Skip to main content

NewyddionYmgyrchoedd

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ♀️

8 Mawrth 2022
a diverse group of women of mixed ages stand in a group laughing

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, diwrnod byd-eang i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ledled y byd.

Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn ffodus o gael tîm amrywiol a chynhwysol o fenywod gwych yn gweithio ar draws y ganolfan ymchwil.

Eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, roeddem am dynnu sylw at rai o’r menywod gwych sydd wedi’u lleoli yma yng Nghanolfan Wolfson ac amlygu sut mae menywod yn cefnogi’r Ganolfan i ffynnu.

Arbenigwyr sy’n arwain y byd

Arweinir pedwar o chwe ffrwd gwaith ymchwil Canolfan Wolfson gan academyddion benyw sy’n arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Yr Athro Frances Riceyw cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar astudio tarddiad a datblygiad iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc. Yn ogystal â bod yn Brif Ymchwilydd i’r ganolfan ymchwil, mae Frances hefyd yn arwain ffrwd waith y ganolfan sy’n ceisio datblygu ymyriadau i gefnogi pobl ifanc y mae eu rhiant yn dioddef o iselder.

🎥 Gwyliwch sgwrs gyhoeddus ddiweddaraf Frances ar ymyriadau sy’n gweithio’n dda i bobl ifanc mewn lleoliadau ysgol.

 

Mae’r Athro Anita Thapar yn glinigydd-gwyddonol uchel ei pharch sy’n arwain ffrwd gwaith ymchwil geneteg Canolfan Wolfson. Mae Anita hefyd yn bennaeth ar yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc academaidd yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ymchwil Anita yn canolbwyntio ar iselder yn y glasoed, anhwylder gorfywiogrwydd sylw (ADHD) ac anhwylderau niwroddatblygiadol ychwanegol (e.e. anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth) o 0 i 25 oed, gan fynd i’r afael â chwestiynau sydd â pherthnasedd clinigol.

👀 Daliwch i fyny â darlith gyhoeddus Anita yn ystod lansiad rhithwir Canolfan Wolfson lle’r oedd yn brif siaradwr.

 

Mae’r Athro Ann John yn gweithio ar ffrwd gwaith ymchwil carfan e-ddata poblogaeth a chleifion Canolfan Wolfson. Mae tîm ymchwil Ann, sy’n rhan o Brifysgol Abertawe, yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy’n cael profiad o orbryder ac iselder.

Mae Ann, cyn feddyg teulu a hyfforddwyd ym maes iechyd y cyhoedd, yn Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae’n Brif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr ar DATAMIND, y Ganolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

🎬 Gwyliwch araith allweddol Ann gydag MQ Mental Health Research, sy’n canolbwyntio ar grwpiau heb wasanaeth na chynrychiolaeth digonol mewn gwyddor data iechyd meddwl.

 

Cefnogi ymchwilwyr

Mae academyddion benyw, ymchwilwyr a chlinigwyr wedi’u gwreiddio ar draws y ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol, un o gryfderau allweddol Canolfan Wolfson. Mae cefnogi datblygiad ymchwilwyr ar wahanol lefelau o’u gyrfaoedd yn hanfodol bwysig.

Mae’r cynnwys gwreiddiol isod, a grëwyd mewn partneriaeth â’r academyddion benyw sy’n ymddangos ynddo, yn arddangos rhai yn unig o’r menywod ysbrydoledig y mae Canolfan Wolfson yn ddigon ffodus i’w cefnogi a helpu i’w datblygu.

Mae Dr Yulia Shenderovich a Dr Lucy Riglin yn cyd-arwain ffrwd waith drosfwaol y Ganolfan sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod ein timau wedi’u hyfforddi’n dda mewn dulliau ymchwil ac arferion gwyddoniaeth agored.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae Yulia a Lucy hefyd yn sefydlu cyfres ddarlithoedd cyhoeddus Canolfan Wolfson ei hun a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill eleni- bydd mwy o fanylion am y gyfres yn dod yn fuan iawn!

Cafodd Yulia ei chynnwys yn ddiweddar mewn blog Cwrdd â’r Ymchwilydd lle gallwch ddysgu mwy am ei diddordebau ymchwil.

Mae ein cyfres fideo Learn in 5 hefyd wedi cynnwys cymdeithion ymchwilwyr yng Nghanolfan Wolfson ac unwaith eto mae’n cynnig cyfle i dynnu sylw at y gwaith y mae ymchwilwyr benywaidd yn ei wneud yn eu priod feysydd. Nod Learn in 5 yw cyflwyno canfyddiadau allweddol o faes ymchwil neu astudiaethau iechyd meddwl ieuenctid mewn llai na phum munud

Wolfson Centre Learn in 5 video

 

Gweithio y tu ôl i’r llenni

Mae angen tîm cymorth cryf sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni ar ganolfan ymchwil o faint ac ehangder Canolfan Wolfson, i gefnogi’r gweithgaredd pellgyrhaeddol sy’n digwydd.

Cefnogir y Ganolfan gan waith tîm Gwasanaethau Proffesiynol sydd i gyd yn fenywod.

Angharad Jones yw Rheolwr y Ganolfan, Emma Meilak yw’r Swyddog Gweinyddol ac rwyf i, Becs, yn lledaenu a hyrwyddo ymchwil Canolfan Wolfson yn fy rôl fel Swyddog Cyfathrebu.

Mae’r tri ohonom yn cefnogi’r gwaith o redeg Canolfan Wolfson o ddydd i ddydd, gan gefnogi, trefnu, cynllunio, hwyluso a hyrwyddo canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol newydd, brysur.

A graphic showing the Wolfson Professional Services team

 

Lleisiau ieuenctid

Rhan annatod o ethos Canolfan Wolfson yw sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolog i’r gwaith a wnawn.

Ers cyfarfod cyntaf ein Grwpiau Cynghori Ieuenctid ym mis Medi 2021, rydym wedi cael y pleser o weithio’n agos gyda phobl ifanc eu hunain sy’n llywio ac yn cyfeirio nodau a blaenoriaethau ymchwil y Ganolfan.

Mae grymuso pobl ifanc, yn enwedig menywod ifanc, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn bwysig iawn i ni. Rydym wrth ein bodd gyda’r ffordd y mae ein Cynghorwyr Ieuenctid wedi dod â’u hangerdd, eu creadigrwydd a’u gonestrwydd wrth rannu eu profiadau bywyd a’u meddyliau gyda ni.

Gellir gweld eu gwaith gwych yn glir yn y gwaith rydym wedi’i greu gyda’n gilydd, yn fwyaf diweddar ar gyfer Wythnos Iechyd Meddwl Plant.

Rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio â’r bobl ifanc dros y misoedd nesaf.

 

Gobeithio cewch chi Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gwych, sut bynnag rydych chi’n dathlu a gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen am y menywod gwych sy’n gweithio yng Nghanolfan Wolfson.