Jeremy Hall
10 Mehefin 2019Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?
Dylanwadodd dau beth arnaf. Y peth cyntaf oedd diddordeb dwys yn yr ymennydd. Yr ail oedd yr angen amlwg am wella triniaethau ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Hefyd, roeddwn yn sicr mai’r maes meddygol hwn fyddai’n newid fwyaf yn ystod fy oes.
Pwy sydd wedi/yn eich ysbrydoli?
Cefais fy ysbrydoli gan lawer o wyddonwyr clinigwyr penigamp sydd wedi ymroi eu gyrfaoedd i ddeall gwreiddiau anhwylderau meddyliol. Rwy’n credu mai cyfrifoldeb fy nghenhedlaeth i yw trosi hyn yn driniaethau gwell bellach.
Ar beth rydych yn gweithio ar hyn o bryd?
Rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau. Fodd bynnag, un sy’n hynod gyffrous ar hyn o bryd yw ein gwaith ar ddosbarthiad o sianeli calsiwm sydd wedi cael eu cysylltu â phroblemau iechyd meddwl fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn. Mae’r gwaith hwn yn bwysig achos ein bod yn gwybod y gallwn wneud cyffuriau i dargedu’r sianeli hyn, felly gallent gynnig cyfleoedd newydd ar gyfer therapïau.
Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer (clinigol), ac i’r gwrthwyneb?
Mae cysylltedd cynyddol rhwng geneteg a seiciatreg. Wrth i ni ddeall fwyfwy’r cyfraniadau genynnol tuag at gyflyrau seiciatrig fel awtistiaeth a sgitsoffrenia, mae angen i ni weithio’n agosach gyda’n cydweithwyr geneteg glinigol. Felly, rydym wedi pennu ffyrdd o weithio ar y cyd fydd yn helpu i ategu’r oes newydd hon ym maes seiciatreg.
Pa newidiadau ydych wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?
Mae’n galonogol gweld llawer mwy o drafodaeth gyhoeddus ynghylch materion iechyd meddwl, gan gynnwys gan y teulu brenhinol. Mae lleihau stigma’n bwysig iawn, er nad yw hyn wedi arwain at newid sylweddol o ran cefnogaeth y cyhoedd tuag at ymchwil iechyd meddwl hyd yn hyn.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau allweddol ar gyfer iechyd meddwl?
Mae angen brys i ni drosi ein datblygiadau o ran deall gwreiddiau anhwylderau meddyliol yn driniaethau gwell. Hefyd, mae angen i ni wneud yn siŵr bod iechyd meddwl yn cael lle teilwng ochr yn ochr â meysydd eraill meddygaeth, o ran cydnabyddiaeth a chefnogaeth.
Pa gyngor fyddech yn ei gynnig i’r rheini sy’n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?
Mae’n adeg gyffrous i ymgymryd â’r maes. Mae datblygiadau ym meysydd geneteg, epidemioleg a niwrowyddoniaeth yn cynnig cyfleoedd aruthrol. Cofiwch bwysigrwydd cydweithio bob amser – mae’n hybu gwyddoniaeth a hwyl hefyd. Dewiswch gwestiwn pwysig i fynd i’r afael ag e – a chofiwch mai gwella bywydau cleifion yw’r diben yn y pendraw.