Skip to main content

Addysg Ddigidol

Cwestiynau Cyffredin Blackboard Ultra

27 Awst 2025

Wedi’i ysgrifennu gan Jordan Lloyd yn Nhîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu

Mae Blackboard Ultra – Cwestiynau Cyffredin wedi’i greu gan Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd i fynd i’r afael â phryderon cyffredin yn rhagweithiol a bod yn adnodd hunanwasanaeth dibynadwy i’r staff ddod o hyd i atebion i’w cwestiynau’n gyflym. Mae’n arbed amser ac ymdrech ac yn meithrin ymddiriedaeth a hyder ym mhlatfform Blackboard Ultra.

Mae’r 10 cwestiwn mwyaf cyffredin yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys rhoi marciau yn y llyfr graddau, addasu gosodiadau hysbysu a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cyrchu Panopto. Ar gyfer pob cwestiwn mae esboniad byr, fideo cyfarwyddiadau cam-wrth-gam ac awgrymiadau ar gyfer gwneud y mwyaf o’ch modiwl.

Wyddoch chi?

Mae un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin yn ymwneud â’r lle sydd ar gael i storio ffeiliau ac anawsterau wrth geisio ychwanegu rhagor o gynnwys, ond mae ateb syml ar gael.

Mae gan bob modiwl gwota storio o 2GB i ddechrau. Mae’r cwota hwn yn berthnasol i gynnwys cyffredinol y modiwl yn Blackboard. Er mai 2GB yw’r cwota, ni chaiff unrhyw ffeiliau sy’n cael eu lanlwytho fod yn fwy na 250MB o ran eu maint.

Os byddwch chi wedi cyrraedd y cwota storio, mae proses dau-gam fer ar gael i ryddhau rhywfaint o le. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i ffeiliau sydd ddim yn cael eu defnyddio a’u dileu, ac yna glirio ffeiliau o’r storfa ffeiliau.

Yn hafan eich modiwl, cliciwch ar y ddewislen â thri dot (yn y panel canolog, i’r chwith) ac yna ‘Unused Files’.

 

Bydd y dudalen nesaf yn dangos rhestr o ffeiliau sydd ddim yn cael eu defnyddio. Dewiswch y rhai rydych chi am eu dileu, gan ryddhau lle ar gyfer eich modiwl.

I glirio ffeiliau o’r storfa ffeiliau, mae’r fideo canlynol yn dangos y broses syml i chi.

Dileu ffeiliau o’r Casgliad Cynnwys

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, neu os hoffech chi gael fideos newydd, e-bostiwch LTAcademy@caerdydd.ac.uk.