Fy Nhaith i’r Ysgol Feddygaeth
12 Gorffennaf 2021Yn ddiweddar, mi fues i’n aelod o banel cwestiwn ac ateb ar gyfer wythnos profiad gwaith rhaglen Gwyddoniaeth mewn Iechyd yr Ysgol Feddygaeth i ddysgwyr ysgol blwyddyn 12 yn ateb cwestiynau am fynediad i Feddygaeth a bywyd fel myfyriwr Meddygaeth. Yn ogystal â hyn, rwyf yn fentor ar raglen Doctoriaid Yfory’r Coleg Cymraeg ac yn ateb cwestiynau darpar fyfyrwyr ar Unibuddy (gallwch ofyn cwestiynau trwy glicio yma a chwilio amdana i gan ddewis ‘Medicine‘ fel ‘Area of study‘), felly rwyf yn aml mewn cyswllt â dysgwyr sy’n gobeithio astudio Meddygaeth. Rwyf hefyd wedi cyrraedd adref am yr haf i Ynys Môn yn ddiweddar ac mae hyn i gyd wedi gwneud i mi feddwl am fy nhaith i i’r Ysgol Feddygaeth. Yn y blog yma, felly, byddaf yn gobeithio rhoi cyngor i unrhyw ddarpar fyfyrwyr sy’n gobeithio astudio Meddygaeth a disgrifio fy llwybr i i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mi es i i’r ysgol uwchradd yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Roedd gen i frith diddordeb mewn Meddygaeth a’r maes iechyd ers oeddwn yn ifanc ac mae’n debyg mai rhagleni teledu oedd yr ysbrydoliaeth gwreiddiol (ond nid yw hwn yn ateb delfryfol mewn cyfweliad!). Ym mlwyddyn 10, mi es i ar ddiwrnod agored i’r ysbyty lleol ble roedd gweithwyr iechyd o sawl maes gwahanol yn rhoi cyflwyniadau. Roedd y meddyg oedd yn gyfrifol am hyrwyddo meddygaeth fel gyrfa yn llawn brwdfrydedd am ei gyrfa a dyma’r foment wnaeth i mi benderfynu fy mod i am fynd amdani (rwyf wedi cyfarfod y meddyg honno ar leoliad ers hynny ac mae hi yr un mor wych ac ydw i yn ei chofio hi!).
Felly pan ddaeth diwrnod canlyniadau TGAU, roeddwn i’n gwybod bod pwysau ar y canlyniadau yma (gallwch weld y gofynion mynediad ar gyfer Meddygaeth yng Nghaerdydd yma). Mae’r nifer o bwyntiau TGAU sydd eu hangen er mwyn sicrhau cyfweliad yn newid pob blwyddyn, ond roeddwn i’n weddol gyfforddus fy mod i wedi gwneud yn ddigon da. Es i ymlaen i astudio Cemeg, Bioleg, Daearyddiaeth, Ffiseg a’r Fagloriaeth Gymreig Uwch yn y chweched dosbarth. Mae’n bwysig nodi bod Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn derbyn y Fagloriaeth Gymreig Uwch fel cymhwyster cyn bellad â bod y pynciau angenrheidiol eraill yn cael eu cwblhau hefyd (Cemeg a Bioleg), felly mae’n bwysig rhoi ymdrech i mewn i’r ‘BAC‘ oherwydd gall eich helpu chi i gael eich derbyn! Darn arall o gyngor fyddwn i’n ei roi yw, er bod rhaid astudio Cemeg a Bioleg, mae rhyddid llwyr ynglŷn â beth yw eich trydydd (neu bedwerydd!) pwnc. Mae nifer o ddarpar fyfyrwyr Meddygaeth yn pryderu fod rhaid i’r pynciau ychwanegol fod yn ‘wyddonol’, mathemateg a/neu ffiseg yw’r enghreiffitiau clasurol. Sylwch fy mod i wedi astudio lefel A Daearyddiaeth: roeddwn i’n mwynhau Daearyddiaeth, yn ei weld yn ddiddorol ac roedd gen i athrawon gwych. A dweud y gwir, Daearyddiaeth oedd y pwnc wnaeth fy helpu fwyaf yn ystod fy nghyfweliadau Meddygaeth oherwydd fy mod wedi arfer astudio Daearyddiaeth pobl a’r ffordd maent yn ymddwyn ac yn byw. Astudiwch bynciau rydych chi’n eu mwynhau a rydych yn llwyddo ynddynt. Bydd rhan fwyaf o bynciau yn fuddiol mewn rhyw ffordd neu gilydd mewn maes fel Meddygaeth ble rydych yn dod ar draws pobl gwahanol pob dydd.
Wedi gwneud cais, mi i ges i gyfweliadau ar ffurf cyfres o gyfweliadau byr yng Nghaerdydd, Lerpwl a Hull/Efrog. Fy newisidau eraill oedd Biowyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor (ble ges i gynnig) a Meddygaeth yn Nottingham (ble ges i ddim cyfweliad). Mi ges i gynnig (AAA) gan y dair prifysgol ble ges i gyfweliad ac mi wnes i ddewis dod i Gaerdydd oherwydd safon uchel y cwricwlwm C21 a dysgu as sail achosion a’r ffaith bod posib astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pobl hefyd yn aml yn cyfeirio at ‘y pobl’ fel rheswm dros ddewis Caerdydd, rhywbeth mae’r brifysgol, ei staff a’i fyfyrwyr yn falch iawn ohono.
