Creu ystafelloedd dianc deniadol a difyr gyda Xerte
29 Mai 2025
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Punsisi Somaratne yn nhîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Mae dysgu drwy chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar gemau yn bynciau o bwys ym myd addysg gan fod ystafelloedd dianc digidol yn mynd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn heriau wrth iddyn nhw gaffael gwybodaeth [1]. Gall myfyrwyr gystadlu yn y gemau hyn i wella eu meddwl beirniadol tra’n gweithio ar y cyd. Mae’n rhoi profiad dysgu dilys i’r myfyrwyr, gan ganiatáu iddyn nhw fod yn weithgar wrth ddysgu o’i gymharu â dysgu traddodiadol.
O’u cymharu ag ystafelloedd dianc go iawn, mae angen llai o adnoddau ar ystafelloedd dianc digidol i’w dylunio a’u darparu. Os dewisir yr offeryn digidol cywir i ddylunio’r gêm, bydd yn gost-effeithiol ac ar gael unrhyw bryd. O ran hygyrchedd a chynwysoldeb, bydd gan fyfyrwyr fwy o gyfleoedd i gymryd rhan na’r rheini yn y byd go iawn [2]. Offer digidol y gellir eu defnyddio i ddylunio ystafelloedd dianc digidol yw Google Forms, Microsoft OneNote, Microsoft Forms, Microsoft Sway a Xerte. Yn y blog hwn, rwy’n rhannu enghraifft syml o ystafell ddianc ddigidol a ddyluniwyd yn Xerte.
Mae gan Xerte gasgliad o gynnwys rhyngweithiol sy’n cefnogi creu ystafelloedd dianc. Mae’r enghraifft a ddefnyddir yn y blog hwn yn dangos sut y gellir defnyddio cynnwys rhyngweithiol i ddylunio’r gêm. Cyn belled â bod gennych chi stori a chwisiau/posau, nid yw’n anodd.
I ddylunio’r gêm, defnyddiais y camau syml canlynol [3].
- Llunio stori ddiddorol – Ysgrifennwch thema’r stori ddiddorol sy’n dal sylw’r sawl sy’n cymryd rhan.
- Dewch â’ch stori yn fyw gan ddefnyddio graffeg – Dyluniwch graffeg addas sy’n cyd-fynd â thema’r stori. Fy arf cyfrinachol oedd ‘Microsoft Copilot’ (sgwrsfot DA cynhyrchiol), gan nad oeddwn i eisiau poeni am yr hawlfraint neu am beidio â bod yn artist.
- Creu cwisiau a chliwiau – Defnyddiwch ystod o fathau o gwestiynau i lunio cwestiynau a fydd yn helpu’r myfyrwyr i gyflawni nodau’r gweithgaredd.
- Profwch y dyfroedd – Mynnwch adborth gan ffrindiau beirniadol. Gadewch iddyn nhw chwarae’r gêm a gweld a yw’n gweithio yn ôl y disgwyl!
- Ewch ati i fireinio – Adolygwch y cynnwys a’r swyddogaethau yn seiliedig ar y sylwadau. Hefyd, rwy’n argymell defnyddio thema Offeryn Ar-lein Xerte (XOT) i wella’r diwyg. Ar hyn o bryd, dim ond i staff Prifysgol Caerdydd mae XOT ar gael, ond cyn bo hir bydd ar gael i ddefnyddwyr allanol.
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau ystafell ddianc yn meithrin gwaith tîm yn ogystal â’r gallu i ddatrys problemau a meddwl yn feirniadol. Gellir cymhwyso’r gêm i unrhyw bwnc neu gyd-destun. Os hoffech chi wybod rhagor am y pwnc hwn a gweld sut y gellir ei ddefnyddio yn eich maes chi, cysylltwch â Punsisi Somaratne neu os ydych chi â diddordeb mewn themâu XOT, cysylltwch â Nan Zhang: ltacademy@caerdydd.ac.uk. Rydyn ni’n fodlon iawn helpu!
Cymorth ac adnoddau
- Llunio adnoddau dysgu rhyngweithiol yn Xerte
- Pecyn ystafell ddianc y gellir ei lawrlwytho
- Cynnig DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu i staff Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys gweithdai “Cyflwyniad i ddysgu ac addysgu drwy chwarae” a “Creu adnoddau rhyngweithiol yn Xerte”.
- Ymunwch â’r gymuned hwyl a gemau maes dysgu ac addysgu, sy’n rhoi cyfleoedd i staff Prifysgol Caerdydd rannu arferion, datblygu syniadau a thrafod y dadleuon dros ddulliau drwy chwarae.