Skip to main content

Lleisiau Ieuenctid

Amplifying Accessibility: gwersi gan gerddor ifanc anabl

10 Gorffennaf 2024

Yn y blogbost hwn, mae Keys (hi/nhw), cerddor o Gymru ag anabledd, yn rhannu tair gwers y mae hi wedi’u dysgu ar ei thaith o fysgio ar y stryd i chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae Keys hefyd yn myfyrio ar sut mae creu cerddoriaeth yn helpu ei lles a’i hiechyd meddwl.

Fy enw i yw Rightkeysonly, cerddor unllaw â dwy law sy’n wych am roi pump uchel ond yn ofnadwy am wneud dwylo jazz. Gyda’r nos, gallwch chi fy ffeindio i wedi ymgolli’n llwyr yn y sîn rêf, yn bownsio ar draws llwyfannau wrth i’r bas ddirgrynu drwy fodiau fy nhraed.Yn ystod y dydd, rwy’n bennaeth ar Amplifying Accessibility, prosiect sy’n chwilio am ffyrdd cynhwysol y gall unigolion B/byddar, anabl a niwrowahanol ddatblygu eu gyrfa ym myd cerddoriaeth.Rydw i hefyd yn berson 24 oed na welodd neb tebyg iddyn nhw erioed yn y diwydiant cerddoriaeth.

 

Mae cael ADHD a Pharlys Erb yn golygu ’mod i yn aml wedi gorfod addasu i fyd a oedd yn teimlo nad oedd wedi’i gynllunio i mi. Gall hyn roi pwysau trwm ar ysgwyddau rhywun.

Fodd bynnag, mae ’na hefyd lawer o bethau hyfryd yn dod gyda bod yn wahanol.

Felly, dwi’n mynd i rannu rhai gwersi dwi wedi’u dysgu, fel person amrywiol ym myd cerddoriaeth, fel y gallwch chi fwynhau mwy o’r eiliadau hyfryd hynny.

 

Gwers 1: Mae cael help yn helpu 

Hyd yn oed pan rydych chi’n seren roc, dyw anghenion ychwanegol ddim jyst yn diflannu.

Unwaith, perfformiais i deirgwaith ar yr un diwrnod, mewn dwy ddinas wahanol, yng nghanol yr haf – doedd hyn ddim yn anghyffredin ar ôl i mi ddechrau cynhyrchu cerddoriaeth ddawns. Fodd bynnag, ar yr un pryd, dirywiodd fy iechyd.

I eiriol drosof fy hun, fe greais i Atodiad Mynediad.

Mae Atodiad Mynediad yn ddogfen y mae pobl greadigol anabl yn ei rhannu â chydweithwyr i esbonio sut i gefnogi eu hanghenion wrth weithio gyda’i gilydd. Gallwch chi gynllunio’r ddogfen hon fel y mynnwch chi, ac fe ddechreuais i gyda’r cwestiwn:

Pe bawn i’n gallu cael popeth sydd ei angen arna’ i, beth fyddai hynny?  

Mae hyn yn fy helpu i gael y cymorth cywir a blaenoriaethu fy lles fy hun, heb orflino drwy’r amser!

 

Gwers 2: Dim ond bod dynol ydych chi 

Un o’r rhesymau y penderfynais i ganolbwyntio ar gerddoriaeth oedd gan fod rhywun wedi dweud wrtha’ i, o ddifrif, nad oeddwn i’n “ddigon abl” i fod yn “gerddor go iawn”. Roeddwn i’n gandryll, a thaniwyd fy awydd i sicrhau bod llai o bobl yn profi’r gwahaniaethu yr oeddwn i, ac artistiaid eraill ag anabledd, wedi’i wynebu ym myd cerddoriaeth.

Rydw i’n aml yn boster-ferch docenistaidd ar gyfer anabledd ond, gyda’m llaw ar fy nghalon, galla i ddweud nad oes rhaid i chi ymladd bob amser.