Roeddwn i’n ffodus i gael llwyth o gefnogaeth a chyfleodd gan yr ysgol wnaeth fy helpu i sicrhau mai Meddygaeth oedd y dewis cywir i mi a rhoi profiadau i mi oedd yn cefnogi fy nghais. Mae’r diwrnod agored yna ym mlwyddyn 10 yn enghraifft wych o hyn ac mi ges i fynd i ddwy ffair yrfaoedd gofal iechyd hefyd. Roedd cyfle hefyd i wneud wythnos o brofiad gwaith yn yr ysbyty lleol ym mlwyddyn 12 oedd yn gymorth mawr i mi wrth wneud yn siwr bod y penderfyniad i wneud Meddygaeth yn un cywir. Cefais wario cwpl o oriau mewn sawl adran: yr adran derbyn meddygol, yr uned gofal coronaidd, yr uned therapi amnewid arennol a’r theatr llawfeddygaeth cyffredinol. Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn brif sywddog yn yr ysgol ym mlwyddyn 13 ac yn ystod yr amser yma mi ges i lawer o gyfleoedd i ymarfer siarad cyhoeddus, cyfathrebu gydag aelodau o staff, dysgwyr eraill a llywodraethwyr a threfnu cyfarfodydd a phrosiectau, sgiliau sy’n siwr o fod wedi fy helpu i fod yn fyfyriwr Meddygaeth. Roedd yr ysgol hefyd yn hysbysebu nifer o gyfleodd gwirfoddol ac mi ges i rolau yn y siop Royal Voluntary Service yn yr ysbyty lleol, mewn Clwb Gateaway lleol i bobl ag anableddau dysgu ac mewn clwb ieuenctid. Cefais brofiadau gwahanol yn yr holl leoliadau gwahanol hyn ond maent i gyd wedi fy helpu i fod yn fyfyrwir Meddygaeth.
Dwi’n cofio mynd i ddigwyddiadau tra yn y chweched dosbarth ynglŷn â chael i mewn i’r Ysgol Feddygaeth a chlywed siaradwyr yn trafod y llwybrau gwahanol sydd ar gael er mwyn cael i mewn i Feddygaeth: yn syth o’r chweched dosbarth neu ar ôl cymryd blwyddyn gap; gwneud gradd arall yn gyntaf a gwneud cwrs ôl-radd, neu yng Nghaerdydd mae posib gwneud un o bedwar o gyrsiau bwydo (mwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn yma, ymddiheuriadau bod y wefan ddim ond yn Saesneg pan ysgrifennwyd y blog hwn). Dwi’n cofio meddwl mai mynediad i astudio Meddygaeth yn syth o’r ysgol fyddai’r ffordd orau ac mai dyma fyddai ‘llwyddiant’. Ond wrth fyfyrio, doedd hyn ddim yn wir. Wedi cwblhau gradd ymsang mewn Ffarmacoleg y flwyddyn hon, dwi’n meddwl fyddwn i wedi eithaf mwynhau cwblhau gradd gwyddoniaeth is-raddedig cyn gwneud y cwrs Meddygaeth, mae’n ddiddorol ac mae yna sgiliau sy’n hanfodol i feddygon (megis dadansoddi tystiolaeth a meddwl yn gritigol) yn cael eu haddysgu ar y cyrsiau hyn. Os ydych chi’n meddwl mai cwrs bwydo a mynediad i raddedigion yw’r llwybr gorau i chi, ewch amdnai!
Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi syniad i chi o un llwybr i mewn i Feddygaeth ac wedi rhoi syniadau i chi am weithgareddau allwch chi eu gwneud er mwyn cefnogi cais i astudio Meddygaeth ond cofiwch bod profiad pawb yn wahanol a does dim problem o gwbl hefo hynny. Croeso i chi gysylltu wrth adael sylwad isod neu ar Unibuddy os oes ganddoch unrhyw gwestiynau.
- Advice for Students
- After University
- Ail flwyddyn
- Application Process
- Application Process
- Applying to University
- Arian
- Aros gartref
- Aros mewn
- Astudio
- Byw oddi cartref
- Cardiff University Experiences
- Chwaraeon
- Clearing
- Clybiau a chymdeithasau
- Cooking
- Cyd-letywyr
- Cymraeg
- Darlithoedd
- Dim ond yng Nghaerdydd
- Exams
- Global Opportunities
- Guest posts
- Heb ei gategoreiddio
- Medic Tips
- Mynd allan
- Neuaddau Preswyl
- Open Day
- Opportunities
- Postgraduate Study
- Rhentu tŷ
- Student Heroes
- Student Life
- Studying Online
- Swyddi a phrofiad gwaith
- Teithio
- Things to do in Cardiff
- Top Tips
- Trydedd flwyddyn
- UCAS Application
- Why University?
- Ymgartrefu