Cyflwyniad i Dysgu Canolog: Llywio Dysgu Canolog yn hyderus
23 Chwefror 2026
Ysgrifennir y blog hwn gan Punsisi Somaratne, sef Dylunydd Dysgu yn nhîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu.
“Yn hytrach na sesiwn ddangos arall, allwn ni greu gêm?” Dyma oedd yr adborth gan ein myfyrwyr hyrwyddo.
Pan mae myfyrwyr yn ymuno â’r Brifysgol am y tro cyntaf, mae eu hysgolion perthnasol yn cynnig cyfoeth o wybodaeth i’w helpu nhw i ymgyfarwyddo â’r Brifysgol, ei phrosesau a’i systemau. Mae cyflwyniadau o ran defnyddio Blackboard Ultra (a elwir yn ‘Dysgu Canolog’ ym Mhrifysgol Caerdydd’) yn rhan o’u profiad dysgu yn un ohonyn nhw. Yr arfer cyffredin yw rhannu dolenni i ganllawiau cymorth ar y fewnrwyd neu ddangos sut i ddefnyddio’r platfform. Fodd bynnag, roedd grwpiau ffocws â myfyrwyr hyrwyddo’n adleisio llais y myfyriwr. Ac felly, pwysleisiwyd bod y cyflwyniad ar Dysgu Canolog yn gallu teimlo’n ormod, gan fod myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd cofio’r holl wybodaeth a roddir yn ystod yr wythnos ymsefydlu. Yr ateb a gynigiwyd gan ein myfyrwyr hyrwyddo oedd: dull seiliedig ar gêm i’r cyflwyniad i Dysgu Canolog. Er mwyn cefnogi eu cais, datblygais weithgaredd ar ffurf ystafell ddianc yn Dysgu Canolog.
Gwyliwch y fideo drwy glicio yma (1:40 munud) am gipolwg ar nodweddion y gêm.
Pam ystafell ddianc? Pam yn Blackboard?
Dewisais i weithgaredd ystafell ddianc yn Blackboard Ultra am y rhesymau canlynol.
- Mae nodweddion megis amodau rhyddhau ac olrhain cynnydd yn helpu i greu llwybr rhwng posau ac awgrymiadau.
- Mae ystafelloedd dianc yn rhannu tasgau’n ddarnau llai i leihau gorlwytho gwybyddol yn ôl egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) [1] a Damcaniaeth Wybyddol Dysgu Amlgyfrwng [2].
- Mae gemau o’r fath yn hybu cymryd rhan yn weithredol a chymhelliant [3].
- Mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol drwy chwarae.
- Mae’n hawdd i gynhyrchu delweddau sy’n cyd fynd â’r stori gan ddefnyddio offeryn deallusrwydd artiffisial (DA) yn Blackboard
Map pos
Ar sail adborth gan ffrwd waith Galluogi Myfyrwyr y Tîm Addysg Ddigidol a’r Tîm Addysg Ddigidol ei hun, mae posau a thasgau’r gêm yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr wneud y canlynol:
- Defnyddio cynnwys y modiwl i ddod o hyd i adnoddau
- Cymryd rhan mewn trafodaethau i weithio ar y cyd i ddod o hyd i awgrym
- Cwblhau posau i ddatgloi’r cliw
- Cyflwyno aseiniad ffug i gael gafael ar gôd ymadael

Gwneud y profiad yn fwy personol
Mae myfyrwyr yn cael tystysgrif ar ôl cwblhau’r tasgau. I wneud eu llwyddiant yn fwy o brofiad dysgu personol, defnyddiwyd Power Automate i gynhyrchu tystysgrif wedi’i phersonoli. Rwy’n cydnabod bod modd i Power Automate fod yn anodd ei ddefnyddio, ond helpodd Jo Moorman i wneud hyn weithio!
Yn olaf…
Os yw cyflwyniadau yn ymwneud â magu hyder a helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo, mae’r gêm hon yn gwneud y broses yn fwy hwyl a diddorol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae myfyrwyr yn derbyn yr her hon!
Os hoffech chi wybod rhagor am y pwnc hwn ac ystyried dysgu drwy chwarae yn eich cyd-destun chi, cysylltwch â Punsisi (LTAacademy@caerdydd.ac.uk. Hapus i helpu!
Ein Cymorth a’n Hadnoddau
- Cynnig DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu i staff Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys gweithdai “Cyflwyniad i ddysgu ac addysgu drwy chwarae” a “Gemeiddio a Dysgu sy’n Seiliedig ar Gemau”.
- Ymunwch â’n cymuned hwyl a gemau wrth ddysgu ac addysgu, sy’n cynnig cyfleoedd i staff Prifysgol Caerdydd rannu arferion, datblygu syniadau a mynegi’r dadleuon dros ddulliau chwareus.
- Dylunio ystafell ddianc ddigidol yn Xerte
Cyfeirnodau
[1] CAST, “Universal Design for Learning,” CAST, 2024. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.cast.org/what-we-do/universal-design-for-learning/. Cyrchwyd: Rhagfyr. 11, 2025.
[2] R. E. Mayer, “Cognitive Theory of Multimedia Learning,” yn The Cambridge Handbook of Multimedia Learning, R. E. Mayer, Gol. Caergrawnt, y DU.: Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2005, tud. 31–48, doi: 10.1017/CBO9780511816819.004
[3] S. González-Yubero, M. Mauri, M. J. Cardoso, a R. Palomera, “Learning through Challenges and Enigmas: Educational Escape Room as a Predictive Experience of Motivation in University Students,” Sustainability, cyf. 15, rhif. 17, art. 13001, Awst. 2023, doi: 10.3390/su151713001.