Skip to main content

Lleisiau IeuenctidNewyddion

Cyfarfodydd grwpiau cynghori ieuenctid yn cychwyn

25 Hydref 2021

Mae’r ddau Grŵp Cynghori Ieuenctid newydd wedi dechrau cyfarfod ar-lein yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson.

Mae’r grwpiau’n cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd â phrofiad o fyw gydag iechyd meddwl, sydd wedi gwirfoddoli i gynorthwyo, arwain a gwerthuso’r ymchwil iechyd meddwl ieuenctid a gynhelir yng Nghanolfan Wolfson.

Dywedodd Emma Meilak o Ganolfan Wolfson, hwylusydd y grŵp: “Ym mis Medi cynhaliwyd ein cyfarfodydd rhithwir cyntaf o’r Grŵp Cynghori Ieuenctid ac rydym ni wrth ein bodd gyda’r sesiynau hyd yn hyn.

“Mae ein grwpiau wedi’u rhannu’n ddau, gyda grŵp iau yn cynnwys rhai rhwng 14 a 18 oed a’r ail grŵp yn cynnwys pobl ifanc hŷn rhwng 19 a 25. Rydyn ni mor ddiolchgar i holl aelodau’r grŵp am eu brwdfrydedd a’u cyfraniadau hyd yma.”

Roedd y cyfarfod cyntaf yn gyfle i gyflwyno’r bobl ifanc i’r Ganolfan a chroesawu aelodau’r grŵp, gan alluogi’r grwpiau i ddod i adnabod ei gilydd a thîm y Ganolfan, yn ogystal â gosod rheolau sylfaenol ar gyfer y sesiynau o’r dechrau. Roedd sesiwn mis Hydref yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc ar iechyd y cyhoedd a dulliau ymchwil ac yn eu cyflwyno i’w darn cyntaf o ymchwil Wolfson i’w ddadansoddi: pecyn cymorth iechyd meddwl i ysgolion, a gynlluniwyd gan Dr Olga Eyre.

Yn dilyn y sesiwn, dywedodd un o’r Cynghorwyr Ieuenctid newydd: “Rwyf i wir eisiau rhannu fy mhrofiadau er mwyn gwella ymchwil ac ansawdd y gofal y gall lleoedd ei ddarparu. Rwy’n angerddol iawn am y peth ac mae gen i ddiddordeb yn y ffordd mae ymchwil iechyd meddwl yn gweithio mewn bywyd go iawn ar ôl ei astudio fel rhan o fy ngradd.”

Motivation for joining Wolfson YAG quote from Young Person

Gorffennodd Emma trwy ddweud: “Mae pawb yn llawn cyffro i weld sut y bydd ein grwpiau cynghori ieuenctid yn tyfu ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae cyd-gynhyrchu a chydweithio wrth wraidd yr hyn rydyn ni am ei wneud yma yng Nghanolfan Wolfson a bydd ein grwpiau cynghori yn sicrhau ein bod yn cynnwys lleisiau a phrofiadau pobl ifanc ar bob cam o’n hymchwil.”

Mae Grwpiau Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson yn cyfarfod ar-lein bob mis. Caiff cyfleoedd i ymuno â’r grwpiau cynghori eu hysbysebu ar ddechrau pob tymor ar wefan y Ganolfan ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Cynghori Ieuenctid neu fynegi diddordeb mewn ymuno, anfonwch ebost i wolfsonyoungpeople@caerdydd.ac.uk