Skip to main content

FfrwdYmchwil

Llythrennedd iechyd meddwl 101: A yw hi’n iawn i beidio â bod yn iawn?

5 Chwefror 2025

Yn y blog hwn, mae Kathleen Rachel, a aeth i Ysgol Haf 2024, yn trin a thrafod pwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl ac mae’n esbonio beth mae deall ein lles meddyliol a’i reoli yn ei olygu.

Gan gyfeirio at ei phrofiadau yn tyfu yn Indonesia, lle nad oedd iechyd meddwl yn cael ei drafod yn aml, mae Kathleen yn defnyddio’r Pyramid Llythrennedd Iechyd Meddwl i egluro’r gwahaniaethau rhwng straen, heriau iechyd meddwl ac anhwylderau.

Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar gael gwared ar stigma a meithrin ymwybyddiaeth, a’i nod yw cynnig arweiniad ar sut i gofleidio a chynorthwyo iechyd meddwl mewn bywyd bob dydd.

 

Sgyrsiau am iechyd meddwl yn Indonesia

Ers pandemig COVID-19, mae’r ymadrodd “Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn” wedi cael cryn sylw, yn rhannol oherwydd y ddrama o Corea ‘It’s okay not to be okay”. A minnau’n dod o Indonesia, lle nad yw materion iechyd meddwl yn cael sylw amlwg yn y cyfryngau, roedd gan y gyfres deledu hon arwyddocâd diwylliannol yn ystod y cyfnod clo, gan sbarduno sgyrsiau mawr eu hangen am iechyd meddwl. Ond beth yw cofleidio ‘peidio â bod yn iawn’ mewn gwirionedd? Os yw’n dderbyniol profi emosiynau anodd, pam mae anhwylderau meddyliol hyd yn oed yn bodoli? Ac a oes achosion o ‘beidio â bod yn iawn’ y mae wir angen rhoi sylw iddynt ar unwaith?

Er bod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl wedi cynyddu, nid tasg hawdd bob amser yw gwahaniaethu rhwng straen bob dydd a materion iechyd meddwl mwy difrifol. Ydyn ni mewn sefyllfa i ddeall iechyd meddwl? A yw bod yn iach yn feddyliol yn gyfystyr â bod yn hapus neu beidio â bod o dan straen? Nod y blog hwn yw mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn a rhoi dealltwriaeth o bwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl.

 

Iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau 

Nid tasg hawdd yw bod yn eich arddegau! Mae’n gyfnod o newidiadau sylweddol – corfforol, meddyliol a chymdeithasol – a gall y rhain ddylanwadu’n sylweddol ar iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl yn cwmpasu sut rydyn ni’n teimlo, yn meddwl ac yn cysylltu ag eraill. Nid yw iechyd meddwl da yn golygu bod yn hapus drwy’r amser neu beidio â bod o dan unrhyw straen; yn hytrach, mae’n ymwneud â rheoli straen, gwireddu eich potensial, a chynnal perthnasoedd ystyrlon.

Er enghraifft, ydych chi wedi teimlo’n drist ar ôl methu prawf? Mae hynny’n normal. Ond sut allwn ni nodi’r gwahaniaeth rhwng straen bob dydd ac anhwylder iechyd meddwl? Dyma lle mae Llythrennedd Iechyd Meddwl yn chwarae rhan hanfodol.

Mae’r cysyniad o Lythrennedd Iechyd Meddwl, a gyflwynwyd gan Anthony F. Jorm yn 2000, yn ymwneud â deall heriau iechyd meddwl, eu rheoli a’u hatal. Aeth Kutcher, Wei, a Coniglio (2016) ymlaen i’w ehangu wedi hynny yn bedair cydran allweddol:

  1. Cynnal iechyd meddwl
  2. Cydnabod anhwylderau’r meddwl a mynd i’r afael â nhw
  3. Cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl
  4. Gofyn am gymorth pan fo angen

Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar y cam cyntaf: deall y cyflyrau iechyd meddwl sydd gennych chi, a pham mae llythrennedd iechyd meddwl yn hanfodol.

