Skip to main content

Cymraeg

Uchafbwyntiau Fy Amser ym Mhrifysgol Caerdydd

31 May 2014

Helo Bawb!

Sorri bo fi heb bod yn postio llawer yn yr wythnose dwetha, ma hi wedi bod yn fis frysur, rhwng adolygu, arholiadau a teithio rhwng Caerdydd a adre, mae’r mis wedi hedfan! Wythnos yma nes i gorffen fy arholiade, HALELIWIA. Dim mwy o adolygu nes blwyddyn nesa gobitho! IEI! Ond ar ôl gorffen yr arholiade nes i sylwi, bo fi mewn gwirionedd wedi gorffen fy mlwyddyn cyntaf yma yng Nghaerdydd, ac yn dechnegol, mae fy amser i fel ‘Freshar’ wedi dod i ben.. 🙁 Felly dwi wedi penderfynu wythnos yma i gofio nol i dechre fy amser i ma, a cofnodi fy uchafbwyntiau yma yng Nghaerdydd!

1)  Astudio yn yr adran Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Dwi’n mor falch nes i ddewis dod i Gaerdydd i astudio, ac mae’r adran rwy’n astudio ynddi yn cynnig popeth sydd angen ar y myfyrwr ac mwy. Mae’r adran wedi ei leoli  yn adeilad Trevithick, ac mae ganddo sawl ddarlithfa mawr, ac 3 gwahanol labordy, gyda chyfrifiaduron- Windows, Linux a Mac, sydd ddim ond ar gael i myfyrwyr yr adran. Mae hefyd yn cynnwys Llyfyrgell Trevithick sydd yn anferth, ac yn cynnig digonedd o le i fyfyrwyr i adolygu a gweithio, ac hefyd yn cynnwys 4 gwahanol ystafell sydd yn ar gael er mwyn gwneud gwaith grwp. Mae hefyd yn cynnig printio am ddim i myfyrwyr yr adran (un gost yn llai i mi!). Mae modiwlau y flwyddyn cyntaf wedi bod yn ddidorol, ond ar yr run pryd yn heriol. ( Dwi am ysgrifennu blog am yr adran gyda mwy o wybodaeth cyn bo hir 🙂 )

2) Y Gym Gym. -Trip Dulyn, Dawns Rhyngol, Crols,

Dwi’n mor falch bo fi wedi ymuno gyda’r Gymdeithas Gymraeg, am sawl rheswm . Mae e wedi bod yn ffordd gret i gwrdd a phobl newydd, ac dwi wedi gwenud llawer o ffrindiau o fewn y gymdeithas. Un uchafbwyntiau y gymdeithas oedd y trip rygbi blynyddol, a aeth a chriw o Gym Gymwyr Caerdydd draw i Ddulyn eleni.  Roedd e’n benwythnos a hanner, ac oedd codi i fynd i darlithoedd bore dydd llun ar ol ychydig oriau o gwsg yn her, ond roedd y blinder yn werth e. Dwi hefyd wedi bod i’r Ddawns Rhygnol yn Aberystwyth, ac Eisteddfod rhyngol yn Abertawte, lle mae myfyrwyr yn cael amser i chwrdd a ffrindiau arall o brifysgolion erill cymru, ac chystaldu yn gwahanol gweithgareddau trwy gydol y dydd! Dwi hefyd yn erdych mlan i wythnos olaf y Gym Gym sydd yn wythnos i ddweud hwyl fawr i bawb ac i gymdeithasu o amgylch y ddinas.

3) Cyfleoedd o fewn y Brifysgol.

Cyn dod i Brifysgol, on i byth yn un odd yn gwneud llawer ar ben fy hun, on in hoff iawn o gwneud gweithgareddau gyda fy ffrindiau, a pobl roeddwn in nabod. Ers dod i brifysgol dwi wedi newid fy agwedd braidd a wedi dysgu bod ddim rhaid sefyll o fewn un grwp o ffrindiau, ac trwy gwneud gweithgareddau gwahanol, mae’n ffordd dda o gwneud ffrindiau newydd ac mae’n ffordd dda o ddysgu sgiliau newydd. Dwi wedi bod digon ffodus i cael y cyfle yma i ysgrifennu blog ar rhan y brifysgol Caerdydd i rhannu fy mhrofiadau i fel myfyrwraig yma. Cylfe arall wnes i manteisio ar yr wythnos yma oedd y cyfle i fod yn Mentor i Fyfywyr, cefais fy hyforddu wythnos yma ac dwi’n edrych mlan i gwrdd a myfyrwyr newydd Caerdydd 2014-2015.

4) Nosweithau allan yn y ddinas-

Dwi’n dwli ar nosweth mas yng nghanol y ddinas. Mae Caerdydd yn cynnig shwt gyment mwy na beth sydd gyda ni adre pan mae’n dod i noson allan. Neithwr ethon ni allan i Oceana (ein hoff clwb ni, ond ma digon o ddewis i gal ma!) Mae crols y gym gym wedi gwneud siwr bo ni wedi gweld llawer o wahanol dafarndau y ddinas, ac mae rhaid mynd am dros ir Undeb nawr ac yn y man i’r Lash. Mae’r rhestr o wahanol clybiau a tafarndau sydd ar gael yn Nghaerdydd yn ddi-ben draw, ac os nag yw dawnsio nes oriau man y bore ddim yn apelio i chi, mae llawer o lefydd sydd yn llawer mwy ddistaw ar gael i mwynhau a chymdeithasu gyda ffrindiau.