Skip to main content

FfrwdYsgol Haf

Gwybodaeth am Iechyd Meddwl Ieuenctid: Y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – Ysgol Haf Wolfson 2025

6 Mai 2026

Yn y blog hwn, mae Tasnim, un o gyfranogwyr Ysgol Haf Wolfson 2025, yn myfyrio ar ei phrofiad ac yn rhannu gwybodaeth am y gwersi a ddysgodd o’r cwrs ar-lein tridiau o hyd am ymchwil iechyd meddwl ieuenctid.

Fy enw i yw Tasnim, a cefais fy ysbrydoli gan fy astudiaethau MSc mewn Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Iechyd Meddwl yng Ngholeg y Brenin Llundain, ynghyd â’m chwilfrydedd cynyddol ynghylch iechyd meddwl ieuenctid, i wneud cais i Ysgol Haf Wolfson.

Yn fy modiwl Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, dysgais ragor am natur gynhwysfawr y maes hwn drwy archwiliadau o safbwyntiau genetig, seicolegol, cymdeithasol a biolegol, sydd wedi bod yn ddiddorol iawn. Roeddwn i’n teimlo bod hyn yn cyd-fynd yn dda â sut mae Canolfan Wolfson yn gweithredu mewn modd rhyngddisgyblaethol. Roedd fy niddordeb hefyd yn seiliedig ar fy mhrofiadau ymarferol o weithio mewn ysgolion gyda phobl ifanc, yn ogystal â fy mhrofiad gwirfoddol yn fentor cymheiriaid a gwirfoddolwr argyfwng Shout UK. Felly, roedd dysgu am Ysgol Haf Wolfson yn gyffrous oherwydd ei fod yn gyfle pwrpasol i glywed gweithwyr proffesiynol yn dadansoddi materion cyfoes ac ymchwil arbenigol yn ddyfnach, a allai helpu i wneud penderfyniadau gyrfaol mwy gwybodus yn y dyfodol, megis p’un ai i fentro i faes seicoleg glinigol neu bolisi.

Roeddwn i wedi mwynhau sesiwn diwrnod un ar ‘Dueddiadau Seciwlar mewn Iechyd Meddwl’ yn arbennig, gan iddi ddatgelu pwysigrwydd cydweithio â phobl ifanc ar y cyd â chlinigwyr a llunwyr polisïau i helpu i fynd i’r afael â heriau iechyd meddwl. Mewn sesiwn arall ar y diwrnod cyntaf o’r enw ‘Atal Iselder’, cefais ymwybyddiaeth o bwynt hollbwysig diddorol ynghylch y ffaith bod llawer o astudiaethau ymyrraeth seicolegol yn y gorffennol yn methu ystyried canlyniadau a niwed anfwriadol.

Fe wnaeth rhai o’r trafodaethau ar ddiwrnod tri sefyll allan i mi hefyd gan eu bod wedi helpu i bortreadu pa mor bwysig yw dadansoddi a chyfeirio’n ôl at dystiolaeth ymchwil yn hytrach na mynd ati heb unrhyw dystiolaeth i gadarnhau’r hyn mae rhywun yn meddwl dylai weithio yn seiliedig ar eu syniadau a’u credoau eu hunain am strategaethau iechyd meddwl effeithiol. Roedd y syniad hwn yn adeiladu ar rai o’r dulliau ymchwil a ddysgais wrth astudio fy ngradd Meistr, ac roedd yn pwysleisio’r angen i ymchwilwyr ystyried eu teimladau a’u safleoldeb wrth gynnal ymchwil.

Cyfoethogodd y garfan ryngwladol yr Ysgol Haf, gan gynnig safbwyntiau amrywiol ar gyfieithu a theilwra ymchwil iechyd meddwl ieuenctid yn ddiwylliannol – sy’n ein hatgoffa bod y materion hyn yn fyd-eang ac yn un o’r prif resymau y byddwn ni’n argymell yr ysgol i eraill.

Ar y cyfan, dysgais fod llawer o gyflyrau iechyd meddwl yn amrywiol, er enghraifft, iselder. Felly, gallai dadansoddi grwpiau wedi’u rhannu yn ôl oedran yn seiliedig ar bwynt dechrau’r salwch fod yn ddefnyddiol at ddibenion ymchwil a datblygu ymyriadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried bod newid systemig yn broses hir.

Rwy’n ymchwilio’n ddyfnach i seicoleg, iechyd meddwl a rhagor yma: www.tasnimtayo.substack.com

Diolch yn fawr iawn i Tasnim am rannu ei phrofiad gyda ni.

Ymunwch â ni yn 2026:

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer Ysgol Haf Wolfson 2026? Cewch ymgeisio nawr, a bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych.

Cewch gofrestru i fod ar ein rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod rhagor am #WolfsonSummer26