Creu adnoddau dysgu hygyrch yn rhwydd gan ddefnyddio Blackboard Ally
5 Mawrth 2025
Rwy’n Swyddog Cymorth Technoleg Dysgu yn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd. Mae fy swydd yn amrywio, gan gynnwys cydweithio â chydweithwyr ledled y Brifysgol i weithredu a chefnogi nifer o brosiectau dysgu sydd wedi’u gwella gan dechnoleg ac sydd â’r nod o wella profiad dysgu’r myfyrwyr. Bydda i’n rhoi cyngor technolegol ac addysgegol i helpu i ddatblygu’r arfer orau.
Blackboard Ally
Mae Blackboard Ally yn ei gwneud hi’n rhwydd i staff greu deunyddiau dysgu hygyrch drwy droses syml, cam wrth gam. Yn yr Adroddiad Hygyrchedd, cewch drosolwg clir o sgôr hygyrchedd eich cwrs yn ogystal ag argymhellion cyflym er mwyn gwella—gan dynnu sylw yn gyntaf at y cynnwys y mae’r atgyweiriadau hawsaf yn perthyn iddyn nhw. Does dim gofyn ichi chwilio drwy eich cwrs â llaw, mae Ally yn mynd â chi yn uniongyrchol at yr adnodd, gan esbonio’r hyn y gellir ei wella ac yn gadael ichi wneud newidiadau ar unwaith. Yn well Hyd yn oed, does dim rhaid ichi wneud popeth ar unwaith. Gallwch chi wneud diweddariadau bach a hylaw pryd bynnag y bydd amser yn caniatáu hynny, gan sicrhau profiad llyfnach a mwy cynhwysol i fyfyrwyr heb ychwanegu at eich llwyth gwaith. Gadewch i Blackboard Ally eich cefnogi i greu amgylchedd dysgu mwy hygyrch – un cam ar y tro!
Rhowch dro arni
I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau manylach ar ddefnyddio Blackboard Ally, cyfeiriwch at ein hadnodd Blackboard Ally Xerte: Hygyrchedd Digidol – Blackboard Ally

Cymryd Rhan
Oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol wrth ddefnyddio Dysgu Canolog? Cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu: ltacademy@caerdydd.ac.uk