Skip to main content

Ail flwyddynCymraegMedic Tips

Dysgu ar Sail Achosion (Case-Based Learning): Beth mae o wir yn ei olygu?

28 Ionawr 2021

Mae dysgu ar sail achosion (DSA) a dysgu ar sail problemau (yn Saesneg, case-based learning a problem-based learning) yn dominyddu dulliau dysgu addysg feddygol modern. Erbyn hyn, ychydig o ysgolion meddygol sy’n parhau i ddysgu mewn modd traddodiadol gyda dwy flynedd cyn-glinigol o wyddoniaeth dwys mewn darlithfeydd cyn cychwyn lleoliadau clinigol ym mlynyddoedd hwyrach y cwrs. Yng Nghaerdydd, rydyn ni’n defnyddio dull DSA. Ond beth ydi DSA? Nôd y blog yma fydd i ateb y cwestiwn hwn.

Cychwynir ddysgu ar sail achosion ar ôl y nadolig ym mlwyddyn 1 o’r cwrs Meddygaeth C21. Mae’r flwyddyn yn cael ei rhannu i grwpiau DSA gyda tua 10 o fyfyrwyr ym mhob grŵp. Mae yna hefyd hwylusydd yn y grŵp, aelod o staff sydd yno i roi cymorth ond sydd ddim o reidrwydd yn arbenigo ym maes yr achos. Mae’r grwpiau a’r hwylusydd yn aros yn gyson am weddill blwyddyn 1.

Mae DSA yn parhau ym mlwyddyn 2 o’r cwrs. Mae’r grwpiau yn newid ar gychwyn blwyddyn 2 ac yn newid eto ar ôl y nadolig ym mlwyddyn 2 felly bydd un unigolyn wedi bod mewn tri grŵp gwahanol erbyn diwedd yr ail flwyddyn gyda thri hwylusydd gwahanol. Mae gan grwpiau a’u hwylusyddion gwahanol reolau gwahanol ynglŷn ag os ydi cyfrifiaduron neu llyfrau yn cael ei defnyddio yn ystod y cyfarfodydd.

Rhai o’r llyfrau wnes i eu gweld yn ddefnyddiol yn ystod DSA

Mae pob achos yn para am fythefnos. Mae’r achosion yn ymdrin â phynciau megis poen yn y frest, poen yn yr abdomen a byrder gwynt. Mae senario yn cael ei roi i’r grwpiau ar gychwyn y pythefnos yn cynnwys sefyllfa presenol a rhai o fanylion hanes meddygol y claf. Mae disgwyl i’r grŵp drafod yr achos a chreu rhestr o amcanion dysgu i’w cyflawni erbyn y cyfarfod nesaf, sy’n digwydd ar gychwyn ar ail wythnos. Mae yna drydydd cyfarfod ar ddiwedd y pythefnos cyn sesiwn darlith gyda’r flwyddyn gyfan i gloi’r achos.

Yn ystod y pythefnos, mae nifer o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol, sesiynau tiwtorial a lleoliad clinigol sydd i gyd yn ymwneud a’r achos. Bwriad DSA yw i adeiladu ar beth sy’n cael ei ddysgu yn nhymor cyntaf y cwrs yn ystod y ‘Platfform ar gyfer Gwyddorau Clinigol’ felly mae yna eithaf llawer o wyddoniaeth yn cael ei ddysgu yn ystod DSA ond mae cysyniadau clinigol yn cael eu cyflwyno hefyd. Rhaid hefyd cofio mai nid ‘datrys’ yr achos yw bwriad DSA ond dysgu. Felly, er efallai eich bod chi’n credu mai trawiad ar y galon (neu ‘gnawdnychiad myocardiaidd’) mae’r claf â phoen yn y frest yn ei brofi, mae’n bwysig dysgu am yr holl achosion eraill o boen yn y frest hefyd oherwydd bydd eich cleifion yn y dyfodol yn dioddef o boen yn y frest o sawl achos gwahanol.

Yn ystod y lleoliadau clinigol sy’n digwydd yn ystod DSA, roedden ni fel arfer yn cyfarfod claf oedd yn debyg i’r un yn yr achos. Roedd cyfle i ni drafod gyda nhw ac ymarfer cymryd hanes feddygol. Yna, roedden ni’n dysgu sut i archwilio pa bynnag system oedd yr achos yn ei ymdrin â fo cyn cael cyfle i ymarfer hyn ar gleifion.

Bathodyn myfyriwr meddygol, rhaid ei wisgo ar bob lleoliad

Mae DSA yn parhau, mewn ffordd, trwy weddill y cwrs, er efallai ddim mor amlwg. Er fod y mwyafrif o’n hamser yn cael ei dreulio ar leoliadau yn ystod blynyddoedd 3, 4 a 5 o’r cwrs, mae yna gyfres o achosion efelychol ar gael er mwyn arwain ein dysgu ac er mwyn sicrhau bod pawb yn cyflawni’r amcanion dysgu hyd yn oed os ydyn ni’n cael profiadau gwahanol ar y lleoliadau. Rhaid cofio hefyd bod yr achosion rydyn ni’n weld ar leoliadau yn gallu cael dylanwad arnom ni a gall hyn fod yn sail ar gyfer mwy o ddysgu o lyfrau neu o adnoddau ar y we.

Mae yna nifer o adnoddau ar gael erbyn hyn sy’n defnyddio achosion cleifion er mwyn cyfleu gwybodaeth. Mae rhain yn cynnwys adnoddau ar-lein yn ogystal â llyfrau megis 250 Cases in Clinical Medicine. Wrth gwrs, ni ellir ddysgu popeth o gyfres o achosion cyffredin, mae yna glefydau anghyffredin sydd angen i ni wybod amdanyn nhw, ond mae gallu adnabod a thrin clefydau cyffredin yn bwysig ac yn rhywbeth sy’n cael ei bwysleisio ar y cwrs C21.

Rydw i’n mwynhau’r defnydd o achosion mewn addysg feddygol. Roedd cael canolbwyntio ar un maes am fythefnos ar y tro yn ystod y cyfnod DSA ffurfiol yn effeithiol, yn fy marn i. Yn ogystal, rydw i’n gweld budd mewn gweld cleifion, trafod gyda nhw a’u harchwilio, cyn mynd ati i ddarllen rhywbeth diddorol am yr achos a dysgu ymhellach, rhywbeth wnaeth un ymgynghorydd awgrymu i ni ym mlwyddyn 1. Er enghraifft, mae’n llawer haws cofio sut cafodd claf penodol ei thrin nag edrych mewn llyfr a dysgu sut i drin deg clefyd gwahanol.

Gobeithio bod hyn wedi rhoi syniad gwell i chi o beth mae dysgu ar sail achosion yn ei olygu ac efallai gall hyn eich helpu i ddewis rhwng math o gwrs integredig neu un traddodiadol. Rwyf yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau am DSA neu i dderbyn unrhyw awgrymiadau ar gyfer blogiau’r dyfodol.