Skip to main content

Addysg Ddigidol

Beth sy’n newydd yn Dysgu Canolog? Dewisiadau o ran defnydd ac arddull

9 Hydref 2025

Mae Blackboard Ultra yn parhau i esblygu ac mae rhai diweddariadau yn dod â phosibiliadau newydd chwaethus ar gyfer cyflwyno Deunyddiau Dysgu yn Dysgu Canolog. Dyma gipolwg cyflym ar yr hyn sy’n newydd a sut allwch chi fanteisio ar y nodweddion hyn:

Dogfennau Gwell gydag Arddull Blociau

Mae’r adran ddogfennau bellach yn cynnig opsiynau Arddull Blociau newydd ar gyfer blociau cynnwys unigol. Drwy ddefnyddio’r rhain gallwch wahaniaethu’n weledol rhwng rhannau o’ch dogfen, gan agor ystod eang o bosibiliadau arddull. Gallwch ychwanegu ychydig o liw gydag eicon ac ymylon safonol i dynnu sylw at wahanol fathau o wybodaeth.

Mae pedwar arddull i ddewis o’u plith:

  • Cwestiwn: Glas
  • Awgrym: Melyn
  • Prif Bwyntiau: Porffor
  • Camau Nesaf: Gwyrdd
I ddewis arddull, golygwch floc cynnwys a chlicio ar eicon y palet paent.

 

Mae bellach modd argraffu Dogfennau Canolog Dysgu ac maen nhw’n cynnig manteision hygyrchedd sylweddol o gymharu â ffeiliau y gellir eu lawrlwytho. Ewch i Hanfodion Dysgu Canolog am ragor o fanylion ynglŷn â’r canlynol:

  • Creu Dogfennau
  • Ychwanegu a golygu Blociau Cynnwys a Chynllun Grid
  • Trosi Word, PDF neu PowerPoint yn Ddogfennau
  • Ychwanegu gwiriadau gwybodaeth mewnol

Tabl Cynnwys y Modiwl Dysgu

Mae Modiwlau Dysgu bellach yn cynnwys Tabl Cynnwys yn awtomatig i fyfyrwyr. (Yn dod yn fuan i’r Hyfforddwr.) Dyma welliant mawr i fyfyrwyr, gan roi trosolwg clir o’r cynnwys a chaniatáu iddyn nhw neidio’n uniongyrchol i unrhyw adran. Mae hefyd yn dangos cynnydd myfyrwyr drwy’r Modiwl Dysgu.

Bellach mae’r tudalennau cynnwys yn meddiannu lled llawn y sgrin sy’n weddill ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, gan leihau maint y gofod gwyn diangen.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i alluogi hyn – mae bellach yn safonol ym mhob Modiwl Dysgu.

Ewch i Hanfodion Dysgu Canolog am ragor o fanylion ynglŷn â’r canlynol:

  • Defnyddio Modiwlau Dysgu a Ffolderi
  • Ychwanegu delweddau bach at Fodiwlau Dysgu
  • Trosi Ffolderi yn Fodiwlau Dysgu