Astudiaeth Achos Goruchwyliwr: Emma Yhnell
15 Awst 2025
Mae Dr Emma Yhnell, Darllenydd yn yr Ysgol Biowyddorau, wedi goruchwylio myfyrwyr fel rhan o’n prosiect Interniaethau ar y Campws, ac wedi cymryd rhan yn y prosiect fel myfyriwr ei hun. Yma mae hi’n sôn am ei phrofiad.
Ar y dechrau, beth oedd eich cymhelliant dros oruchwylio lleoliadau myfyrwyr?
Cwblheais brosiect CUROP (Interniaeth ar y Campws nawr) ffantastig pan o’n i’n fyfyriwr israddedig, felly roedd gen i atgofion gwych o hynny a roeddwn yn awyddus i roi cyfle i eraill fel yr un cefais i fudd ohono. Roedd yn brofiad defnyddiol iawn a gyfoethogodd fy sgiliau a fy rhagolygon o ran gyrfa. Roeddwn i eisiau rhoi yn ôl o’r safbwynt hwnnw a galluogi eraill i gael budd o’r un cyfle a rwyf innau mor ddiolchgar ohono.
Ydych chi’n meddwl bod y cynllun interniaeth wedi dylanwadu ar eich twf proffesiynol eich hun, yn ogystal â’ch datblygiad yn eich gyrfa?
Ydy, mae cal y pleser a’r cyfle i fod yn oruchwyliwr bob tro yn wych ac rwy’n eiriolwr mawr bob amser dros y ffaith fy mod yn dysgu cymaint gan fyfyrwyr ag y gallen nhw fod yn ei ddysgu gen i a’r prosiect. Fodd bynnag, rwy’n meddwl y gall bod yn oruchwyliwr a’r hyfforddiant a’r llwyth gwaith mae hynny’n gymryd (dros fisoedd yr haf) gael ei gydnabod yn fwy mewn prifysgolion, yn enwedig o ran dyrchafiadau, gwobrwyo a cydnabyddiaeth. Mae’n golygu cryn amser a gwaith caled i ddarparu goruchwyliaeth da iawn, a gall yr effaith gadarnhaol y ceir hyn ar fywydau myfyrwyr newid eu bywydau, hybu gyrfa a helpu eraill i ddysgu, a dylai hyn yn bendant gael ei gydnabod mwy.
A oes unrhyw sgiliau rydych chi’n credu eich bod wedi eu hennill a’u datblygu trwy gydol y rhaglen?
Fel myfyriwr yn gwneud y rhaglen, hwn oedd fy nghyfle cyntaf i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil am gyfnod parhaus o amser. Roedd hynny’n ddefnyddiol iawn wrth adeiladu hyder mewn sgiliau penodol ar gyfer y prosiect, fel dadansoddi data, ond hefyd sgiliau mwy cyffredinol fel rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau, siarad cyhoeddus ac ysgrifennu yn fwy academaidd. Fel aelod o staff, i mi, mae’n ymwneud â rhoi yn ôl trwy ddarparu cyfleoedd, mentora a hyfforddi tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y tîm a’r adran a’r Brifysgol ehangach am fanteision prosiectau o’r fath.
Sut roedd eich myfyriwr wedi effeithio ar eich prosiect?
Dw i wedi bod mor ffodus o gael y fraint o oruchwylio cryn dipyn o fyfyrwyr Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP) dros y blynyddoedd. Mae gan bob myfyriwr set o sgiliau unigryw a phethau yr hoffai eu dysgu neu eu gwella. Rwy’n gweithio gyda’r myfyrwyr i ddeall beth maen nhw eisiau elwa arno yn sgil y prosiect yn ogystal â chwblhau’r prosiect ei hun. Er enghraifft, hwyrach y bydd rhai’n gwerthfawrogi hyfforddiant siarad yn gyhoeddus, cymorth o ran rheoli prosiectau neu amser neu arweiniad gyrfaol. Mae llawer o fy ngwaith yn seiliedig ar gyd-greu myfyrwyr ac felly mae myfyrwyr yn greiddiol i’r prosiect, yn ogystal â gwrando’n ofalus a grymuso myfyrwyr i ddweud eu dweud.
Oedd eich myfyriwr wedi ennill neu wedi meithrin sgiliau?
Mae pob un o fy myfyrwyr wedi meithrin sgiliau ym mhrosiectau CUROP, boed hynny’n ddadansoddi data, gwell dealltwriaeth o lenyddiaeth ymchwil neu’r broses ymchwil ei hun. Ond un peth hollbwysig imi yw bod myfyrwyr hefyd yn elwa yn ehangach ar yn prosiectau, maen nhw’n mynd yn fwy cyfforddus o ran siarad â staff, maen nhw mynd yn fwy hyderus ac yn gallu defnyddio eu profiad i gyfrannu at wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Braint yw helpu myfyrwyr ar y daith unigryw hon.