Skip to main content

Addysg Ddigidol

Cymhorthydd sgwrsio gwaith cwrs yn seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial

19 Rhagfyr 2024

Mae’r blog yma gan Ramalakshmi Vaidhiyanathan yn archwilio’r defnydd o AI i gynorthwyo gydag ymholiadau myfyrwyr yn ymwneud â gwaith cwrs.

Mae Ramalakshmi Vaidhiyanathan yn ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae ganddi 18 mlynedd o brofiad mewn peirianneg meddalwedd, ac mae’n dysgu ers dros 7 mlynedd erbyn hyn.

Cyflwyniad i Poe

“Believe nothing you hear, and only one half that you see”. – Edgar Allen Poe

Yn yn o sesiynau Digi Fest, gwelais gyflwyniad i declyn Poe, platfform cydgasglu sgwrsfot Deallusrwydd Artiffisial (AI). Eglurodd y cyflwynydd eu bod wedi bod yn defnyddio’r teclyn mewn awyrgylch ysgol uwchradd drwy roi’r teclyn i fyfyrwyr i wneud ychydig o ddysgu ar eu liwt eu hunain am bwnc penodol, o ffynonellau gwybodaeth benodol. Roedd rhai o’r ffynonellau yn llyfrau wedi eu lawr lwytho fel PDF. Cydiodd yn fy nychymyg yn syth, er ei fod yn swnio’n rhy dda i fod yn wir! Gwnes nodyn o enw’r teclyn a’i adael ar hynny.

Digwydd bod, roeddwn ar y pryd yn dechrau dysgu modiwl rhywun arall a cheisio personoli’r cynnwys i gyd-fynd a fy steil innau o ddysgu. Roedd yr asesiadau yn barod wedi eu cymedroli a’u rhyddhau i’r myfyrwyr. Er hynny, doedd y myfyrwyr heb ddechrau gweithio arnynt eto, a chefais rybudd am y llif o gwestiynau oedd ar y ffordd. Wrth i mi dreulio amser yn paratoi wrth fynd drwy’r gwaith cwrs a’r canllaw atebion, penderfynais roi tro ar Poe.

Defnyddio Poe

“It is a happiness to wonder; — it is a happiness to dream.” – Edgar Allen Poe

Dechreuais â’r fersiwn am ddim gan ddefnyddio cyfrif Gmail pwrpasol yr oeddwn i wedi ei greu, a dewis creu “bot procio”.

Dyma greu sgwrfot cyffredin, fel gwelwch ar sawl gwefan yn eich cyfarch â “Hi there!” Mae’r bot procio yma yn defnyddio man cychwyn bot arferol “GPT 3.5 Turbo”. Darperais y canllaw gwaith cwrs a datrysiad fel ei ffynhonnell wybodaeth (ar ôl gwaredu data sy’n ymwneud â’r Brifysgol e.e ebyst), a darperais broc syml er mwyn i’r bot fedru deall y gwaith cwrs (a fy helpu i fel canlyniad).

Ar ôl creu’r sgwrfot, defnyddiais gwestiynau gwaith cwrs i’w brofi, yn union fel byddai myfyrwyr yn gwneud. Ceisiais gyfuniadau o gwestiynau syml: beth yw’r dasg, yr uchafswm geiriau, sut i gael y marc uchaf, a gofyn yn uniongyrchol â’n anuniongyrchol sut i fynd ati i’w ddatrys. Roedd angen i mi ddysgu ychydig mwy am beirianwaith procio er mwyn gwella fy mhroc cyntaf er mwyn sicrhau nad yw’n datgelu’r datrysiadau yn uniongyrchol, ac nad yw’n rhoi gormod o fanylion, tra yn rhoi cymorth digonol i’r myfyrwyr. Mewn rhai achosion, roedd yn darparu’r ateb yn syml, yn enwedig i’r cwestiynau â marciau isel, ond doedd hynny ddim yn fy mhoeni. Mae Poe hefyd yn cynnig opsiwn i reoli creadigrwydd atebion y bot er mwyn atal rhithiau.  Roedd rhai i mi ei osod ar y gosodiad cyffredin o 0.5, ond os byswn yn ei leihau, byddai’r atebion yn fwy cyson.

Mae Poe yn rhan o Quora, ac mae agen cael cyfrif ar ei gyfer. Mae’r gofynion preifatrwydd yn un peth ac unrhyw declyn Gen AI a thechnoleg arall sydd ar gael. Bydd y data yn cael ei arbed er mwyn gwella ei berfformiad a gan fod Poe yn gyfanredol ac yn defnyddio bot sylfaen, bydd yn priodoli gosodiadau preifatrwydd y bot Sylfaen.

