Skip to main content

DigwyddiadauFfrwdIechyd meddwl a llesYmchwil

Chwalu saith camsyniad cyffredin am ADHD

23 Hydref 2025

Yn y blog hwn mae Dr Sharifah Syed Salim Agha, darlithiwr yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc ac ymchwilydd yng Nghanolfan Wolfsonlin ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, yn ceisio chwalu rhai camsyniadau cyffredin am ADHD sydd i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol.

Gadewch i ni ystyried y ffeithiau

Mwy na thebyg rydych chi wedi clywed am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), yn enwedig gan ei fod wedi dod i’r amlwg yn fwy dros y blynyddoedd diwethaf. Cyflwr niwroddatblygiadol yw ADHD sy’n cynnwys anawsterau rhoi sylw, gorfywiogrwydd ac ymddygiad byrbwyll.

Mae ADHD yn gyffredin, gan effeithio ar 3-5% o bobl. Er gwaethaf hyn, mae llawer o gamsyniadau amdano sy’n cyfrannu at stigma ac yn ei gwneud yn anoddach i’r rhai ag ADHD gael y cymorth mae ei angen arnynt.

Fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth o ADHD y mis Hydref hwn, gadewch i ni ystyried y camsyniadau mwyaf cyffredin a’r hyn mae’r ymchwil yn ei ddweud mewn gwirionedd.

1. Mae pawb yn meddwl bod ganddyn nhw ADHD nawr, dim ond tuedd yw hi

Nid tuedd yw ADHD. Efallai bod y cynnydd yn swm y cynnwys am ADHD ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain i fwy o bobl yn ceisio asesiadau, ond nid yw ymchwil yn cefnogi’r syniad bod gormod o bobl yn cael diagnosis ADHD.

Er bod mwy o bobl yn cael y diagnosis hwn, mae’r nifer yn dal yn is na nifer amcangyfrifedig y bobl yn y DU y mae’n debygol bod ganddynt ADHD. Mae’r cynnydd yn nifer y diagnosisau yn adlewyrchu gwell ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r cyflwr, nid gorddiagnosio.

Mae mwy o ymwybyddiaeth yn helpu i leihau stigma ac yn annog pobl i geisio cymorth. Fodd bynnag, mae ADHD yn gyflwr cymhleth nad oes modd ei esbonio’n llawn mewn postiadau neu fideos byr ar gyfryngau cymdeithasol. Dim ond ymarferwyr proffesiynol cymwys sy’n gallu gwneud diagnosis ffurfiol, ac mae llawer o ffynonellau gwybodaeth dibynadwy ar gael (gweler y dolenni isod).

2. Does dim modd bod gennych ADHD a gorbryder neu iselder

Oes, mae modd. Yn wir, mae pobl ag ADHD yn fwy tebygol o brofi gorbryder neu iselder – mae’r rhain yn cael eu galw’n gyflyrau sy’n cyd-ddigwydd. Mae cyfradd y cyflyrau hyn sy’n cyd-ddigwydd yn amrywio fesul oedran.

Mae’r cyflyrau ychwanegol hyn yn gallu effeithio ar ba symptomau ADHD sydd gan rywun a sut mae’n effeithio ar fywyd rhywun. Mae adnabod ac ymateb i gyflyrau sy’n cyd-ddigwydd yn bwysig er mwyn sicrhau triniaeth a chymorth effeithiol.

3. Meddyginiaeth yw’r unig ffordd o reoli ADHD.

Nage, nid yw diagnosis ADHD o anghenraid yn golygu y byddwch yn cael presgripsiwn am feddyginiaeth. Ar ôl diagnosis, byddwch chi a’ch meddyg arbenigol yn trafod opsiynau triniaeth ar sail eich anghenion.

Yn y DU, mae canllawiau’n argymell dull cynhwysfawr o gefnogi plant ag ADHD. Mae hyn yn cynnwys addysg a gwybodaeth am ADHD, gwneud yr amgylchedd (e.e. yn y cartref a’r ysgol) yn dda i bobl ag ADHD a rhoi cyngor ar strategaethau rhianta.

