Skip to main content

FfrwdYmchwil

Archwilio profiadau pobl ifanc ag ADHD

17 Hydref 2025

Archwilio profiadau pobl ifanc ag ADHD

Yn y blog hwn, mae Tamara Williams, Cynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson, yn sôn am astudiaeth ddiweddar sy’n archwilio sut y gall anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) edrych yn wahanol mewn merched a menywod ifanc. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar glywed yn uniongyrchol gan oedolion ifanc â phrofiad byw o ADHD.

Gwella diagnosis o ADHD

Caiff mwy o fechgyn ddiagnosis o ADHD na merched. Pan fydd merched yn cael diagnosis o ADHD, mae’n aml yn hwyrach na bechgyn.

Mae gwaith ymchwil blaenorol, gan gynnwys un arall   hastudiaethau diweddar, wedi awgrymu y gallai diagnosis ADHD gael ei ohirio mewn merched o’i gymharu â bechgyn. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd bod ADHD yn edrych yn wahanol mewn merched a menywod a bechgyn a dynion. Datblygwyd y meini prawf y mae meddygon yn eu defnyddio i wneud diagnosis o ADHD yn wreiddiol yn seiliedig ar astudiaethau o fechgyn ifanc yn bennaf. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach adnabod ADHD mewn merched a menywod, gan arwain at oedi cyn cael diagnosis.

Cam pwysig tuag at wella amseroldeb diagnosis yw cael gwell dealltwriaeth o sut olwg sydd ar ADHD ymhlith merched ifanc. Gall hyn helpu i nodi unrhyw anawsterau posibl sy’n gysylltiedig ag ADHD nad ydynt yn cael eu cynnwys yn llawn gan y meini prawf diagnostig. Mae angen astudiaethau ansoddol i archwilio’n fanwl brofiad bywyd menywod ifanc ag ADHD. Fodd bynnag, ychydig iawn o astudiaethau ansoddol sydd wedi archwilio ADHD o safbwynt merched a menywod.

Yr hyn a ganfuwyd gan ein hastudiaeth

Mewn papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar  , gwnaethom archwilio sut roedd symptomau ADHD yn ymddangos mewn merched ifanc yn ystod plentyndod, gan fynd y tu hwnt i’r meini prawf diagnostig, a chynnwys unigolion amrywiol o ran rhywedd. Gwnaethom gyfweld â 12 oedolyn ifanc rhwng 18 a 25 oed (deg o fenywod a dau unigolyn anneuaidd, pob un wedi’i aseinio’n fenywod adeg eu geni) am eu profiadau o dyfu i fyny ag ADHD.

Gwelsom fod cyfranogwyr wedi disgrifio llawer o symptomau sy’n cyd-fynd â’r meini prawf diagnostig safonol, ond gwnaethant hefyd rannu profiadau nad ydynt yn cael eu cydnabod yn y meini prawf hynny ar hyn o bryd. O’r cyfweliadau hyn, gwnaethom nodi pedwar prif thema:

  1. Symptomau mewnoledig ac sy’n canolbwyntio ar y gymdeithas – disgrifiodd y thema hon y gall symptomau ADHD mewn merched ymddangos yn gymdeithasol (fel colli trywydd meddyliau yn ystod sgwrs), peidio â tharfu ar eraill (fel dwdlan yn ystod gwersi ysgol), a bod yn fewnoledig (fel teimladau mewnol o rwystredigaeth).
  2. Effeithiau cymdeithasol – roedd y thema hon yn tynnu sylw at y ffaith bod symptomau ADHD mewn merched yn aml yn cael effaith negyddol ar eu perthnasoedd â ffrindiau, aelodau o’r teulu ac athrawon.
  3. Cuddio a digolledu – disgrifiodd y thema hon y gallai merched ag ADHD ddefnyddio gwahanol ymddygiadau neu strategaethau i guddio neu atal eu symptomau ADHD. Y cymhelliant dros hyn yn aml oedd ceisio ffitio i mewn gydag eraill. Fodd bynnag, disgrifiodd cyfranogwyr hefyd y gallai masgio gael canlyniadau negyddol, fel gorludded.
  4. Pwysigrwydd cyd-destun – tynnodd y cyfranogwyr sylw at y ffaith y gall symptomau ADHD amrywio ar draws gwahanol amgylcheddau, fel y cartref a’r ysgol. Roedd symptomau’n dibynnu ar ba mor ddiogel a chefnogol yr oeddent yn teimlo, faint yr oeddent yn mwynhau rhywbeth, a pha mor swnllyd neu brysur oedd yr amgylchedd.

At ei gilydd, mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gall cyflwyniad symptomau ADHD mewn merched fod yn llai gweladwy, yn fwy mewnol, ac wedi’i ddylanwadu’n gryf gan gyd-destun cymdeithasol. Dylai gwaith ymchwil yn y dyfodol ystyried a ddylid addasu asesiadau ADHD presennol i ystyried y ffactorau hyn. Gallai hyn gynorthwyo’r gwaith o gydnabod a rhoi diagnosis cynharach o ADHD mewn plant a phobl ifanc, yn enwedig mewn merched.

Y camau nesaf

Gan adeiladu ar yr astudiaeth hon ac fel rhan o brosiect ymchwil mwy, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r tîm ymchwil dan arweiniad Dr Joanna Martin ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu adnodd asesu ADHD newydd sy’n gynhwysol o ran rhywedd. Gelwir yr adnodd newydd hwn yn Raddfa Rheoleiddio Ymddygiad, Emosiwn a Sylw (Behaviour, Emotion & Attention Regulation Scale – BEARS) ac mae hefyd yn cynnwys atodiad masgio a chefnogi o’r enw’r Raddfa Ymddygiad, Emosiwn a Sylw – Masgio a Chefnogaeth (Behaviour, Emotion & Attention – Masking and Support Scale – BEAMS).

Datblygwyd yr adnoddau newydd hyn ar y cyd â phobl ifanc a rhieni a gofalwyr sydd â phrofiad byw o ADHD yn ogystal â gweithwyr proffesiynol fel staff addysgol a gofal iechyd sy’n gweithio gydag unigolion ag ADHD. Y nod yw i’r BEARS a’r BEAMS helpu i nodi anawsterau sy’n gysylltiedig ag ADHD yn gynnar, yn enwedig mewn plant nad yw eu symptomau o bosibl yn cyd-fynd â disgwyliadau traddodiadol.

Rydym bellach wedi lansio astudiaeth newydd yn gwahodd rhieni a gofalwyr plant 9-11 oed (blynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd) yng Nghymru i gwblhau holiaduron BEARS a BEAMS. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan rieni a gofalwyr plant ag ADHD a heb ADHD. Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am ein hastudiaeth newydd a chymryd rhan, ewch i dudalen ein hastudiaeth.

Hoffech ddysgu rhagor am ADHD?