 

Deall cyflyrau iechyd meddwl: Pyramid Llythrennedd Iechyd Meddwl

Er mwyn meithrin llythrennedd iechyd meddwl, gallwn ddechrau drwy nodi ein cyflyrau iechyd meddwl a defnyddio iaith briodol i ddisgrifio ein hemosiynau, ein meddyliau a’n hymddygiadau. Mae Pyramid Llythrennedd Rhyng-Berthynas Iechyd Meddwl yn ein helpu i ddeall y cyflyrau hyn:

Ffigur 1. Pyramid Rhyng-berthynas Cyflyrau Iechyd Meddwl 

Ffynhonnell: www.mentalhealthliteracy.org 

 

  1. Dim gofid, dim problem, dim anhwylder: Dyma’r teimlad o fod â chydbwysedd yn eich bywyd. Rydych yn fodlon, yn gynhyrchiol, ac yn mwynhau pethau arferol sy’n digwydd bob dydd.
  2. Trallod meddyliol Straen dros dro a achosir gan heriau dyddiol – fel pryder cyn sefyll prawf neu ddadl gyda ffrind. Er ei fod yn annymunol, mae’r straen hyn yn ein helpu i ddatblygu a meithrin gwydnwch.
  3. Problemau iechyd meddwl Mae’r heriau hyn yn fwy dwys na straen bob dydd, ac yn gallu deillio o ddigwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd fel colli rhywun annwyl neu swydd. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae’n bwysig gofyn am gymorth gan unigolion yr ydych yn ymddiried ynddynt.
  4. Anhwylderau meddyliol: Mae hyn yn cynnwys aflonyddwch clinigol o bwys o ran gwybyddiaeth, emosiwn neu ymddygiad, ac yn aml bydd angen diagnosis ac ymyrraeth broffesiynol ar eu cyfer. Mae anhwylderau meddyliol yn deillio o gyfuniad o ffactorau genetig, amgylcheddol a chymdeithasol.

Cael gwared ar y stigma 

Yn Indonesia, roedd sgyrsiau iechyd meddwl yn arfer bod yn brin ac roedd stigma’n gysylltiedig â nhw’n aml. Newidiodd fy safbwynt wedi imi ddechrau astudio seicoleg a sylweddoli pa mor hanfodol yw’r trafodaethau hyn. Mae stigma – sef cymysgedd o ragfarn a gwahaniaethu – yn parhau i fod yn rhwystr byd-eang mewn perthynas â gofal iechyd meddwl. Gall atal pobl rhag gofyn am gymorth, niweidio perthnasoedd, a chynnal camsyniadau, fel y gred bod pobl ag anhwylderau meddwl yn beryglus neu’n wan.

Mae’r stigma hwn yn effeithio ar bawb, gan gynnwys pobl ifanc, a allai fod yn cael eu bwlio neu eu cau allan yn gymdeithasol oherwydd eu brwydrau iechyd meddwl. Mae astudiaethau’n dangos nad yw 80% o bobl ifanc ag anhwylderau meddwl yn cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt (Merikangas et al., 2010). Mae cynyddu llythrennedd iechyd meddwl yn un ffordd o frwydro yn erbyn stigma a chreu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol.

 

I grynhoi: pwysigrwydd llythrennedd iechyd meddwl

Mae llythrennedd iechyd meddwl yn cynnwys gwybod sut i gynnal iechyd meddwl, cydnabod anhwylderau meddwl a mynd i’r afael â nhw, cael gwared ar stigma, a gofyn am gymorth pan fo angen. Drwy ddeall cyflyrau iechyd meddwl a’u dynameg, rydym yn normaleiddio’r arfer o ofyn am gymorth ac yn meithrin cymdeithas dosturiol.

Nid yw llythrennedd iechyd meddwl yn ymwneud â hunanymwybyddiaeth yn unig; mae’n ymwneud â grymuso cymunedau i gynorthwyo ei gilydd, lleihau stigma, a gwella lles yn gyffredinol.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni barhau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo llythrennedd iechyd meddwl er mwyn creu dyfodol mwy disglair ac iachach.

 

Bywgraffiad yr awdur:

Mae Kathleen yn ymchwilydd sydd â gradd mewn astudiaethau macro-seicoleg. Ei nod yw hyrwyddo iechyd meddwl cyfannol yn Indonesia, yn enwedig iechyd meddwl diwylliannol, atal, a thriniaeth drwy ysgrifennu’n annibynnol a phrosiectau ymchwil cydweithredol. Mynychodd Kathleen Ysgol Haf Canolfan Wolfson mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid yn 2024.Roedd ei phrosiectau diweddar yn trin a thrafod model iechyd meddwl gwarchodwyr cymunedol Indonesia, gwerthusiad o newid tasgau fel dull emig o hyrwyddo iechyd meddwl, ac ysgrifennu’r modiwl am lythrennedd iechyd meddwl pobl ifanc.Mae Kathleen yn credu mewn ‘Mens Sana in Corpore Sano’ sy’n golygu meddwl iach mewn corff iach. Mae’r ymadrodd yn awgrymu bod pob un ohonom yn haeddu cael meddwl iach mewn corff iach.

Diolch yn fawr i chi Kathleen am ysgrifennu’r blog hwn.