Skip to main content

AstudioCymraegTrydedd flwyddyn

Myfyrio ar ôl Blwyddyn yn Cwblhau Gradd Ymsang

17 Mehefin 2021

Bydd y rhai ohonoch sydd wedi darllen fy mlogiau eraill yn gwybod fy mod wedi treulio’r flwyddyn academaidd 2020/21 yn cwblhau gradd ymsang mewn Ffarmacoleg. Gradd ychwanegol yw gradd ymsang, fel arfer gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth, sy’n cael ei chwblhau rhwng blynyddoedd 3 a 4 neu blynyddoedd 4 a 5 o’r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd. Tydw i heb ysgrifennu blog yn yr wythnosau diwethaf oherwydd fy mod wedi bod yn cwblhau’r arholiadau diwethaf a’r prosiect ar gyfer y radd ymsang. Yn y blog yma, rwyf yn gobeithio amlinellu’r rhesymau dros pam wnes i ddewis gwneud gradd ymsang, yr opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael i wneud gradd ymsang yng Nghaerdydd ac am y profiad ges i.

Gall myfyrwyr Meddygaeth Caerdydd wneud graddau ymsang o fewn yr ysgol feddygol, yn yr ysgol biowyddorau, ym Mhrifysgol Bangor neu unrhyw brifysgol yn y Dderynas Unedig sy’n cynnig graddau ymsang i ymgeiswyr allanol (noder mai dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael i wneud gradd ymsang mewn sefydliad arall). Mae’r opsiynau ar gyfer Caerdydd a Bangor i’w gweld yn y tabl isod. Er mwyn gweld cyrsiau sydd ar gael mewn prifysgolion eraill, mae yna restr da ar www.intercalate.co.uk. Mae un o fy ffrindiau wedi treulio’r flwyddyn diwethaf yn asutio Dylunio, Technoleg ac Arloesi Llawfeddygol yng Ngholeg Imperialaidd Llundain, er enghraifft.

Ysgol Feddygol CaerdyddFfarmacoleg
Patholeg Cellol a Moleciwlaidd
Seicoleg a Meddygaeth
Meddygaeth Brys
Meddygaeth Poblogaeth
Addysg Feddygol
Meddygaeth Genomig
Ysgol Biowyddorau CaerdyddFfisioleg
Biogemeg
Anatomi
Niwrowyddoniaeth
Prifysgol BangorGwyddoniaeth Chwaraeon
Gwyddoniaeth Chwaraeon Clinigol
Niwroseicoleg
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae yna nifer o fanteision o gwblhau gradd ymsang. Mae’n gyfle i dreulio blwyddyn mewn maes penodol yn gwella eich dealltwriaeth o wyddoniaeth sylfaenol. Mae hyn yn wir yn arbennig oes ganddoch chi ddiddordeb mewn un o’r meysydd uchod. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn sut mae meddyginiaethau yn gweithio ar y galon ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael gwneud fy mhrosiect gradd ymsang yn edrych ar sut mae cyffur o’r enw flecainide yn cael ei ddefnyddio mewn plant â churiadau calon afreolaidd. Yn draddodiadol, roedd myfyrwyr oedd yn cwblhau gradd ymsang yn cael pwyntiau ychwanegol ar gyfer eu cais swydd meddyg sylfaenol. Yn anffodus, bydd hyn wedi newid erbyn byddai yn gwneud fy nghais. Mae gradd ymsang hefyd yn gyfle i gael golwg gwell ar agweddau academaidd Meddygaeth a’r ymchwil sydd y tu ôl i’r triniaethau sydd ar gael i gleifion. Credaf fod Meddygaeth yn yrfa ble mae pobl yn tueddu i anghofio am addysg ffurfiol fel graddau meistr a PhD, yn wahanol i nifer o feysydd eraill. Ond mae yna lwyth o gyfleoedd i feddygon graddedig astudio ymhellach mewn meysydd sydd o ddiddordeb iddyn nhw tu allan i’r rhagleni hyfforddi. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnwys graddau meistr mewn imiwnoleg, tocsicoleg a meddygaeth neonatolegol, ymysg eraill.

