Lansiad ar-lein llwyddiannus ar gyfer y Ganolfan Ymchwil
6 Hydref 2021![](https://i0.wp.com/blogs.cardiff.ac.uk/wolfsonyoungpeople/wp-content/uploads/sites/586/2021/11/Screenshot-2021-10-01-101905.png?fit=600%2C338&ssl=1)
Cafodd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc dderbyniad da i’w gweminar y mis yma, oedd yn cyflwyno’r ganolfan ymchwil i’r byd.
Cynhaliwyd gweminar Cwrdd â Chanolfan Wolfson ar brynhawn y 5ed o Hydref 2021 ac ymunodd dros 100 o bobl â’r digwyddiad ar-lein. Roedd y gweminar, a gynhaliwyd gan yr Athro Jeremy Hall, yn cynnwys amrywiaeth o sgyrsiau a negeseuon fideo drwy gydol y prynhawn, yn ogystal â darlith gyhoeddus gan yr Athro Anita Thapar.
Wrth siarad wedi’r digwyddiad, dywedodd cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson, yr Athro Frances Rice: “Roeddem mor falch bod cynifer wedi ymuno â ni ar-lein ar gyfer y gweminar, gyda chynulleidfa amrywiol ar draws disgyblaethau a sectorau yn mynychu i glywed mwy am ein hymchwil.
“Roeddem wrth ein bodd bod Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle AS, wedi ymuno ar gyfer y digwyddiad cyfan, ac fe siaradodd mor angerddol am ei diddordebau polisi ym maes iechyd meddwl ieuenctid a’r cyffro ynghylch y cydweithio rhwng Canolfan Wolfson a llunwyr polisïau yn y dyfodol.
“Roedd hefyd yn wych clywed yr Athro Anita Thapar o Ganolfan Wolfson yn siarad am ymchwil iechyd meddwl ieuenctid a pha wersi rydym wedi’u dysgu ar y cyd hyd yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy i weld sgwrs gyhoeddus addysgiadol Anita ar ein sianel YouTube.”
![A screenshot of the interactive Mentimeter session in the event.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2576458/Picture1.png?w=575&ar=16:9)
Ychwanegodd Dywedodd yr Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: “Roedd y digwyddiad ar-lein yn wir yn arddangos natur gydweithredol y Ganolfan, gyda negeseuon fideo gwych gan ein cyllidwyr yn Sefydliad Wolfson, cydweithwyr gwyddonol rhyngwladol ac wrth gwrs, pobl ifanc eu hunain.
“Roedd yn fraint wirioneddol gwrando ar y ddau Gynrychiolydd Ieuenctid ar ein Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu, Mair a George, yn siarad mor glir ac angerddol am gynnwys pobl ifanc mewn ymchwil, beth mae iechyd meddwl yn ei olygu iddyn nhw a pham bydd ein gwaith yma yng Nghanolfan Wolfson mor bwysig ym maes iechyd meddwl ieuenctid. Rydym hefyd yn falch bod George yn mynd i arwain trafodaeth gyda’n grwpiau cynghori pobl ifanc ar stigma a iechyd meddwl fis nesaf.”
Daeth yr Athro Frances Rice i’r casgliad: “Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y gweminar ac i’n holl gyfranwyr am eu geiriau caredig a’u cefnogaeth barhaus. Rydym yn edrych ymlaen at dyfu a datblygu ein gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystod y misoedd nesaf.”
Mae recordiad o’r gweminar llawn ar gael i’w weld ar-lein yma. Hefyd gallwch ddod o hyd i ddarlith gyhoeddus yr Athro Anita Thapar a Siarad am Iechyd Meddwl:sgwrsio gyda phobl ifanc ar sianel YouTube Canolfan Wolfson.
- Chwefror 2025
- Tachwedd 2024
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Gorffennaf 2024
- Mawrth 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Ebrill 2023
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Chwefror 2021