Blog Newydd ein Cynllun Interniaethau ar y Campws
14 Tachwedd 2024Croeso i flog yr Academi Dysgu ac Addysgu am Interniaethau ar y Campws.
Mae’r cynllun Interniaethau ar y Campws wedi bod yn weithredol ers 2008. Ar y dechrau, roedd yn dwyn yr enw ‘Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd’ (CUROP) a dim ond 15 o gyfleoedd am leoliad oedd i’w cael. Ers 2008, mae’r cynllun wedi tyfu, ac erbyn hyn mae’n cynnig tua 150 o leoliadau i fyfyrwyr israddedig bob haf. At ei gilydd, mae’r cynllun wedi rhoi’r cyfle i dros 1850 o fyfyrwyr i fynd ar leoliad, gyda buddsoddiad ariannol o dros £2m.
Y cynllun
Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr, yn ogystal â chyfle i gael blas ar ymchwil ôl-raddedig, gan eu galluogi i ystyried symud ymlaen at astudiaethau ôl-raddedig. O ran y staff, mae’r cynllun yn rhoi cyfle gwerthfawr iddyn nhw help llaw ychwanegol gyda’u hymchwil dros yr haf, ac mae hefyd mae’n gyfle i gael safbwynt myfyrwyr ar eu prosiectau, ac yn gyfle i fwydo hynny i’r gwaith.
Ein blog
Yma ar flog yr Academi Dysgu ac Addysgu, byddwn ni’n rhannu gwybodaeth am y cynllun, gan gynnwys pytiau o brosiectau sydd wedi cael eu cynnal, astudiaethau achos gan fyfyrwyr a staff am eu profiadau, a gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl wrth gymryd rhan.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn yr Academi Dysgu ac Addysgu: LTASummerPlacements@caerdydd.ac.uk