Canfyddiadau Adroddiad Interniaethau ar y Campws
12 Mehefin 2025
Yn ein blog diwethaf, cyflwynon ni adroddiad gan y myfyriwr Adil Sawal yn ystod ei Interniaeth ar y Campws yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Dyma rai o’i ganfyddiadau.
Cefnogi Ymchwilwyr ar ddechrau eu Gyrfa
Mae cynllun yr Interniaethau ar y Campws yn croesawu ceisiadau gan Ymchwilwyr ar ddechrau eu Gyrfa, gan gefnogi eu datblygiad a’u gallu i ennill sgiliau goruchwylio.
Yn yr adroddiad tynnwyd sylw at y ffordd mae’r interniaethau yn cefnogi llwybr gyrfaol cynnar ymchwilwyr. Dangosodd canfyddiadau’r adroddiad fod goruchwylwyr prosiectau wedi cael cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol a gwella eu sgiliau.
Siaradodd aelod o’r staff â ni am fanteision cynnal interniaeth: “Y prif fantais rwy wedi’i chael yn sgil y rhaglen hyd yn hyn yw profiad goruchwylio/rheolwr llinell yn hytrach na chyfraniad at ymchwil”. Pwysleisiwyd hefyd i’r profiad ddatblygu ystod o sgiliau, gan gynnwys cyfathrebu effeithiol, rheoli amser a chydlynu prosiectau, gan wella eu gallu i fentora ac addysgu yn y pen draw.
Cefnogi dyfodol myfyrwyr
Rhoddodd y myfyrwyr wybod am ystod o sgiliau a enillwyd yn ystod eu profiadau ar y campws a ystyriwyd yn werthfawr wrth fynd i’r afael â’u gyrfa yn y dyfodol. Ymhlith y rhain roedd cydnabod hyfedredd a’i rôl wrth wella hyder a moeseg gwaith myfyrwyr, a bod hyn yn deillio o’u profiadau o gyflwyno eu gwaith a gallu bodloni sawl terfyn amser. Roedd y profiadau hyn yn eu helpu i deimlo’n fwy parod a galluog yn academaidd ac yn broffesiynol.
Yn ogystal, roedd y myfyrwyr yn cydnabod bod y cynllun wedi gwella eu CV ac wedi rhoi mantais gystadleuol iddyn nhw yn y farchnad swyddi. Soniodd llu o fyfyrwyr am sicrhau cyfleoedd swyddi a oedd yn gysylltiedig ag ymchwil neu’r byd academaidd, gan briodoli eu llwyddiant yn uniongyrchol i’w hinterniaeth ar y campws. Ystyriwyd yn eang fod interniaethau ar y campws yn gam allweddol yng nghynnydd gyrfaol y myfyrwyr hyn. Dyma a ddywedodd myfyriwr a gymerodd ran “Bellach, fi yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg un o Gwmnïau Newydd y Flwyddyn”.
Cyfleoedd Rhwydweithio
Pwysleisiodd y myfyrwyr pa mor bwysig yw rhwydweithio yn ystod yr interniaeth. Pwysleision nhw fod y rhaglen wedi caniatáu iddyn nhw feithrin cysylltiadau proffesiynol yn eu grwpiau ymchwil ac yn rhyngwladol. Tynnodd myfyriwr sylw at yr agwedd hon gan ddweud ei fod wedi “creu cysylltiadau rhyngwladol sy’n fy nghefnogi hyd heddiw” gan ychwanegu “Ro’n i’n gallu mynd â fy ymchwil i gynadleddau ac roedd hyn yn golygu bod modd imi ddechrau creu rhwydwaith proffesiynol”. Ystyriwyd bod y cyfle i gyflwyno ymchwil mewn cynadleddau yn fantais sylweddol, gan alluogi myfyrwyr i ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol a chael profiad o sawl maes ymchwil. Argymhellodd nifer sylweddol o fyfyrwyr raglen Interniaethau ar y Campws yn fawr i fyfyrwyr eraill.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ragor o’n blogiau ar Gynllun ar y Campws y Brifysgol neu ceir rhagor o fanylion ar fewnrwyd y staff.