Gwersi byd-eang, effaith leol: cymhwyso’r hyn a ddysgais i yn ystod Ysgol Haf Wolfson i fy ymchwil yn Indonesia
20 Mawrth 2025Mae Wiwit yn seicolegydd clinigol o Indonesia a ddaeth i’n Hysgol Haf ar Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid. Yn y blog hwn, mae Wiwit yn rhannu ei phrofiadau yn #WolfsonSummer24 a sut gwnaeth hyn helpu i ysbrydoli ei gwaith ymchwil yn Indonesia.

Fy enw i yw Wiwit Puspitasari Dewi. Rydw i’n ddarlithydd yn y Gyfadran Seicoleg yn Universitas Pelita Harapan ac yn seicolegydd clinigol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl pobl ifanc yn Indonesia. Ar hyn o bryd, rydw i’n paratoi i barhau â fy astudiaethau ar gyfer gradd doethur, felly edrychais ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc i gael y newyddion diweddaraf am yr ymchwil gyfredol ar bobl ifanc.
Pan sylweddolais fod Ysgol Haf Canolfan Wolfson yn cael ei gynnal ar-lein yn 2024, roeddwn i’n awyddus i wneud cais. Gan fy mod yn byw ymhell o Gaerdydd, roeddwn i’n gwybod y byddai hwn yn gyfle gwych i fi ymgysylltu ag arbenigwyr amrywiol o sefydliadau dibynadwy ym maes ymchwil iechyd meddwl, a gwella fy ngwybodaeth am sut galla i helpu pobl ifanc trwy ymchwil.
Oherwydd y gwahaniaeth amser rhwng y DU ac Indonesia, cynhaliwyd rhai o’r sesiynau yn ystod fy oriau gwaith a chymudo. Fodd bynnag, roeddwn i’n dal i allu ymuno â’r sesiynau gan ei fod yn hawdd ymuno â’r platfform ar-lein dros y ffôn. Roedd Canolfan Wolfson hefyd wedi cyflwyno dolen i Padlet, a oedd yn diweddaru’r adnoddau a’r sleidiau gan y siaradwyr yn gyflym. Roedd hwn yn ddefnyddiol iawn er mwyn cael y deunyddiau diweddaraf o’r holl sesiynau.
Roedd tridiau’r ysgol haf yn anhygoel. Cefais lawer o wybodaeth, syniadau ac arbenigedd am ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc y mae modd eu cymhwyso yn Indonesia. Fodd bynnag, fe wnaeth yr ymchwilwyr profiadol hyn o bob rhan o’r byd fy ysbrydoli i wella fy sgiliau ymchwil a chyfrannu at y gymuned fyd-eang hon.
Gan fy mod yn archwilio ymyriadau digidol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc ar hyn o bryd , roedd y sesiwn gyda Dr Rhys Bevan-Jones o ddiddordeb arbennig i fi. Fe wnaeth y sesiwn hon fy ysbrydoli i barhau i ystyried potensial ymyrraeth ddigidol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc yn Indonesia. Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn. Roedd y sesiwn goffi rhithwir yn gyfle gwych i’r rhai ar y cwrs a’r siaradwyr rwydweithio.
Roedd yr ysgol haf hon yn werthfawr gan ei bod yn gyfle imi weld ymchwil y tu allan i fy ngwlad ac roedd wedi fy ysgogi i ddal ati gyda fy mhrosiectau fy hun. Cefais lawer o wybodaeth yn ystod y rhaglen a bydda i’n argymell fy nghydweithwyr i ymuno â’r ysgol haf nesaf.
Diolch yn fawr iawn i Wiwit am rannu ei phrofiad gyda ni.
Ymunwch â ni yn 2025:
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer Ysgol Haf Wolfson 2025? Mae ceisiadau nawr ar agor ac rydym yn awyddus i glywed gennych.
Tan hynny, gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd sydd gan y Ganolfan i’w cynnig, a chadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn ni’n hysbysebu #WolfsonSummer25
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Tachwedd 2024
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Gorffennaf 2024
- Mawrth 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Ebrill 2023
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Chwefror 2021