Skip to main content

Addysg Ddigidol

Cyfres Modiwlau Eithriadol: OP1501 Archwiliad Llygaid

17 Chwefror 2025

Mae’r blog yma wedi ei ysgrifennu gan Dr Kirsten Hamilton-Maxwell, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, sydd yn arbenigo ym maes datblygiad clinigol a phroffesiynol myfyrwyr optometreg y blynyddoedd cynnar.

A hithau’n frwd dros ddysgu cyfunol, mae’n dylunio modiwlau lle bydd gan Dysgu Canolog Ultra a gweithgareddau wyneb yn wyneb gwahanol ond cyflenwol rolau sy’n gweithio mewn partneriaeth. Mae ei chynllun yn Dysgu Canolog yn blaenoriaethu eglurder, effeithlonrwydd a hygyrchedd, gan gynnig adnoddau strwythuredig sy’n annog ac yn cefnogi dysgu annibynnol rhagweithiol. Yn dilyn cynllunio gofalus, mae Dysgu Canolog Ultra wedi bod yn effeithiol wrth gefnogi modiwl Blwyddyn 1 newydd 40 credyd yn y rhaglen Meistr Optometreg newydd, gan arwain at ymgysylltiad rhagorol gan fyfyrwyr, perfformiad ac adborth cadarnhaol.

Ers cyflwyno Blackboard Ultra yn 2023-24, mae’r staff wedi ymateb i’r her o symud eu cyrsiau iBlackboard Ultra, sef platfform newydd, hygyrch a hawdd i’w ddysgu neu fel rydyn ni’n ei alw yma yng Nghaerdydd, Dysgu Canolog.

I ychwanegu at y sylfeini hyn, dros yr haf, cynhyrchodd yr Academi Dysgu ac Addysgu Ganllaw Arfer Da ar Ddysgu Canolog. Bwriad y canllaw yw dangos egwyddorion dylunio modiwlau allweddol a helpu’r staff i wella profiad y myfyrwyr ar Ddysgu Canolog.

OP1501 Archwiliad Llygaid

Mae OP1501 yn gwrs 40 credyd am flwyddyn lawn sydd wedi’i gyfuno’n llawn, a bydd pob myfyriwr yn ei gwblhau ar y rhaglenni Meistr Optometreg a Meistr Optometreg newydd sy’n cynnwys Blwyddyn Ragarweiniol. Gan ddefnyddio model cyflwyno gwrthdro, diben y modiwl yw rhoi ystod o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau clinigol a ddefnyddir yn gyffredin. Wedyn ychwanegir at y sgiliau sylfaenol hyn mewn blynyddoedd astudio yn y dyfodol yn rhan o gwricwlwm sbiral.

Strwythur a Threfniadaeth

Mae OP1501 yn fodiwl sy’n apelio’n weledol ac yn gwneud defnydd da o dempled OPTOM, gan sicrhau cysondeb ledled y rhaglen ac yn lleihau’r llwyth gwybyddol i’r myfyrwyr. Mae delweddau Modiwl Dysgu yn helpu o ran cyfeirio ac yn ychwanegu at y diwyg a’r teimlad cyffredinol. Er nad ydyn ni ar y cyfan yn annog testun mewn delweddau cyfeirio, gan ei fod yn anodd i’w ddarllen hwyrach ar ddyfeisiau symudol, mae codau lliw a delwedd sy’n cynrychioli’r achos sy’n cael ei astudio yn fecanwaith wrth gefn i gefnogi’r llywio. Mae gwybodaeth allweddol yn rhwydd dod o hyd iddi yn y ffolder ‘Gwybodaeth am y Modiwl’, a cheir is-ffolderi trefnus sy’n cynnwys manylion y clinigau a’r lleoliadau perthnasol.

Deunyddiau Dysgu

Mae Modiwlau Dysgu yn cynnwys dilyniannau o “Ddogfennau” yn bennaf, gan arwain myfyrwyr drwy’r gweithgareddau wythnosol i’w cwblhau cyn ac ar ôl y sesiynau wyneb yn wyneb.

Mae profion a byrddau trafod wedi’u gwreiddio yn eu cyd-destun, gan annog y broses o ymgysylltu ac yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i staff am gynnydd y dosbarth.

Asesu ac Adborth

Mae’r ffolder Asesu ac Adborth yn cynnwys trosolwg cynhwysfawr o asesiad y modiwl, a cheir is-ffolderi trefnus sy’n cynnwys gwybodaeth a chyflwyniadau ffurfiannol a chrynodol penodol.

Cyfathrebu ynghylch y Modiwl

Mae fideo croeso Kirsten yn rhoi cyffyrddiad personol ac yn gosod disgwyliadau clir o’r cychwyn cyntaf. Mae’n amlinellu’r llwybrau cyfathrebu parhaus, gan gynnwys fforymau trafod ar-lein i roi cwestiynau cyffredinol a phenodol.

Yma mae hi’n rhoi taith inni o amgylch y modiwl.