Skip to main content

FfrwdLleisiau Ieuenctid

Pŵer cymuned ac ymdeimlad o berthyn

15 Mai 2025

Yn y blog hwn, mae Lauren yn myfyrio ar thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025 – cymuned. Mae hi’n rhannu ei thaith bersonol gydag iechyd meddwl ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymuned wrth greu mannau diogel, cefnogol i bobl ifanc, lle maen nhw’n teimlo dealltwriaeth, cysylltiad, a grym.

Shwmae bawb,

Fy enw i yw Lauren Conway ac rwy’n rhan o Grŵp Cynghori Pobl Ifanc (YAG) Canolfan Wolfson ac yn un o sylfaenwyr y Neuro Network. Gan ei bod hi’n Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ro’n i’n awyddus i fanteisio ar y cyfle i rannu ychydig o’m stori a sôn am pam mae cymuned mor bwysig mewn perthynas ag iechyd meddwl, yn enwedig i’r rhai ohonom ni sy’n delio â heriau iechyd meddwl.

Fel rhywun sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl a heriau eraill, ro’n i’n aml yn teimlo ’mod i’n cael fy nghamddeall neu ddim yn cael fy nghefnogi gan y systemau a oedd i fod i helpu. Byddai cael ymdeimlad cryf o gymuned yn ystod yr amseroedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Lle roedd gwasanaethau’n methu, gallai cymorth cymheiriaid a dealltwriaeth gan eraill fod wedi fy helpu i deimlo’n llai unig. Dyna pam mae grwpiau fel YAG a’r Neuro Network mor bwysig: nid yn unig maen nhw’n cynnig yr ymdeimlad hwnnw o gysylltiad a chefnogaeth, ond maen nhw hefyd yn gweithio i wella ymchwil iechyd meddwl a llywio datblygiad gwasanaethau fel bod gofal yn y dyfodol yn fwy hygyrch a chynhwysol. Mae cwrdd ag eraill sydd â phrofiadau tebyg wedi fy nghysuro a’m grymuso – rhywbeth nad oeddwn i wedi ei deimlo tan yn ddiweddar.

Mae fy nhaith wedi fy nysgu am bŵer cymuned. Ers dod i’r brifysgol, rydw i wedi dysgu pa mor bwysig yw rhoi eich hun mas ’na a dod o hyd i bobl sydd wir yn eich deall chi. Ro’n i’n dal i deimlo allan o le ar y dechrau, yn masgio, yn osgoi digwyddiadau cymdeithasol, ac yn straffaglu trwy ofod a oedd yn aml yn teimlo’n ormod i mi. Ond hanner ffordd trwy fy ngradd, sefydlais gymdeithas ar gyfer myfyrwyr niwroamrywiol, a’m helpodd i ddod o hyd i gysylltiad, adeiladu hyder, a hyrwyddo ymwybyddiaeth.

Mae’r YPAG yn dod â phobl ifanc sydd â phrofiad o lygad y ffynnon at ei gilydd i gynghori ar ymchwil iechyd meddwl, gan sicrhau bod prosiectau’n adlewyrchu anghenion a lleisiau’r rhai maen nhw’n ceisio eu cefnogi. Mae bod yn rhan o’r YPAG wedi bod yn brofiad hyfryd. Mae’n ofod lle mae ein lleisiau ni wir yn bwysig ac mae ein syniadau’n helpu i lywio canlyniadau gwell mewn ymchwil iechyd meddwl.

Mae’r Neuro Network yn grŵp cymunedol nid-er-elw a gyd-sefydlais i gefnogi unigolion niwroamrywiol yn y gymuned. Rydyn ni’n cynnal grwpiau cymorth cyfoedion rheolaidd, gan gynnwys grŵp ADHD mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, ac yn cynnal digwyddiadau cynhwysol fel grwpiau cymorth awtistiaeth ac ADHD a chlwb crefftio cwîar niwroamrywiol. Mae’n ofod lle mae pawb yn cael eu croesawu a’u hannog i fod yn nhw eu hunain, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant. Mae’r YAG a’r Neuro Network yn helpu i wella dealltwriaeth gymdeithasol o heriau niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl a’n symud yn agosach at fyd lle mae modd siarad am eich trafferthion yn agored.

