Skip to main content

Addysg Ddigidol

All Deallusrwydd Artiffisial arbed amser ichi go iawn yn Dysgu Canolog? Rwy’n ceisio dod o hyd i’r ateb

18 Awst 2025

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Gemma Hackman, aelod o Dîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Os nad ydyn ni wedi cwrdd â’n gilydd o’r blaen, helo! Un o’r pethau rwy’n ei hoffi fwyaf am fy swydd yw dod o hyd i ffyrdd clyfar ac ymarferol o wneud bywyd yn haws i’r myfyrwyr a’r staff. A’r haf ar ei anterth, rwy wedi bod yn chwilio am driciau i arbed amser i helpu pob un ohonon ni i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Yr wythnos hon, gosodais i her, sef ymryson cyfeillgar rhwng dau fersiwn ohonof i fy hun, sef Gemma vs. Gemma â DA.  Y nod? Gweld a all offer DA mewnol Dysgu Canolog (Blackboard Ultra) helpu i gyflymu’r broses o lunio cwrs newydd.

Rheolau’r Her

Creu 10 Modiwl Dysgu ar sail cwrs Dysgu Canolog, a bydd gan bob un deitl, disgrifiad, a delwedd addas. Bydd fersiwn ‘fi yn unig’ yn defnyddio delweddau parod Unsplash. Yn y fersiwn ‘â chymorth DA’, bydda i’n defnyddio’r delweddau y mae’r platfform yn eu hawgrymu, gan eu newid os nad ydyn nhw’n taro’r nodyn cywir yn llwyr.

Er mwyn bod yn deg, bydda i’n defnyddio dogfen Word sydd â’r holl gynnwys yn barod i’w gopïo a’i gludo (felly alla i ddim beio cyflymder fy nheipio!). Roedd seibiant 10 munud rhwng rowndiau, ond dim caffein na siwgr, er bod y rhain yn demtasiwn.

Y Canlyniadau

Fi ar fy mhen fy hun: 7 munud 59 eiliad
Fi â DA: 4 munud 25 eiliad

Enillodd DA, sef 45% yn gyflymach na gwneud popeth ar fy mhen fy hun.

Bonws annisgwyl? Roedd y disgrifiadau DA yn eithaf manwl gywir a dweud y gwir, yn rhyfeddol o dda felly! Golyges i nhw i gysoni’r cwrs â’r briff gwreiddiol, ond pe bawn i wedi’i dderbyn fel y mae, gallwn i fod wedi arbed hyd yn oed mwy o amser, gan arbed 3 munud a 19 eiliad ychwanegol fesul cwrs, sef 86% o arbediad amser yn gyffredinol.

Rhowch gynnig arni

Dyma sut gallwch chi ddilyn fy mhroses a dechrau arbed amser hefyd!

Os oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol o ran defnyddio Dysgu Canolog, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu:ltacademy@caerdydd.ac.uk