Ar rai diwrnodau mae popeth yn teimlo’n ormod, ac rydych chi jyst eisiau i rywun ofyn i chi beth yw eich hoff liw cyn iddyn nhw ofyn i chi lenwi arolwg amrywiaeth a chynhwysiant arall.

Os yw eich corff a’ch ymennydd yn dweud ei bod hi’n amser gorffwys, mae’n amser gorffwys.

Mae bob amser yfory.

 

Gwers 3: Defnyddiwch eich rhwystrau er budd i chi 

Dyw hyn ddim yn golygu neidio’r ciw yn Disneyland, mae’n golygu troi eich anfanteision yn gryfderau.

Pan ddechreuais i yn y sin gerddoriaeth, roedd fy ngorbyder yn drech na mi. Roeddwn i wedi dysgu sut i fît-bocsio, gan ddefnyddio gorsaf lwpio i ailadrodd y synau’n ôl i mi, ond cyn gynted ag y byddwn i’n mynd i mewn i leoliad byddai’r ofn yn taro, a byddwn i’n gadael heb berfformio.

Roedd angen i mi fowldio’r gerddoriaeth i fy siwtio i.

Dechreuais berfformio oddi ar y llwyfan, yn eistedd ar y llawr, heb wneud cyswllt llygad â neb, fel pe bawn i yn fy ystafell wely gartref. Roedd yn rhyfedd ac anarferol, ond fe wnaeth i mi deimlo’n gyfforddus ac roedd pawb wrth eu bodd. Enillais i’r teitl ‘Floor Girl’ mewn ambell le hyd yn oed.

Daeth fy lles yn rhan o’r perfformiad, yn flaenoriaeth dros yr hyn a ystyriwyd yn “normal” i gerddor ei wneud.

Os nad yw rhywbeth yn gweithio, mae gennych chi’r pŵer i’w newid, hefyd.

 

Ynglŷn â Keys

P’un a ydych chi’n abl neu anabl, dwi’n gobeithio bod yr erthygl hon wedi eich helpu chi rywsut, ac os hoffech chi sgwrsio mwy am hygyrchedd yn y diwydiant cerddoriaeth gallwch chi anfon e-bost ataf (amplifyingaccessibility@gmail.com) neu dewch o hyd i mi ar Instagram (@rightkeysonly).

Mae fy sefydliad Amplifying Accessibility hefyd yn cynnig cymorth mentora am ddim i weithwyr yn y diwydiant cerddoriaeth sy’n f/Fyddar, anabl, neu niwrowahanol, ynghyd ag ymgynghoriaeth i sefydliadau sydd am ddysgu sut i ddod yn fwy cynhwysol o fewn arferion y diwydiant cerddoriaeth.

Diolch i Keys am rannu ei stori gyda ni.

 

Adnoddau:

  • Gallwch chi weld Atodiad Mynediad Keys os hoffech chi gael ysbrydoliaeth i greu un eich hun. A bydd yr adnodd hwn gan Unlimited yn eich helpu i greu Atodiad Mynediad.
  • Mae Beacons Cymru yn sefydliad datblygu’r diwydiant cerddoriaeth sy’n gweithio ledled Cymru i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sydd ag uchelgeisiau i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
  • Mae Tonic Music yn sefydliad sy’n ceisio sefydlu iechyd meddwl da o fewn cymunedau cerddoriaeth
  • Mae Music Production for Women yn grymuso artistiaid benywaidd ac anneuaidd i ddysgu i gynhyrchu mewn cymuned ddiogel ac ysgogol mewn ffordd hygyrch.
  • Mae Help Musicians yn elusen i gerddorion proffesiynol o bob genre sy’n rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt ar y camau hollbwysig a allai danio neu dorri eu gyrfa.

 

Eisiau ysgrifennu post ar gyfer blog Wolfson?

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd â diddordeb mewn rhannu eu barn ar yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Hoffem yn arbennig rannu lleisiau ifanc yn siarad am eu profiadau gydag iechyd meddwl a phrosiectau arloesol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Eisiau dysgu mwy? E-bostiwch maximom@caerdydd.ac.uk gyda rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi a pha bwnc yr hoffech ysgrifennu amdano.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!