‘Glud anweledig’: Cipolwg ar ein profiad cyntaf gyda Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson
6 Awst 2026
Yn y blog hwn, mae Sarah a Sophie, myfyrwyr ar leoliad o astudiaeth flaenllaw Canolfan Wolfson ar Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL), yn myfyrio ar ddigwyddiad aethon nhw iddo gyda Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG) Canolfan Wolfson.
Ar 18 Ebrill, cawson ni gyfle i fynd i ddigwyddiad dathlu Grŵp Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson, rhywbeth roedden ni wedi bod yn edrych ymlaen ato ers clywed amdano ar ddechrau ein lleoliad gwaith.
Cyn hyn, roedd ein dealltwriaeth o gynnwys y cyhoedd yn weddol sylfaenol: cyfranogiad gweithredol y cyhoedd yn y broses ymchwil. Yng Nghanolfan Wolfson, mae hyn ar ffurf y Grŵp Cynghori Ieuenctid – sef grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad byw o anawsterau iechyd meddwl sy’n cynghori ar ymchwil; o lunio terminoleg i arwain nodau ymchwil. Er ein bod yn deall ei bwysigrwydd mewn theori, drwy ein profiad uniongyrchol â’r Grŵp Cynghori daeth y peth yn hollol fyw i ni.
Y disgwyliadau a’r realiti
Wrth fynd i’r sesiwn, doedden ni ddim yn hollol siŵr beth i’w ddisgwyl. Cyn hynny, roedden ni wedi cael cyflwyniad byr i’r Grŵp Cynghori Ieuenctid yn ystod yr hyfforddiant ac roedden ni wedi clywed am sesiwn yn trafod iaith ynghylch y risg o ddatblygu iselder. Serch hynny, doedd gan yr un ohonon ni ddim profiad cynnwys y cyhoedd blaenorol, felly roedd y sesiwn gyntaf hon yn mynd i fod yn brofiad newydd i’r ddwy ohonon ni.
Roedden ni wedi dychmygu rhywbeth eithaf ffurfiol – gyda chanllawiau pwnc clir a chwestiynau gosod. Wrth edrych yn ôl efallai bod y disgwyliad hwn braidd yn naïf, wedi’i seilio ar ein profiad yn y lleoliad gwaith lle rydyn ni’n cynnal cyfweliadau strwythuredig gyda theuluoedd gan ddilyn cwestiynau penodol. Roedden ni hefyd yn cymryd yn ganiataol y gallai’r grŵp fod yn dawel ac yn nerfus i rannu/siarad. Oherwydd ein profiad yn cyd-hwyluso grwpiau CBT i bobl ifanc ar leoliad, mae ystod o amrywiaeth yn y graddau mae pobl ifanc yn cyfrannu, gyda rhai yn dewis diffodd eu camera. Roedd realiti Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson mor wahanol a all fod.
Deinamig grŵp unigryw

Un o’r pethau cyntaf wnaeth ein taro oedd deinamig neilltuol y grŵp. Mae’n anodd cyfleu mewn geiriau mor gydlynus oedd y grŵp. Roedd yr aelodau’n dangos caredigrwydd a pharch mawr tuag at ei gilydd, gan roi lle i’w gilydd flodeuo. Hefyd, roedd y Grŵp fel petaen nhw’n gwthio ei gilydd i ddatblygu eu bywydau a’u gyrfaoedd trwy annog a dathlu ei gilydd a’u cyflawniadau. Roedd y rhythm naturiol yn y ffordd roedd y grŵp yn rhyngweithio yn amlwg – bron fel petai ‘glud anweledig’ yn eu dal at ei gilydd. Aeth y grŵp ymlaen i nodi eu gwerthoedd craidd, gan gynnwys caredigrwydd, chwilfrydedd a gwaith tîm, ac roedd yn amlwg bod y rhain yn cael eu gwehyddu i bob sgwrs. Roedd hefyd yn amlwg bod y bobl ifanc yn teimlo eu bod wir yn cael eu gwerthfawrogi gan yr ymchwilwyr. Roedd yn hyfryd gweld eu bod nhw’n gwybod bod eu cyfraniadau’n cael eu hymgorffori yn yr ymchwil ac roedd yn ymddangos bod yr ymdeimlad hwn o gael eu cymryd o ddifrif yn sail i rywfaint o’r hyder a welwyd yn yr ystafell. At hynny, drwy dalu’r Grŵp am eu hamser, mae’n symbolaidd o’r modd y mae canolfan Wolfson yn dangos gwerthfawrogiad dwfn o brofiad byw wrth siapio ymchwil.
Herio camsyniadau
Un o’r camsyniadau ynghylch cynnwys y cyhoedd yw mai ychwanegiad sy’n braf i’w gael yw e, neu rywbeth sy’n ticio bocs. Roedd yr hyn welon ni yn dangos yn glir ei fod yn llawer mwy na hynny. Mae’n hanfodol. Mae pobl ifanc yn cynnig safbwyntiau unigryw na all neb arall eu darparu. Mae bywyd yn newid yn gyflym ar hyn o bryd, felly mae profiadau pobl ifanc yn newid yn gyson a gallent fod yn wahanol iawn i’r hyn fyddai’r ymchwilwyr wedi’i brofi. Er enghraifft, bu’r Grŵp yn trafod y chwyldro digidol, nid yn unig ei effeithiau ar bobl ifanc ond hefyd y modd y gallan nhw helpu ymchwilwyr i’w gynnwys yn eu gwaith.
