Deallusrwydd artiffisial (DA) mewn addysg ym Mhrifysgol Caerdydd
26 Ionawr 2026
Ysgrifennwyd gan Marianna Majzonova a Geraint Evans (Yr Academi Dysgu ac Addysgu) gyda Rebecca Mogg (Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol)
Wrth i’r Brifysgol barhau i ystyried y cyfleoedd a’r heriau sy’n deillio o DA, rydyn ni wedi bod yn cefnogi’r ymarfer gwych sydd eisoes yn digwydd yn ein cymuned dysgu ac addysgu.
Mae DA eisoes yn rhan o’n bywydau bob dydd, ein hastudiaethau ac ein gwaith. Dydyn ni ddim yn gofyn a ddylen ni ddefnyddio DA neu beidio rhagor, ond sut i’w ddefnyddio mewn modd effeithiol a chyfrifol.
Ein nod yw sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod ar y blaen o ran ymatebion cynhwysol ac arloesol wrth ddefnyddio DA mewn addysg.
Drwy weithio â chydweithwyr yn y Grŵp DA Addysg, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i staff ar ddefnyddio DA mewn addysg, sydd bellach ar gael ar y fewnrwyd. Mae’r adnodd hwn yn cynnig cyngor ymarferol, enghreifftiau, ac ystyriaethau o ran integreiddio DA i addysgu a dysgu mewn ffordd gyfrifol ac addysgiadol gadarn.
Rydyn ni hefyd wedi gweithio â myfyrwyr i greu canllawiau newydd i’w helpu nhw i ddefnyddio technolegau DA cynhyrchiol yn foesegol ac yn gyfrifol yn rhan o’u profiad dysgu. Mae safonau sy’n berthnasol i’r sector gyfan wedi llywio’r dull hwn, gan gynnwys egwyddorion Grŵp Russell ar ddefnyddio DA cynhyrchiol ym myd addysg.
Beth nesaf?

Rydyn ni’n bwriadu cyd-greu rhagor o adnoddau gyda myfyrwyr i adlewyrchu defnydd gwell o offer DA at ddibenion astudio ac i gyfleu eu safbwyntiau, gan drin a thrafod y ffyrdd y gallen nhw gefnogi dysgu a gwaith academaidd. A hyn i gyd wrth ddefnyddio ffynonellau dibynadwy wedi’u dilysu, wrth gwrs.
Yn y cyfamser, anogwch fyfyrwyr i gwblhau’r modiwl Uniondeb Academaidd o dan eu Sefydliadau yn Dysgu Canolog. Yn y modiwl, gwelwch gynnwys ar ddefnyddio DA Cynhyrchiol yng nghyd-destun uniondeb academaidd. Drwy gwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o ymddygiad gonest, moesegol a chyfrifol wrth gyflwyno gwaith academaidd.
Rydyn ni hefyd yn datblygu fersiwn ar-lein i staff o’r gweithdy poblogaidd DA a chynhyrchiant yn y gweithle , sy’n addas i helpu staff i fagu hyder a datblygu cymhwysedd wrth ddefnyddio offer DA yn effeithiol ac yn foesegol yn eu gwaith bob dydd.
Syniadau i gloi
Mae Prifysgol Caerdydd yn annog defnyddio DA i wella addysgu a dysgu drwy blatfformau digidol megis Blackboard Ultra a Mentimeter (cadwch lygad am flog arall ynglŷn ag offer DA yn Mentimeter!). Mae’r offer hyn yn cyfuno nodweddion DA fwyfwy er mwyn helpu i bersonoli dysgu, symleiddio adborth, a chreu profiadau mwy diddorol a rhyngweithiol i fyfyrwyr a staff. Rydyn ni eisiau i’n myfyrwyr ddefnyddio offer DA i’w helpu nhw, nid yn ddewis amgen neu i gymryd lle dysgu. Rydyn ni eisiau i’n myfyrwyr ddeall beth a ganiateir a beth na chaniateir, ac rydyn ni eisiau iddyn nhw ddod yn ddefnyddwyr hyderus o’r offer hyn, gan gydnabod cymorth DA Cynhyrchiol.
Rydyn ni eisiau cydweithwyr i arwain drwy esiampl, gan ddiogelu tryloywder a dilysrwydd wrth ddylunio asesiadau, a defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y person wedi’i lywio gan foeseg wrth ddylunio modiwlau.
Wrth i ni barhau i ymchwilio ymhellach a gwella ein canllawiau, mae’n amlwg bod DA yma i aros. Fel y dywedodd Dr. Charles Knight: “Mae DA yn ehangu beth sy’n bosibl, ond nid beth sy’n bwrpasol”, sy’n agor y drws i’n cryfderau a’n sgiliau dynol.
Cysylltwch â ni
Mae’r Academi Dysgu ac Addysgu’n helpu staff gydag Addysg Ddigidol ac yn cynnal rhaglen o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus i staff. Cymerwch olwg ar y cyrsiau neu gysylltwch â ni ar ltacademy@caerdydd.ac.uk.