Yn ddiweddar, rydw i wedi dod i ddeall pa mor hanfodol yw cael rhwydwaith cymorth – pobl nad ydyn nhw’n gwneud i chi deimlo’n rhyfedd neu’n wahanol, ond yn hytrach yn gwneud i chi deimlo fel eich bod chi’n perthyn. Nid yw bob amser yn hawdd – rwy’n dal i wynebu eiliadau o unigrwydd a gorbryder. Ond mae cael fy amgylchynu gan bobl sy’n rhannu profiadau tebyg yn gwneud i mi deimlo mwy o gysylltiad a dealltwriaeth. Mae’n anhygoel faint o wahaniaeth y gall cymuned ddibynadwy, ofalgar ei wneud. Ni ddylai’r gallu i siarad am gyflyrau iechyd meddwl yn agored, mewn mannau sy’n teimlo’n ddiogel, fod yn fraint, ond yn aml dyma’r achos o hyd.

Mae unigrwydd yn fwy na dim ond emosiwn – mae’n broblem iechyd cyhoeddus, ac mae’n arbennig o gyffredin. Gall cymuned fod yn donig pwerus i unigrwydd. Gall dod o hyd i’r gymuned gywir – boed ar-lein neu wyneb yn wyneb – ddod ag ymdeimlad o berthyn, cyd-ddealltwriaeth, a chymorth emosiynol.

Mae rhoi fy hun mas ’na a chwrdd ag eraill sydd â phrofiadau tebyg nid yn unig wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd ond hefyd wedi gwella fy iechyd meddwl. Mae rhywbeth anhygoel o rymusol am ddod o hyd i’ch llwyth chi a gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Rwy’n dal i adeiladu fy nghymuned – mae’n daith barhaus – ond rydw i wedi mynd o deimlo fel nad oeddwn i’n perthyn i greu mannau lle gallaf fod yn driw i fi fy hun. Dyna beth rydw i ei eisiau i eraill hefyd: cymuned lle rydych chi’n teimlo derbyniad, cysylltiad a chefnogaeth. Os ydych chi’n teimlo’n unig, cofiwch fod ’na bobl a grwpiau mas ’na sy’n barod i’ch croesawu chi yn union fel ydych chi.

Dyma rai adnoddau sydd wedi bod yn ddefnyddiol i mi:

  • Archwiliwch eich hobïau neu bethau rydych chi bob amser wedi bod eisiau rhoi cynnig arnyn nhw, a chwiliwch am grwpiau cymunedol o amgylch y diddordebau hynny
  • Defnyddiwch wefannau fel Facebook, Eventbrite a fforymau lleol i ddod o hyd i ddigwyddiadau a chymunedau yn eich ardal chi
  • Os ydych chi yng Nghaerdydd, cymerwch olwg ar FAN (Friends and Neighbours), sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol am ddim i bobl gysylltu ac ymarfer Cymraeg neu Saesneg mewn amgylchedd hamddenol
  • Mae gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) gyfeirlyfr cymunedol sy’n llawn gweithgareddau lleol a grwpiau cymorth
  • Mae Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnal digwyddiadau a chyfarfodydd cymdeithasol am ddim
  • Mae Mind Caerdydd yn cynnig cymorth iechyd meddwl a chyfleoedd i gysylltu

Gallwch hefyd ddod o hyd i’r adnoddau hyn yn lleol.

Diolch Lauren am ysgrifennu’r blog hwn.


Yng Nghanolfan Wolfson, mae cymuned yn rhan bwysig o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. O gyd-gynhyrchu ymchwil gyda phobl ifanc i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, teuluoedd a gweithwyr iechyd, rydyn ni’n gwybod bod gwella iechyd meddwl yn gofyn am gydweithio, ymddiriedaeth a sgyrsiau go iawn – ac na all neb wneud hynny ar ei ben ei hun.

Os hoffech ymuno neu ddysgu mwy am ein Grŵp Cynghori Ieuenctid, gweler ein gwefan.

Oes gennych chi ddiddordeb yn ein dull o Gynnwys y Cyhoedd? Cymerwch olwg ar ein nodau a’n hastudiaethau achos ar ein tudalen Cynnwys y Cyhoedd.