Cymhorthydd Bot Gwaith Cwrs at eich gwasanaeth

“Let my heart be still a moment and this mystery explore..”. – Edgar Allen Poe

Unwaith oeddwn i’n fodlon gyda pherfformiad y sgwrsfot ymhen 9 wythnos, rhannais y bot gyda’r myfyrwyr gan ganiatáu mynediad cyhoeddus. Gofynnais iddynt ei ddefnyddio i holi am gymorth ag ymholiadau gwaith cwrs, yn enwedig tu allan i oriau’r swyddfa neu pan na allwn i ateb. Gan nad oedd modd i mi weld y cwestiynau oeddent yn eu hanfon i’r bot, roedd gofyn iddynt hefyd anfon yr un cwestiwn ata i er mwyn derbyn ateb swyddogol. Bob tro oeddwn i’n derbyn cwestiwn gan fyfyriwr, roeddwn i’n ei wirio gan ddefnyddio’r bot a chadarnhau’r ateb. Os oedd yr ateb yn annigonol byswn yn diweddaru’r ffynhonnell wybodaeth â’r wybodaeth berthnasol. Mae’n bosib ychwanegu gwybodaeth ychwanegol i’r ffynhonnell wybodaeth gan ddefnyddio ysgrifen blaen ar unrhyw adeg, oedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Unwaith daeth y tymor i ben, anfonais ffurflen adborth i’r myfyrwyr er mwyn clywed eu barn ar y Cymhorthydd Bot Gwaith Cwrs. Dim ond tri adborth a dderbyniais, oedd oll o blaid defnyddio botiau tebyg yn y dyfodol. Yn ôl un o’r sylwadau: “Roeddwn yn cwestiynu weithiau os oedd y bot yn rhoi’r dehongliad cywir o’r gwaith cwrs, ac roedd yn well gen i ebostio’r arweinydd modiwl fodd bynnag er mwyn dderbyn ateb pendant.” Dangosodd hyn nad yw myfyrwyr yn ymddiried mewn teclynnau Gen AI, yn enwedig os yw’n cael effaith uniongyrchol ar eu graddau. Mae’r myfyrwyr yn defnyddio teclynnau Gen AI er mwyn ysgrifennu eu hasesiadau, fel ymarferion rhaglennu a chwestiynau adlewyrchol, ond nid ydynt eto yn ymddiried mewn teclyn Gen AI sydd yn ymddwyn fel efaill digidol i arweinydd eu modiwl.

Manteision ac anfanteision Poe

“There is no exquisite beauty… without some strangeness in the proportion.” – Edgar Allan Poe

  • Mae’n rhan o Quora ac felly mae ychydig o bryder ynglŷn â phreifatrwydd. Gofynnais i’r myfyrwyr ddefnyddio eu ebost prifysgol, neu ebost newydd wedi ei greu ar gyfer y pwrpas i’r bot hwn. Roedd gwybodaeth bersonol breifat (PPI) wedi ei ddileu o’r gwaith cwrs a’r ffynonellau gwybodaeth a ddarperais, ac nid oedd yn cynnwys gwybodaeth gyda hawlfraint, ond os fyddai angen y rhain, mae’n bosib nad Poe yw’r teclyn gorau i’w ddefnyddio.
  • Mae’n gyfanredol ac felly’n defnyddio Gen AI penodol o’n dewis. Mae ganddo ychydig o opsiynau am ddim ac roedd y mwyafrif yn addas i’m mhwrpas i. Mae rhai terfynau ar y nifer o brociau’r diwrnod (30). Er hynny, does dim mwyafrif i’w weld ar y nifer o ffynonellau gwybodaeth.
  • Unwaith mae’n cael ei rannu’n gyhoeddus, alla i ddim gwybod pa gwestiynau sydd wedi cael ei ofyn iddo, na’r atebion a roddodd, heblaw bod y defnyddiwr eisiau eu rhannu. Rwy’n sicr na fydd y myfyrwyr yn awyddus i rannu eu cwestiynau a’u hatebion â mi, ond rwy’n bwriadu gofyn i rai myfyrwyr fy nghynorthwyo eleni drwy rannu eu hatebion er mwyn medru deall a gwerthuso’r teclyn yn well.
  • Mae’n medru cael ei ffurfweddu dipyn ac mae’n gadael i chi addasu mwyafrif o fanylion y bot.
  • Mae’n hawdd creu bot procio ac mae’n gofyn am lai o ddealltwriaeth o dechnolegol deallusrwydd artiffisial. Os oes gan rywun sgiliau peirianyddol procio, mae’n haws i greu bot procio. Curadu’r ffynonellau gwybodaeth a sicrhau nad oes gwybodaeth bersonol breifat wedi ei gynnwys yw’r unig gam sy’n gofyn amser.

Camu ymlaen

“It is a happiness to wonder; — it is a happiness to dream.” – Edgar Allan Poe

Er mai fel cymhorthydd dysgu y cafodd Poe ei gyflwyno i mi, dewisais fel ei siapio fel rhyw fath o efaill digidol. Roedd yr ymgais gyntaf yn un brysiog gan fy mod yn hynod newydd i’r modiwl. Dim ond ychydig o amser oedd gen i er mwyn treialu’r teclyn a chreu bot. Rwy’n bwriadu ei ddefnyddio eto eleni ac rwyf eisoes wedi creu sgwrsfot mwy llym ar gyfer fy ngwaith cwrs. Rwyf hefyd wedi darparu’r sgwrsfot ar gyfer eraill sydd ar fy modiwl i’w dreialu. Pan ofynnais i fyfyrwyr am eu defnydd o declyn AI fel eu cymhorthydd, cefais ymatebion tebyg i’r llynedd.

Cwestiwn Defnydd o Gymhorthydd AI Gwaith Cwrs
Ymatebion 119
Dewisiadau Pleidleisiau
Byswn bendant yn ei ddefnyddio 20
Ddim yn ymddiried yn AI 34
Byswn yn ei ddefnyddio ond dal i holi’r athro 65

Rwy’n bwriadu rhyddhau’r teclyn i fyfyrwyr ar ôl wythnos 7 a’u profi yn ystod rhai tiwtorialau byw er mwyn asesu perfformiad y sgwrsfot. Rwy’n breuddwydio am adeg pan fydd y sgwrsfot yn ymateb i’r holl gwestiynau ailadroddus am waith cwrs, gan fy nghaniatáu I roi cymorth penodol unigol pan a ble mae angen. Croesi bysedd!