Beth wnaeth ein synnu
Er ein bod yn disgwyl y byddai’r grŵp yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ymchwil, doedden ni heb ragweld dyfnder yr effaith y byddai’r grŵp yn ei chael ar y bobl ifanc eu hunain. Siaradodd nifer o aelodau am sut roedd bod yn rhan o’r Grŵp wedi siapio eu hunaniaeth mewn ffordd gadarnhaol, gan helpu i newid eu barn ar salwch meddwl. Disgrifiodd rhai nad oedden nhw bellach yn teimlo fel nad oedden nhw’n perthyn, a oedd yn wirioneddol bwerus i’w glywed. Soniodd eraill fod y Grŵp wedi hwyluso gwell sgyrsiau am iechyd meddwl yn eu teuluoedd, sgyrsiau nad oedden nhw’n teimlo y gallen nhw eu cael o’r blaen. Roedd hi’n amlwg hefyd mai dim ond ciplun o’r Grŵp welon ni, a bod hyder y bobl ifanc hyn dros y blynyddoedd wedi tyfu a thyfu – gyda diolch mawr i’r grŵp am hynny.
Un rhagdybiaeth arall hefyd yw mai unig nod Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson yw llywio a chydgynhyrchu ymchwil. Roedd yn anhygoel gweld Emma – Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd Wolfson – yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod y grŵp yn fuddiol i’w aelodau hefyd. Er enghraifft, mae Canolfan Wolfson yn darparu cyfleoedd gyrfa anhygoel i’r grŵp, gan gynnwys cyfleoedd siarad cyhoeddus a theithiau i ddigwyddiadau yng Nghaeredin! At hynny, trafododd y Grŵp y ffaith fod Emma wedi gwneud iddyn nhw deimlo mor gyfforddus yn y grŵp, ac mai hi yw un o’r prif resymau mae eu deinamig yn gweithio mor dda. Hefyd, dywedodd y rhai a oedd mewn Grwpiau Cynghori Ieuenctid eraill fod Grŵp Wolfson yn unigryw, a bod y ffaith bod Emma yn creu lle diogel ac amgylchedd cyfforddus yn dylanwadu’n fawr ar hyn.
Un peth arbennig o ddiddorol oedd mor ofalus mae’r grŵp yn trafod iaith. Roedd y sgyrsiau’n mynd y tu hwnt i ddewisiadau geiriau syml, gan archwilio’r gwahaniaeth rhwng termau fel “penderfynol”, “chwilfrydig” a “meddwl agored”. Amlygodd hyn mor arwyddocaol gallai gwahanol iaith fod wrth drafod iechyd meddwl pobl ifanc – a pha mor gynnil mae angen i’r trafodaethau hyn fod. Amlygwyd hefyd fod y Grŵp yn fwy nag ychwanegiad ‘neis’, ond ei fod yn hanfodol er mwyn llywio’r modd gorau o weithredu ymchwil mewn ymarfer.
Yr hyn ddysgon ni
Fe ddysgon ni lawer trwy’r profiad hwn, a llwyddodd i ail-siapio ein barn am gynnwys y cyhoedd ac atgyfnerthu angerdd i weithio yn y maes yn y dyfodol. Y prif wersi ddysgon ni oedd:
- Mae cynnwys y cyhoedd yn rhywbeth hanfodol, nid dewisol. Mae’n gwella ansawdd a pherthnasedd ymchwil.
- Mae iaith yn hynod bwysig. Gall y ffordd rydyn ni’n siarad am iechyd meddwl siapio sut mae pobl yn ei ddeall a’i brofi.
- Mae’r effaith yn ddeublyg. Er bod yr ymchwil yn elwa, mae’r bobl ifanc yn elwa hefyd – gyda mwy o hyder, cysylltiad ac ymdeimlad cryfach o hunaniaeth gadarnhaol.
Safbwynt gwahanol
Yn ein lleoliad gwaith, rydyn ni’n aml yn siarad â phobl ifanc sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl ar y pryd. Er bod y gwaith hwn yn hynod bwysig, weithiau gall deimlo’n drwm. Roedd arsylwi ar Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson yn wahanol. Roedd yn codi calon. Roedd yn dangos i ni beth all ddigwydd pan mae pobl ifanc yn fwy na chyfranogwyr i ymchwil, ond yn gydweithwyr gweithredol. Mae’r grŵp yn creu gofod lle nad yw profiad byw yn rhywbeth negyddol, ond yn hytrach mae’n cael ei werthfawrogi – a lle gellid trawsnewid y profiad yn rhywbeth ystyrlon ac effeithiol.
Bywgraffiadau’r awduron:
Sarah – Fy enw i yw Sarah ac rydw i ar leoliad gyda’r Astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL) ar hyn o bryd. Mae fy niddordebau wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn iechyd meddwl pobl ifanc, hyrwyddo lles a lleihau anghydraddoldebau.
Sophie – Fy enw i yw Sophie ac rwy’n fyfyriwr ar leoliad ar yr astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc yng Nghanolfan Wolfson. Mae gen i ddiddordeb mewn Seicoleg Glinigol, yn enwedig mewn anhwylderau fel sgitsoffrenia a seicosis.
Diolch i Sarah a Sophie am ysgrifennu’r darn hwn.
- Awst 2026
- Mai 2026
- Mawrth 2026
- Hydref 2025
- Awst 2025
- Mai 2025
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Tachwedd 2024
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Gorffennaf 2024
- Mawrth 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Ebrill 2023
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Chwefror 2021