Skip to main content

All Libraries

Adolygu ac ymlacio @cardiffunilib

12 April 2023

Mae eich llyfrgell yma i’ch cefnogi o hyd yn ystod yr amser hwn cyn eich arholiadau neu asesiadau.


Dolenni i’w hadolygu ✍️

Dod o hyd i wybodaeth academaidd
Gweler ein canllaw cyflym i ddod o hyd i wybodaeth academaidd am help i gael mynediad at ffynonellau academaidd o ansawdd da, gan gynnwys y deunydd darllen a argymhellir gan eich darlithwyr: https://xerte.cardiff.ac.uk/play_21029#cymSpring

Dosbarthiadau sgiliau astudio academaidd a chymorth
Dosbarthiadau sgiliau astudio academaidd ar gyfer israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir – i ddatblygu sgiliau fel ysgrifennu traethodau, arferion da ynghylch adolygu ac arholiadau, a chymryd nodiadau: https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/study/study-skills/academic-skills-classes-and-support

Sgwrs â’r llyfrgell
Ein gwasanaeth sgwrsio ar-lein ar gyfer bob ymholiad yn ymwneud â’r llyfrgell: https://remotesupport.cardiff.ac.uk/api/start_session?issue_menu=1&id=1&c2cjs=1

Adolygu effeithiol
Canllaw i’ch helpu i baratoi i adolygu ar gyfer arholiadau a gwella eich technegau adolygu: https://xerte.cardiff.ac.uk/play_12630

Dechrau arni ac osgoi llusgo traed
Sut i osgoi llusgo’ch traed, a dod o hyd i’r cymhelliant ar gyfer eich astudiaethau academaidd: https://xerte.cardiff.ac.uk/play_10356#page1

Sgiliau astudio
Hunangofrestrwch ar y modiwl Sgiliau Astudio ar Dysgu Canolog a chael mynediad at ddeunyddiau dysgu Awgrymiadau Adolygu ac Arholiadau. Llawer o awgrymiadau ac adnoddau defnyddiol.

Sgiliau Astudio Academaidd
Gael mynediad i’r modiwl (Saesneg yn unig).

Sgiliau Astudio ac Adnoddau Adolygu
Rhestr adnoddau electronig o Lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd i’ch helpu i gynllunio a diwygio’n effeithiol ar gyfer tymor arholiadau: https://whelf-cardiff.alma.exlibrisgroup.com/leganto/readinglist/lists/10326211410002420?institute=44WHELF_CAR&auth=SAML

Cefnogaeth pwnc
Dod o hyd i’ch llyfrgellydd pwnc a chysylltu ag ef/hi, a dod o hyd i adnoddau gwybodaeth ar gyfer eich pwnc: https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/study/libraries/subject-support

Gweithio ar y cyd drwy ddefnyddio ein tanysgrifiad Zoom
Cynnal cyfarfodydd a gweithio gyda’ch ffrindiau ar yr un cwrs drwy ddefnyddio’r sgwrs fideo sawl defnyddiwr hwn: https://cardiff.zoom.us/


Dolenni ar gyfer lles ac ymlacio 💆

Casgliad Lles
Mae’r casgliad llyfrau ar gael i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi cael ei gurad gan ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid ym Mywyd Myfyrwyr. Gellir dod o hyd i’r eitemau hyn yn eu hardaloedd penodol eu hunain ym mhob un o’n safleoedd llyfrgell, galwch heibio! Ochr yn ochr â lansio’r casgliad llyfrau rydym hefyd wedi llunio rhestr adnoddau Lles electronig y gellir ei chyrchu yn y ddolen hon: bit.ly/librarywellbeinglist

Llwybrau – Parc Bute
Mae amrywiaeth o deithiau cerdded a llwybrau ar hyd a lled y parc sy’n rhad ac am ddim, yn llawn hwyl ac yn addas i bob math o dywydd: https://bute-park.com/cy/llwybrau/