Adeilad Cochrane, Prifysgol Caerdydd

Mae’r prosiect yn cyfri am draean o’r radd ymsang, mae’r ddau draean arall yn cynnwys modiwlau gydag asesiadau ar gyfer pob modiwl. Mi wnes i gwblhau saith modiwl ac maent wedi eu rhestru isod. Roedd yna dri modiwl wnes i benderfynu peidio eu gwneud (ddim oherwydd fy mod i ddim eisiau, ond oherwydd fod well gen i y rhai eraill). Y tri modiwl yma oedd Datblygiad Biofarcwyr, Geneteg Moleciwlaidd a Bioleg Celloedd a Bioleg Cancr.

  • Dadansoddiad Critigol a Dulliau Gwyddonol
  • Dyluniad a Datblygiad Cyffuriau
  • Imiwnoleg Pellach
  • Niwroffarmacoleg
  • Ffarmacogeneteg a Ffarmacogenomeg
  • Gwyddoniaeth Gardiofasgwlar
  • Imiwnobatholeg ac Imiwnotherapi

Roedd y modiwlau yma yn golygu dysgu’r gwyddoniaeth mewn llawer yn fwy o fanylder na fydden ni ar y cwrs Meddygaeth. Er enghraifft, roedd gweithdy cyfan ar sut gall mwtaniadau mewn un genyn arwain at gancr yr ysgyfaint a sut gall mwtaniadau dilynol ddylanwadu ar sut mae’r afiechyd yn ymateb i driniaeth. Roedd y modiwlau’n cael eu hasesu trwy gyfuniad o dasgau gwaith cwrs yn cynnwys cyflwyniadau llafar a phosteri yn ogystal â thraethodau estynedig gyda chwestiynau penodol i’w hateb.

Wrth gwrs, mae gwneud gradd ymsang yn golygu treulio blwyddyn ychwanegol yn y brifysgol ac mae rhai myfyrwyr yn gweld hyn fel anfantais, er enghraifft oherwydd eu bod nhw’n graddio ar amser gwahanol i’w ffrindiau, ddim eisiau gwario blwyddyn arall yn y brifysgol sydd yn gallu bod yn ddrud neu yn teimlo’n barod i gychwyn gweithio fel meddyg ifanc. I mi yn bersonol, mae nifer o fy ffrindiau hefyd yn gwneud graddau ymsang ac rydw i’n falch iawn fy mod i wedi gwneud y flwyddyn yma ac yn teimlo fy mod wedi dysgu llwyth fydd o fudd i mi pan fyddwn i’n mynd yn ôl i astudio Meddygaeth y flwyddyn nesaf.

Dathliad Diwedd y Flwyddyn yn yr Ardd

Nawr fod y flwyddyn ar ben, beth am y graddio? Mae’r brifysgol wedi ymrwymo i gynnal seremoni graddio mewn-person haf nesaf, ond am y flwyddyn yma bydd y seremoni yn cael ei gynnal yn rhithiol ar Zoom. O ganlyniad, rhaid i’r dathliadau mewn-person fod yn llai ac ymysg ffrindiau yn hytrach na mewn un grŵp. Mi wnaeth grŵp bach ohonon ni lwyddo i gael dathliad bach tu allan yn yr ardd.

Ar ôl blwyddyn wych ar y cwrs ffarmacoleg, dwi nawr yn edrych ymlaen yn fawr i fynd yn ôl i’r cwrs Meddygaeth yn cychwyn gyda lleoliad seiciatreg ym mis Medi. Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau am raddau ymsang neu’r cwrs Meddygaeth, croeso i chi eu gofyn nhw yn y blwch sylwadau isod neu gallwch gysylltu ar Unibuddy.