Bydd meddyginiaeth yn cael ei defnyddio pan fo symptomau ADHD yn ddifrifol ac yn achosi anawsterau mawr.

4. Mae pobl ag ADHD bob amser yn orfywiog neu’n tarfu.

Nid yw pob person ag ADHD yn orfywiog. Mae gan ADHD dri phrif symptom.

  • Diffyg canolbwyntio yn bennaf – anawsterau o ran sylw, trefniadaeth a chwblhau tasgau yn bennaf.
  • Gorfywiogrwydd-byrbwylledd yn bennaf –yn aflonydd ac yn fyrbwyll yn bennaf.
  • Symptomau Cyfunol – cymysgedd o’r ddau fath o symptomau.

Mae ADHD yn gallu amrywio’n fawr o berson i berson a hyd yn oed ar wahanol adegau bywyd. Mae’r amrywiadau hyn mewn symptomau, heriau a phrofiadau yn gallu ei gwneud hyd yn oed yn anoddach ei adnabod.


5. Bydd ADHD yn diflannu ar ôl i chi ddod yn oedolyn neu dim ond plant sy’n gallu cael diagnosis

Nid yw hyn yn wir, ni fydd ADHD yn diflannu ar ôl dod yn oedolyn. Efallai y bydd rhai nodweddion craidd, megis gorfywiogrwydd, yn lleihau wrth heneiddio,ond yn aml bydd symptomau eraill megis diffyg canolbwyntio yn parhau.

Mae hynt ADHD yn amrywiol iawn. Er bydd symptomau ADHD yn dod i ben i rai unigolion pan fyddan nhw’n oedolion, bydd llawer o bobl yn parhau i brofi ADHD. Er gwaethaf hyn, mae rhai unigolion yn dod o hyd i ffyrdd i ddygymod â’u hanawsterau ac yn manteisio ar eu cryfderau.

Mae rhywun yn gallu cael diagnosis ADHD ar unrhyw oedran, ond fel arfer mae’r symptomau’n dechrau yn ystod plentyndod.  Er bod llawer o bobl yn cael diagnosis ADHD pan maen nhw’n blant, nid yw rhai’n cael gwybod bod ganddyn nhw ADHD nes eu bod yn oedolion oherwydd na sylwyd ar eu symptomau neu na chawsant eu hadnabod pan oedden nhw’n iau.


6. Mae ADHD yn cael ei achosi gan fwyd sothach, gormod o wylio’r sgrîn neu rianta gwael.

Does dim tystiolaeth gadarn bod bwyd sothach, amser yn gwylio’r sgrîn neu ddulliau rhianta yn achosi ADHD.

Yn yr un modd, ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod newidiadau deietegol yn gallu gwella symptomau ADHD yn sylweddol.

Nid yw ADHD yn cael ei achosi gan rianta gwael neu ddiffyg disgyblu. Mae magu plentyn ag ADHD yn gallu bod yn heriol, ond mae strategaethau rhianta strwythuredig, megis trefnau cyson, disgwyliadau clir ac atgyfnerthu cadarnhaol, yn gallu helpu.

7. Mae ADHD yn cael ei achosi gan un genyn

Mae cydran gref i ADHD ond nid yw’n cael ei achosi gan un genyn unigol. Yn hytrach, mae llawer o enynnau’n chwarae rhan fach yr un, ynghyd â ffactorau amgylcheddol.

Mae ymchwilwyr yn parhau i archwilio sut mae’r ffactorau hyn yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ddatblygiad ADHD.

Pa gamsyniadau hoffech chi i ni eu chwalu nesaf? Rhowch wybod i ni yn sylwadau ein postiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cymryd rhan yn ein hymchwil

Rydyn ni wedi lansio astudiaeth newydd gyda’r nod o helpu ymchwilwyr i gael gwell dealltwriaeth o allu canolbwyntio, ymddygiad ac emosiynau plant.

Ewch i’n gwefan i gymryd rhan heddiw.

Hoffech ddysgu rhagor am ADHD?