hyn mewn 10 munud.

Yn y cam sefydlu bydd gofyn i chi nodi gwybodaeth sylfaenol, e.e. enw eich cyfarfod, gwybodaeth am yr hyn rydych chi’n ei gynnig, h.y. oriau swyddfa, sesiynau galw heibio, sesiynau holi ac ateb ac ati. Galwadau Teams yw’r gosodiad diofyn, ond gallwch chi hefyd ddewis lleoliad os hoffech chi gynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb.

Mae’r oriau rheolaidd yn seiliedig ar eich amserlen waith; gallwch chi addasu’r rhain o dan ‘Use customised availability hours’. Mae dewis dechrau a diwedd y sesiwn yn ddefnyddiol pan gaiff cyfarfodydd eu cynnal yn ystod amser penodol. O dan y gosodiadau ‘Advanced Option’, gallwch chi nodi amseroedd y naill ochr i ddechrau a diwedd y cyfarfod. Mae modd hefyd bersonoli nodiadau atgoffa a nodiadau dilynol drwy e-bost.

Pam defnyddio Microsoft Bookings yn Dysgu Canolog?

 

Gall defnyddio Dysgu Canolog ar y cyd â Microsoft Bookings fod yn ‘siop un stop’ i fyfyrwyr sy’n trefnu eu horiau swyddfa gydag arweinwyr eu modiwlau. Mae modd ychwanegu’r ddolen trefnu apwyntiad yn uniongyrchol at Dysgu Canolog, yn ogystal â chynnwys codau QR er mwyn ei chyrchu’n uniongyrchol, a dolenni cyflym hefyd. Mae’r llun isod yn enghraifft o sut gallech chi nodi eich oriau swyddfa yn Dysgu Canolog, gan ddefnyddio modiwlau dysgu i arddangos pob dolen trefnu apwyntiad yn y lle hwn.  Mae manteision amlwg o ddefnyddio Microsoft Bookings wedi’i integreiddio â modiwlau Dysgu Canolog. Mae rhai o’r rhain wedi’u rhestru isod:

  • Mae rhoi mynediad i dudalennau trefnu apwyntiad drwy Dysgu Canolog yn golygu bydd myfyrwyr yn dod o hyd i bopeth yn eu modiwl. Mae’r ddolen trefnu apwyntiad wedi’i chysylltu â Microsoft 365 a’r calendr Outlook.
  • Defnyddiwch galendr y modiwl i ychwanegu oriau swyddfa. Gall arweinwyr modiwlau hefyd fynd yr ail filltir ac ychwanegu manylion oriau swyddfa’n uniongyrchol i galendrau modiwlau.
  • Galluogi myfyrwyr i drefnu apwyntiadau drwy ddolenni Dysgu Canolog uniongyrchol. Mae hyn yn sicrhau cysondeb a hyblygrwydd.
  • Bydd myfyrwyr yn derbyn dolenni (i apwyntiadau wedi’u creu yn awtomatig) i gyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae pawb mewn cysylltiad bob amser ac anaml y bydd apwyntiadau’n cael eu colli.

Bydd gan eich myfyrwyr opsiwn i ddewis cwrdd â chi wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd trefnu trafodaeth ddilynol neu fforwm yn Dysgu Canolog wedyn hefyd.

 

Drwy ddefnyddio’r nodweddion hyn, caiff myfyrwyr eu hannog i wella eu cynhyrchiant a manteisio i’r eithaf ar eu profiad dysgu digidol.

“Mae defnyddio Microsoft Bookings yn Dysgu Canolog yn bendant yn welliant mawr, ac mae’n hawdd i’r myfyrwyr ei ddefnyddio, yn fy marn i.” – Academydd, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Cymryd Rhan

Oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol wrth ddefnyddio Dysgu Canolog? Cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu: ltacademy@caerdydd.ac.uk