8 bwyd gwych ar gyfer yr ymennydd i’w bwyta wrth adolygu
Hwb naturiol i’r ymennydd er mwyn eich helpu i ganolbwyntio ar y dasg dan sylw: https://arden.ac.uk/knowledge-base/student-life/food-health-lifestyle/8-brilliant-brainfoods-eat-while-revising#

BorrowBox
Mae BorrowBox ar gael ar-lein neu fel ap y gallwch ei lawrlwytho i’ch dyfais symudol. Mae’n eich galluogi i fenthyg llyfrau llafar neu e-lyfrau o’ch llyfrgell leol unrhyw adeg o’r diwrnod o unrhyw le. Cewch fynediad gyda’ch aelodaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd (gweler y ddolen Ymuno â llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd isod i gofrestru!): https://www.borrowbox.com/

Box of Broadcasts
Teledu a radio ar-alw. Yn ddiweddar wedi dangos rhaglenni o dros 75 o sianelau am ddim i’w darlledu. Gallwch hefyd chwilio drwy’r archif sy’n cynnwys dros 2 filiwn o ddarllediadau teledu a radio. Mae gan bob aelod staff a myfyriwr Prifysgol Caerdydd fynediad llawn: https://learningonscreen.ac.uk/ondemand

Awgrymiadau ar gyfer cwsg iach
Gall arferion cysgu iach wneud wahaniaeth mawr i ansawdd eich bywyd. Lluniwyd yr awgrymiadau hyn gan y National Sleep Foundation: https://www.sleepfoundation.org/articles/healthy-sleep-tips

Ymunwch â llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd ar-lein
Cofrestrwch i fenthyg eLyfrau, llyfrau llafar ac eGylchgronau 24 awr y dydd: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/?dt=list&rm=CARDIFF+SELF+R0%7C%7C%7C1%7C%7C%7C0%7C%7C%7Ctrue

Deall eich cronoteip
Mae gwyddonwyr bellach yn credu bod pedair ffordd o gategoreiddio cylchoedd cysgu/deffro. Yn y byd gwyddonol, gelwir y categoriau hyn yn gronoteipiau. Mae cronoteipiau’n disgrifio’r cyfnodau pan mae’r corff eisiau cysgu a bod yn effro. Ac i wneud pethau’n haws, mae’r categorïau cronoteipiau wedi cael eu galw ar ôl anifeiliaid: https://mantasleep.com/blogs/sleep/how-understanding-your-chronotype-helps-you-sleep-better. Cardiau post y gallwch eu hargraffu: https://docdro.id/0RtTwXo


Dolenni am gefnogaeth 💚

Ymdopi â’ch astudiaethau
Fideos, awgrymiadau a strategaethau yma ar reoli gorbryder arholiadau, gwella’r gallu i ganolbwyntio ac ati: https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/health-and-wellbeing/self-help-resources/coping-with-your-studies

Cyfeirio eich hun am gymorth cwnsela a lles
Os ydych chi’n cael anawsterau fel hwyliau isel, gorbryder a theimladau eraill o ofid emosiynol neu os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall, cysylltwch â ni. Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi a sut i gael gafael arno ar-lein: https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/news/view/2146711-referring-yourself-for-counselling-and-wellbeing-support

Y Samariaid
Pa bynnag sefyllfa yr ydych ynddi, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Maent ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn: https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

TalkCampus
Ni ddylai unrhyw fyfyriwr fyth ddioddef ar ei ben ei hun. Mae TalkCampus yn cysylltu nhw’n uniongyrchol â’r bobl iawn ar unrhyw adeg o’r dydd mewn amgylchedd diogel, effeithiol a llawn cymhelliant: https://www.talklife.co/talkcampus

Gweithdai lles (gan gynnwys delio â gorbryder arholiadau, ymlacio ac ati)
https://intranet.cardiff.ac.uk/students/health-and-wellbeing/workshops-courses-and-groups