Skip to main content

FfrwdYsgol Haf

Sut roedd Ysgol Haf Wolfson wedi atgyfnerthu fy niddordeb mewn ymyraethau digidol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc

4 Awst 2025

Mae gan Pelin Koyuncu o’r Swistir feistr Seicoleg. Yn y blog hwn, mae Pelin yn sôn am ei phrofiad o gymryd rhan yn #WolfsonSummer25 a sut roedd wedi atgyfnerthu ei diddordeb ym maes defnyddio gêmeiddio yn offeryn ymyrryd.

Gwnes i gais i Ysgol Haf Wolfson achos fy mod i eisiau dysgu rhagor am yr ymchwil gyfredol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc gan weithwyr proffesiynol sy’n weithgar yn y byd academaidd ac ymarfer clinigol. Un o fy nodau oedd cyfnewid gwybodaeth a phrofiadau gyda phobl eraill o gefndiroedd tebyg a oedd yn cymryd rhan. Ro’n i’n hapus o gael gwybod bod fy nghais wedi’i gymeradwyo ac yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno ag ysgol haf ar bwnc mor bwysig – yn ogystal â’r ffaith bod y cyfan ar-lein, oedd yn beth cyfleus.

Treuliais i dridiau arbennig iawn er mwyn deall rhagor am y tueddiadau, yr heriau a’r dyheadau at y dyfodol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc. Ro’n i’n gwerthfawrogi’r rhaglen amrywiol ac yn elwa llawer ar ddarlithoedd ar bynciau ro’n i wedi’u colli drwy gydol fy astudiaethau, megis geneteg a byd polisi. Ar ôl profiad blaenorol yn dylunio gemau go iawn, ro’n i’n arbennig o hapus i gael gwybod rhagor am ymyraethau digidol, ac ro’n i’n gallu cysylltu’r ddau brofiad â’i gilydd. Yn ogystal, bydd y ddoethuriaeth y bydda i’n ei dechrau’n fuan yn canolbwyntio ar edrych ar effeithiolrwydd ymyrraeth ddigidol ac rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r profiadau gwerthfawr hynny yn fy ngwaith yn y dyfodol.

Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol ar y cyd â’r darlithoedd ac oherwydd hyn roedd yr ysgol haf yn ddeinamig iawn. Roedd yr ymwneud rhwng y bobl a gymerodd ran, y darlithwyr a’r trefnwyr yn barchus ac yn ddifyr iawn. Yn y sesiwn rwydweithio ro’n i’n gallu siarad â rhai o’r bobl a oedd yn cymryd rhan, gan gyfnewid barn a phrofiadau personol. O Brasil i Nepal – peth diddorol oedd gweld lleoliad y bobl oedd yn cymryd rhan yn ogystal â’r wybodaeth a’r arbenigedd oedd ganddyn nhw i’w rhannu gyda phob un ohonon ni.

Roedd cymryd rhan yn gwneud imi sylweddoli bod gan bob un ohonon ni genhadaeth, sef deall, gwella a chefnogi iechyd meddwl pobl ifanc – ble bynnag rydyn ni’n byw. Peth gwirioneddol wych ac ysbrydoledig oedd gweld bod cynifer o bobl yn gofalu am bobl ifanc a’u lles.

Rwy’n hynod ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ysgol haf hon a galla i ddweud fy mod i wedi cyflawni fy nod personol, sef dyfnhau fy ngwybodaeth a fy sgiliau. Byddwn i yn bendant yn annog pawb sydd eisiau dysgu rhagor am ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc i gymryd rhan!

Cewch gysylltu â Pelin ar LinkedIn

Ymunwch â ni yn 2026:

Hoffech chi ymuno â ni yn Ysgol Haf Wolfson 2026? Cewch ymgeisio ym mis Mawrth 2026, a bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych.

Cewch gofrestru i fod ar ein rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod rhagor am #WolfsonSummer26