Skip to main content

Cwrdd â'r ymchwilydd

Cwrdd â’r ymchwilydd: Dr Yulia Shenderovich

3 Rhagfyr 2021
Text book and note book lay open on a desk

Mae ymchwilydd wedi ymuno â Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc fel Uwch Ddarlithydd, ac mae’n cyd-arwain cynlluniau i gefnogi ansawdd ymchwil feintiol a gwyddoniaeth agored ar draws y Ganolfan.

Ymunodd Dr Yulia Shenderovich â Chanolfan Wolfson yng ngwanwyn 2021 ac mae’n gweithio yn y ffrwd waith ymchwil ysgolion sydd ar y gweill yn y Ganolfan, mewn partneriaeth â DECIPHer yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Cwblhaodd Yulia ei PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 2018 ac mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys rhaglenni a pholisïau sy’n gallu hyrwyddo iechyd meddwl ieuenctid ac atal trais sy’n effeithio ar bobl ifanc ac, yn fwy cyffredinol, y ffactorau sy’n helpu pobl ifanc i ffynnu.

Meddai Dr Shenderovich: “Rydw i wedi mwynhau fy misoedd cyntaf yng Nghanolfan Wolfson, ac yn ddiweddar symudais i Gaerdydd ar ôl byw yn Rhydychen.

“Roedd fy ymchwil flaenorol yn canolbwyntio ar leihau ac atal trais sy’n effeithio ar bobl ifanc. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sut mae rhaglenni a pholisïau’n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol a sut i’w cynnal ar raddfa fwy.

“Bydd fy ngwaith yng Nghanolfan Wolfson yn canolbwyntio ar ymchwilio i sut mae ysgolion yn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc a sut y gall rhaglenni a pholisïau roi hwb i’r cymorth hwnnw. Byddaf hefyd yn hwyluso’r dysgu meintiol ac ystadegol yn y Ganolfan: gan gynllunio ffyrdd y gallwn gefnogi ansawdd ymchwil feintiol a gwyddoniaeth agored yng Nghanolfan Wolfson, ar y cyd â Dr. Lucy Riglin.”

http://https://youtu.be/90YEd3n_EPM

Ychwanegodd Dr Shenderovich: “Roedd gen i ddiddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl oherwydd rwy’n gwybod o brofiad personol a phroffesiynol fod iechyd meddwl da yn bwysig i’n hansawdd bywyd. Dechreuais weithio ym maes ymchwil iechyd meddwl ar ôl gweithio ar werthusiadau o raglenni ym meysydd polisi cymdeithasol, addysg a throseddeg.

“Rwy’n credu bod y stigma sy’n gysylltiedig â thrafod iechyd meddwl wedi bod yn lleihau mewn llawer o lefydd, sy’n ddatblygiad gwych, ond mae llawer i’w wneud o hyd.

“Mae gennym ddealltwriaeth gynyddol bod iechyd meddwl yn gysylltiedig â llawer o ffactorau teuluol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, ac yn aml rydym yn eu mesur ar lefel yr unigolyn. Yn fy marn i, mae’n gallu bod anodd ymgorffori safbwynt amlddisgyblaethol ac aml-ddimensiwn i ffyrdd traddodiadol o wneud ymchwil, er bod y maes yn gwneud cynnydd yn hynny o beth – ac mae Canolfan Wolfson yn enghraifft o ddull rhyngddisgyblaethol.”

“Gall ymchwil ar iechyd meddwl pobl ifanc roi gwybodaeth i ni am sut i helpu pobl ifanc i fod yn iach, ond hefyd gall roi sylfaen dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

I gloi, nododd Dr Shenderovich: “Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Canolfan Wolfson i wella canlyniadau iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn gryn her i bawb, ac efallai’n arbennig o heriol i bobl ifanc. Mae’r gwaith rydyn ni’n ceisio ei wneud yma yn y Ganolfan, mewn cydweithrediad â phobl ifanc eu hunain, llunwyr polisïau, ysgolion, y GIG, sefydliadau’r trydydd sector, a phartneriaid eraill, yn amserol ac yn angenrheidiol.”

Gallwch wylio Dr Shenderovich yn siarad am raglenni atal trais mewn darlith fer ddiweddar, sydd ar gael yma.

 

Yulia Shenderovich

Dr Yulia Shenderovich - People - Cardiff University

shenderovichy@cardiff.ac.uk