Gwylia Pasg – Prifysgol Caerdydd
5 April 2013Dwi am fod yn blaen ac i’r pwynt. Sgen i affliw o ddim diddorol i dde’ud wrthoch i yn yr eiliad presennol yma. Ond dyna ni. Y gwych a’r gwachul o fywyd stiwdant di’r blog yma am fod. Mi wna’i grynhoi:
Y gwych = joio
Y gwachul =sgwennu traethoda
Ac yn anffodus ma’r Pasg yn adag o’r flwyddyn lle ma gwaith coleg yn tueddu i fod yn bentwr. Dwi di treulio rhan fwyaf o pnawn ‘ma yn ista yn y car o bob yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol radio 3 hefo llwyth o bapura blêr o nghwmpas, pukka pad a beiros o bob lliw. Dwi rwan newydd wneud fy hun i swnio yn uffernol o od. Ond- ar ôl treulio’r bora’n trio ngora i ista o flaen bwrdd mi sylwish i fod temtasiwn “facebook” a phetha hollol ddibwys fatha g’neud llwyth o baneidia, tyrchu drw cypyrdda a hyd yn oed gyrru holl ffordd i Ben y Pass am ddim rheswm yn drech arnai. Yr unig le lle oni’n gallu rhoi’n meddwl ar waith oedd yn darllan a gneud nodiada yn ista yn y car o bob man. Dwi ddim fel arfar yn grando ar gerddoriaeth glasurol chwaith ond yn ôl y sôn ma’n helpu chi stydio aballu, a dwi wir yn meddwl fod o’n gweithio. Pan oni’n aros yn neuadd Senghenydd flwyddyn dwytha neshi wario £8 ar itunes ar gerddoriaeth “relaxing music to help you study”- dwi’n gwbod bo fi’n swnio’n hollol od wan a mi odd pawb yn chwerthin ar fy mhen i ond dwi wir yn meddw fod o’n gweithio! Tip y dydd! Dwi hefyd wedi wastio llwyth o bres ar feiros a fineliners bob lliw i ‘neud y broses o neud nodiada’n fwy diddorol, dwim cweit yn siwr os di hynny am weithio chwaith, mi adawa i chi wbod, hynny ydi, os ydach chi wir isho..!
Prun bynnag i droi’r broses o sgwennu traethoda yn fwy cyffrous mi ydwi’n dilyn modiwl Cymdeithaseg y Wyddeleg a mi oni wir yn mwynhau darllan am ddirywiad y Wyddeleg yn Iwerddon a’r cysyniad o’r “Gaeltacht”. A hynny yn enwedig wrth ystyriad fy nghynllunia i a’n rhai o’n ffrindia ar gyfer ha’ ma – teithio Iwerddon ar fysus a threna. Ma ardal Galway fod yn dda yn ôl y sôn, heb drefnu’r peth eto ond mae o ar y gweill! Chydig o “motivation” gogyfer ymchilio cymdeithaseg y Wyddeleg felly, cymdeithaseg y Wyddeleg a chymdeithaseg y Guinness yr un pryd! Tip bach arall i chi pan dachi’n sdiwdant- ma gen i tua 4 cyfrif llyfrgell ar un o bryd – un brifysgol Caerdydd, prifysgol Bangor, llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd, a llyfrgelloedd cyhoeddus Gwynedd. Er nad os gen I lyfra allan arnyn nhw’i gyd – mae o wastad yn handi gan yn aml iawn fydd llyfra di ca’l eu tynnu allan gan fyfyrwyr erill. Cofiwch!
Felly, be dwi di neud heblaw ymchwilio i draethoda ers dod adra? Dal fyny fo ffrindia adra drw drip bach yn y car i Uwchmynydd Aberdaron a Nant Gwrtheyrn i atgoffa fy hun o’r môr, Gwyl Hanner Gwydir yn Llanrwst fo ffrindia coleg (rioed di bod allan yn Llanrwst o’r blaen ond mi odd o lot o hwyl) a Sesiwn yn Gaernarfon Gŵyl y Banc I ddal I fyny fo pawb ac I atgoffa fy hun o rai o gymêrs Gnarfon!
Mi adawa i lonydd I chi wan, dwi’n haeddu seibiant o’r gwaith ‘ma felly criw ohonan ni’n mynd I Garddfon, Felinheli am beint. Am y tro a gobeithio bo chi di joio’ch wya pasg fyd! Braidd yn hwyr i ddeud Pasg Hapus ;p