Dathlu aelodau paneli Myfyrwyr a Staff: Rhan allweddol o’n proses cyllido interniaethau
15 Ebrill 2025
Diolch yn fawr i’r holl staff a’r myfyrwyr am eu hamser a’u hymrwymiad wrth adolygu mwy na 130 o geisiadau.
Mae Cynllun Interniaeth ar y Campws yr Academi Dysgu ac Addysgu yn galluogi staff academaidd i gyllido myfyriwr i weithio ar eu prosiectau ymchwil cyfredol dros yr haf. Mae ein cynllun yn ymdrechu i rymuso myfyrwyr i ennill profiad gwerthfawr o fyd ymchwil, annog astudiaethau pellach a gweithio mewn partneriaeth â’r staff. Mae’r prosesau rydyn ni’n eu defnyddio i ariannu grantiau’r cynllun yn rhannu’r un ethos.
Yn rhan o’n cynllun, mae panel penodedig o staff a myfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth adolygu ein ceisiadau i sicrhau bod ein cyllid yn cael ei ddyfarnu’n deg ac yn effeithiol. Rydyn ni eisiau cymryd eiliad i ddathlu a diolch i’n staff a’n myfyrwyr am eu hamser a’u hymrwymiad wrth adolygu mwy na 130 o geisiadau. Drwy ddod â safbwyntiau staff a myfyrwyr at ei gilydd, mae ein proses yn parhau i fod yn dryloyw, yn deg ac yn effeithiol.
Os hoffech chi ymuno â’n paneli yn y dyfodol, cysylltwch â ni LTAcademy@caerdydd.ac.uk
Gall myfyrwyr ymuno a’n panel a chael eu talu i helpu i lunio profiad y myfyrwyr drwy fod yn Fyfyriwr Hyrwyddo. Dyma ragor o wybodaeth am y cynllun a sut y gallwch chi ymgeisio.