Skip to main content

Interniaethau ar y Campws

Astudiaeth Achos Goruchwyliwr: Siôn Jones

20 Awst 2025

Mae Siôn Jones, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi goruchwylio myfyrwyr fel rhan o’n prosiect Interniaethau ar y Campws, ac wedi cymryd rhan yn y prosiect fel myfyriwr ei hun. Yma mae hi’n sôn am ei phrofiad.

Beth oedd eich cymhelliant cychwynnol o ran ymgymryd â lleoliad, yn fyfyriwr ac yna’n oruchwyliwr?

Roeddwn yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd pan wnes i ymgymryd â’r interniaeth yn fyfyriwr, a doeddwn i ddim yn rhy siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud ar ôl graddio. Roeddwn i’n ystyried astudio ar gyfer PhD ar y pryd ac fe ddes i’n ymwybodol o’r prosiect hwn oedd wedi’i ariannu, trwy e-bost. Roeddwn i’n teimlo fod y prosiect hwn yn cyd-fynd â fy niddordebau a’i fod yn rhywbeth gwahanol i’w wneud o’i gymharu â’r ymchwil yr oeddwn wedi bod yn ei gwneud yn ystod fy ngradd. Doeddwn heb gwblhau unrhyw beth yn ymwneud â’r maes meddygol o’r blaen.

Fy nghymhelliant craidd pan oeddwn yn fyfyriwr oedd:

1) Roeddwn i eisiau gyrfa ym maes ymchwil felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda ar gyfer fy nghais PhD

2) Roeddwn i’n meddwl y byddai’n brosiect diddorol

3) Roedd gen i deulu a oedd yn byw yng Nghaerdydd; felly, roedd yn gyfle cyflogedig gwych ac roeddwn yn gallu aros gyda nhw.

Yn oruchwyliwr, roeddwn i’n meddwl ei fod yn brofiad da i’w gynnig i fyfyrwyr a’i fod hefyd yn gyfle iddyn nhw ddatblygu eu profiadau ymhellach. Roedd hefyd yn ffordd dda o wneud cais am arian ychwanegol i gael rhywun i roi cymorth ychwanegol.

Yn eich barn chi, a wnaeth y prosiect Interniaeth ar y Campws eich helpu i deimlo’n fwy parod wrth nesáu at eich PhD?

Fe helpodd fi pan ddaeth at fy nghais, yn enwedig ar gyfer fy nghyfweliadau. Roedd yn rhywbeth y gallwn ei drafod. Fe fu fy ngoruchwylwyr hefyd yn help mawr gyda fy nghais PhD. Helpodd fi o ran cael dealltwriaeth o’r math o waith y mae myfyrwyr PhD yn ei wneud, na fyddwn wedi ei gael yn fy nghwrs israddedig.

Rwy’n credu ei fod wedi fy helpu i 1) Ennill y PhD a 2) O ran y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y PhD

Rwy’n meddwl bod gwneud y rhaglen wedi cadarnhau’r dyhead hwnnw o fod wir eisiau gwneud PhD. Ar ôl ei gwblhau, daeth yn amlwg bod hyn yn rhywbeth y gallwn weld fy hun yn ei wneud.

Yn oruchwyliwr, ydych chi’n meddwl bod y cynllun interniaeth wedi dylanwadu ar eich twf proffesiynol eich hun, yn ogystal â’ch datblygiad yn eich gyrfa?

Fe helpodd yn ddi-os. Roeddwn i efallai braidd yn naïf pan ddechreuais i gyntaf. Roeddwn i’n meddwl y gallwn i adael myfyrwyr i wneud pethau ar eu liwt eu hunain. Fe sylweddolais i fod angen cyswllt cyson a chyfarfodydd i sicrhau y gallent ddelio â’r gwaith, a bod angen i fy nghyfarwyddiadau fod yn glir. Rwy’n credu bod fy sgiliau rheoli a mentora wedi newid a newid er gwell.

A oes unrhyw sgiliau penodol y bu i chi eu caffael yn ystod yr interniaeth pan oeddech yn fyfyriwr ac yna’n oruchwyliwr?

Fel myfyriwr wnaeth CUROP (Interniaeth ar y campws) ymestyn fy sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol ymhellach; gan roi’r cyfle i mi ddefnyddio gwahanol feddalwedd nad oedd gen i fynediad ato ar fy nghwrs, megis “SPSS”. Fe fu’r rhaglen hefyd yn gymorth o ran fy sgiliau rheoli amser; roedd angen i mi ymdrin â gwahanol gyfrifoldebau ar yr un pryd.

Pa fath o effaith gafodd eich prosiect ar eich ymchwil? Allech chi fod wedi gwneud hyn eich hun?

Byddwn wedi gallu ei wneud fy hun, ond byddai wedi cymryd rhagor o amser i mi ei gwblhau. Ar gyfer fy ail brosiect ymchwil, ble oedd modd i mi dderbyn nawdd gan Interniaeth ar y campws, roedd modd i mi gyflogi dau fyfyriwr. Roedd yn wych bod y myfyrwyr yn medru rhannu syniadau gyda’i gilydd, a chynnig syniadau na fyddwn i wedi meddwl amdanyn nhw fu hunain. Daeth â syniadau arloesol a ffres i’r prosiect.